Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
PRUDENTIAL ASSURANCE COMPANY LTD. The Largest, Wealthiest and Best Company to assure in. Prospectus sent on application. Energetic men wanted for Agencies, good round to start on, salary and commission. .>«>■«« 6P.L SUPERINTENDENT OF AGENTS, TO MR. G. H. HEAP. 1, ARGYLE SQ., KING'S CROSS. MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE. W.C. Single Teeth from 51- Complete Sets, Upper and Lower from X4. Repairs executed at Moderate Charges. Old Cases Remodelled. Teeth Extracted, Stopped and Scaled. Siaredir Cyraraep os yn fwy dymunol. ALDRlDGE3s HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDGE'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE. LONDON W.C. Horses of every class sold by Auction each Wednesday and Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded. "Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg." TH E L. C c. WELSH EVENING CUSSES are now being held at the HUGH MYDDELT0N SCHOOL, Corporation Row, Clerkenwell (3 minutes from Farringdon St. District Railway Station) Elementary Monday Evenings, 7.0 to 9.30 Advanced: Friday „ „ Fee for Session, 2s. 6d. Teacher: GORONWY OWEN, M.A. Correspondence to FF. ITHEL MORGAN, Whitehall House, Charing Cross, S.W. A -)i3-CAN NEwroa 1+ SOPRANO NEU DENOR. iwm IP* 9 GAN ELSIE ROBERTS. GEIRIAU GAN EIFION WYN. CYFIEITHIAD I'R SAESNEG GAN E. ANWYL, M.A. PRIS SWLLT. Copiau i'w cael gan David Jenkins, Mus. Bac. (Cantab), Aberystwyth. CEIDWAD CAPEL YN EISIEU. CAPEL CLAPHAM JUNCTION. YMAE Swyddogion Eglwys y M.O. Beanchamp Road, Glapham Junction, yn barod i dderbyn ceisiadau am y swydd uchod. yr hwn fydd yn wag tua Chwefror 9fed. Ymofyner, ar unwaith, trwy lythyr, neu os yn bosibl trwy ymweliad personol a Mr. T. WILLIAMS, 69, Altenburg Gardens, Bafctersea Rise, S.W.
AR DRAETH 1908.
AR DRAETH 1908. Unwaith eto, wele ni, wedi croesi i'r lan arall. Nos Fawrth ddiweddaf, safem ar ben- rhyn olaf 1907, a'r tir yn ysgwyd ac yn chwalu yn ddistaw dan ein traed. Nid oedd gennym ddewis ond croesi'r Hit tawel a gosod ein troed ar draeth dieithr 1908. Blwyddyn brofedigaethus fa 1907, mewn llawer ystyr, i Gymru. Cafodd meddwl ac ysbryd y genedl eu profi a'u cythryblu. Y mae helynt y Commisiwn Eglwysig wedi magu llawer o chwerwder rhwng yr Eglwys Sefydledig ac Ymneillduaeth yr oedd hynny i'w ddisgwyl. Yn anffodus, ar un adeg, bygythiai greu camddealltwriaeth a drwg- dybiaeth yn rhengoedd yr Ymneillduwyr, ac yn eu perthynas hwy a'u harweinwyr. Ond enillodd doethineb y dydd, ac yn lie colled, daeth i ni ennill o'r helynt. Peth arall sydd wedi peri pryder yng Nghymru y llynedd yw trai y Diwygiad. Nid oedd neb ystyriol heb ragweled hyn i raddau. Pa haf fa erioedd heb euaf i'w ddilyn ? Ein perygl y dyddiau hyn yw craffu gymaint ar yr ochr dywell nes bod heb lygad clir i ganfod yr ochr oleu. Pa forwr feddyliai am adael ei long i drugaredd y tonnau, am fod un hwyl wedi myned gyda'r gwynt ? Nid ein gorchwyl ni yw gruddfan uwchben y siomedigaeth, ac anghofio bod yn ffyddlon i ofynion newydd gwaith. Daw eto adeg pan ddeallwn ystyr a disgyblaeth y Diwygiad yn well: pan fydd yr adgof o'r oriau euraidd" hynny yn un o drysorau dewisol ein profiad crefyddol. Peidiwn gadael i un math o siom beri i ni "lithro heibio'r angorfa." Erys y pethau goreu ni ddiflana'r fendith fewnol. Pwyswn lai ar ff urfiau o'r tu allan, ar draddodiad a theimlad -er cofio fod i'r pethau hyn eu gwerth pwyswn fwy ar y creigdir diymod hwnnw nas gall rhuthr-donnau Amser naddu dim arno. Cartrefwn ynghanol pethau disigl. ELFED.
Gwaith y Flwyddyn.
Gwaith y Flwyddyn. Gyda thoriad gwawr blwyddyn arall, a'r son am gyfarfyddiad y Senedd, mae'r gwleid- yddwr cyffredin yn dechreu siarad am waith y tymor. Cred y dosbarth yma mai yn nadleudy Westminster y gorwedd iachaw- dwriaeth Cymru, a pharhant i ddirwyn allan eu haddewidion yn ddiri; ond ca'r oil eu hanghofio cyn daw haul y gwanwyn i daftll ei wenau tyner arnom. Mae gan Gymrll waith pwysicach o lawer na gwrando ar yr areithiwr gwleidyddol a'i eiriau hudolus, ac mae arwyddion fod yn ei bwriad i weitil- redu yn anibynol ar y dosbarth hwn rhag- llaw. 0 dipyn i beth, mae'r ysbryd cened- laethol yn dod yn fwy tanbaid yn y meibion. glew a droir allan wrth y cannoedd o'i hysgolion a'i cholegau y naill flwyddyn ar ol y llall, a chyn hir bydd i'r rhai hyn droi yn arweinwyr diogel i'r gwahanol fadiadau a berthynant i ni yn arbennig fel cenedL Nid yw'r pulpud heddyw mor wasaidd at wasan- aeth y BLaid Ryddfrydol ag y bu, ac nid yw'r yswain sirol mor ddylanwadol fel ag i beri ychwanegiad at gynffonwyr y Sais. Gwel C3 gwyr ieuaine y genedl—a hwy ydynt freudd- wydwyr breuddwydion pob gwlad—fod yn bryd ymysgwyd o'r hen hudlan a throi tu newydd er adfer y wlad i'w bri cyntefig; a'r gwaith cyntaf sydd ganddynt i'w drefnu yn awr yw cael undeb priodol yn y rhengoedd cenedlaethol: gofalu fod pob cwestiwn crefyddol a gwleidyddol i gael ei benderfynu ar linellau cenedlaethol, a hynny yn ani- bynol i ddaliadau pob plaid neu ddosbarth a ddigwydd fod o fewn ein tir. Riiai(I i ni dalu mwy o sylw i lenyddiaeth y genedl; hawlio mwy o sylw i iaith ein tadau a gofalu mai nid rhyw wladgarwyr mewn enw yn unig a fyddwn o hyn i maes. Mae llu o ysgolion canolradd heddyw heb gydnabod safle'r iaith mae mwyafrif ein cynghorau lleol yn ymdrin eu gweithrediadau mewn Saesneg bratiog mae rheolwyr ein colegau cenedlaethol yn Saeson gwrth-Grymreig eu hysbryd; mae gwaith ein Colegau Diwin- yddol yn cael ei ddwyn ymlaea bron yn hollol yn nhafodiaeth yr estron; a lla o fan rwystrau i'w symud oddiar y ffordd cyn y gellir hawlio ein hiawnderau ac ond i ni yn ystod y flwyddyn hon wneud rhywbeth er goresgyn neu ddifodi un o'r pethau hyn, byddwn gam ym mhlellach ar daith Iwydd- ianus ein hadferiad. Gadawer i ni felly wneud ein rhan er cyflawni un o'r gweith- redoedd bychain hyn yn yatod 1908
[No title]
Tysteb Mr. Emlyn Evans. Dydd Gwener diweddaf, Rhagfyr 27ain, cyflwynwyd y Dysteb Genedlaethol i Mr. Emlyn Evans, mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llandrindod. Bydd yn dda gan gyfeilliony cerddor ddeall fod y swm wedi cyrraedd dros bam cant o bunnau, ac wrth. roddi iddo yr arian dywedodd Syr Marcliatit Williams nad oedd neb yn fwy haeddianol o'r gydna- byddiaeth fechan hon na'r cyfansoddwr adnabyddus hwn. Fel mae'n hysbys, rho idwy 1 cychwyn. i'r mudiad ar adeg Eisteddf )d Caernarfon, ac onibae am afiechyd Mr. Evans, bllasid wedi cael eyfarfod i'r anrhegu ar adeg Eisteddfod Abertawe y llynedd. Erbyn hyn mae Mr. Evans ya llawer gwell o ran ipchyd, a daeth i Laudrindod ar adeg y Nadolig i gael ychydig seibiant, a manteisiod i ei gyfeilJioa ar y cyfle i gyflwyno y rhodd iddo.