Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

LONDON WELSH Rugby Football…

[No title]

Y DYFODOL.

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

fod hwylus, ac elw sylweddol oddiwrth y goeden. G. A. DEWI SANT, PADDINGTON.-Boxing V, ight.- Treuliwyd noson lawen ar y dydd hwn yn ystafell Dewi Sant. Yn gyntaf, cafwyd gwledd i'r corph, rhoddedig gan ddynion ieuainc" yr Eglwys, a daeth cynulliad da ynghyd i gyfranogi o honi. Wedyn raff- lwyd" rhai nwyddau neillduol oedd ym meddiant y caplan. Yn ddilynol, cafwyd caneuon gan Misses Maggie Pierce, Nancy Parry, Dan Jones, a H. Pierce. Ar ol y canu treuliwyd y gweddill o'r noson mewn chwareuon diniwed. Mwynhaodd pawb eu hunain yn bur dda. Mae clod yn ddyledus i'r dynion ieuainc am wneud darpariadau mor helaeth er ein cysur y noson hon. Canu Cai-olau.-Anaml y clywir carolau yn cael eu canu mewn addoldai y dyddiau presennol, ond cafwyd gwasanaeth bendi- gedig o honynt yn Eglwys Dewi Sant y Sul ar ol y Nadolig. Prophwydwn i'r carolau, ar y tymor hwn o'r flwyddyn, ddyfodol llwyddianus yn yr eglwys hon. Mae y gwasanaeth yn sicr o fyned yn boblogaidd yn ein plith, a daw tyrfaoedd ynghyd i glywed y carolau. Fe ddichon fod rhai Uymry yn aros yn y brif-ddinas heb glywed carol erioed. Os byw ac iach, y tymor hwn, ilwyddyn nesaf, dyma gyfleustra na ddylid ei esguluso. Cymerwyd rhan yn yr unawd- au, deuawdau, triawdau, a phedwarawdau gan y rhai canlynol:—Mr. Gordon Lewis, Mrs. Richards, Mrs. J. W. Davies, Misses Maggie Pierce, Nancy Parry, Nancy Pierce, Lucy Davies, Mri. Tom Jenkins, 0. Davies, E. Pierce, H. Pierce, Dan Jones, H. Evans, J. Williams, a'r Parch. W. Richards. BORo'Dydd Iau, Rhagfyr 26, cynhal- iodd pobl ieuainc y lie uchod eu cyfarfod arferol. Yn y prydnawn cafwyd araith ar Wasanaeth y Mynachod i Gymru." Wedi hynny cafwyd te ac ymgomwest hapus. Yn yr hwyr cafwyd cyfarfod llawn a hwylus, pryd yr adroddwyd, canwyd, chwareuwyd ar y tannau, a'r cornets, &c., gan y personau canlynol Misses Olwen Jones, Lizzie Jones, M. Gough, Winnie Edwards, Rachel Thomas, Maggie Jones, May Evans, Gwladys Wood, Jenny Jones, Edith Lewis, Sallie Jenkins, Jennie Evans, E. J. Jones, Mri. John Islwyn Lewis, D. Gwilym Evans, Bertie Lewis, E. T. Edwards, Smith, Evan Felix, Harry Watkins, David James, John Lewis, W. R. Watkins, W. 0. Roberts, J. Rice Evans, Trevor John, D. I. Lewis, Campbell-Jones, Merfyn John, Emrys R. Jenkins, Ifor John, D. Cardigan Pritchard, ac ereill. Cafwyd cyfarfod dyddorol a hwylus. Diolchwyd yn wresog i bawb am eu gwasanaeth medrus a pharod. Canodd Mr. Evan Felix yn orchestol yn ol ei arfer. Mae ef yn dderbyniol bob tro y daw i ganu i'r Boro'. Addurnasid y lie a chelyn, uchel- wydd, a blodau yn ddestlus iawn gan Misses Lizzie Hodges, Katie Jenkins, Mary Edwards, Myfanwy Wood, Katie Llywarch, Daisy John, Mri. E. T. Hamer, David Jenkins, ac ereill. Gweinyddwyd wrth y byrddau gan Miss Edwards (Tabard Street), Misses S. J. Mitchell, Dora Davies, Mary Elizabeth Davies, E. A. Pritchard, Sarah Davies (Wandsworth), Mary Ellen Davies, Annie Llywarch, Maud Felix, Mary Llywarch, a nifer ereill. Llonder mawr yw gweled pobl ieuainc yn treulio eu gwyliau yn sobr a gweddus.—Nos Iau diweddaf darllenwyd papurau i'r gymdeithas uchod gan Mri. E. T. Hamer ac Ifor John. Testyn y blaenaf oedd Robert Morrison," ac eiddo yr olaf oedd Griffith John." Gobeithio y llwyddir i wneud mudiad hanner-can mlwyddol gwas- anaeth Griffith John yn llwyddiant gan eglwysi Anibynol Cymru. TRO YN OL.—Mae Mr. Arthur Llewelyn Rees, mab hynaf y Parch, a Mrs. Machreth Rees, wedi dod ar ymweliad i'w gartref o Canada, lie y treuliodd tua phum mlynedd. Ymddengys ei fod yn iach, dedwydd, a llwyddianus yn Canada, ac yn bwriadu dychwelyd yno yn y gwanwyn nesaf. Estyn- wn ein llongyfarchiadau iddo ef ac i'w rieni wrth ei weled wedi tyfu yn ddyn ieuanc o gymeriad gloyw, ac o ragolygon disglair. YN YR HEN W LAD. Daeth y Parch. Robert Jones, Trimsaran, i dreulio ei Nadolig i Lundain gyda'i chwaer a'i frawd-yng- nghyfraith, Mrs. a Mr. D. Powell, Bow Road. Pregethodd y Saboth diweddaf yn alluog a dylanwadol yn Barrett's Grove a King's Cross. Mae yn bregethwr rhagorol ac yn weinidog mewn un o'r mannau mwyaf dy- munol yn Sir Gaerfyrddin. Un o aelodau y Boro' oedd Mr. Jones, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu yn y Boro' yr wythnos hon, a chymerodd ran yn y cyfarfod. Teimlai pawb yn falch i'w weled a deall am ei lwyddiant mawr yn ei gylch newydd. PRIODAS.- Yn nghapel y Tabernacl, King's Cross, dydd Mercher diweddaf, unwyd mewn glan briodas Mr. John T. Lewis, cyfreithiwr, Chancery Lane, a Mrs. Jane Elizabeth Lloyd, gweddw y diweddar Mr. Thomas Lloyd, draper, Oxford Street. Y Parch. H. Elfet Lewis, M.A., fu'n rhoddi y cwlwm priodasol, a rhoddwyd y briodwraig ymaith gan ei thad. Gweinyddwyd arni fel mor- wynion priodasol gan ei chwaer, ei merch, a Miss Lewis, chwaer y priodfab. Gyda'r priodfab fel gweinwyr oedd Mr. W. H. Lewis (ei frawd), Mri. P. W. Williams, ac E. Vincent Evans. Ar derfyn y gwasanaeth yn y capel aeth y cwmni i Westy'r Cecil i fwynhau boreufwyd, ac ymadawodd y par dedwydd yn ystod y prydnawn am Paris, ar eu ffordd i'r Eidal ac awyr hafaidd mor y canoldir, lie y bwriadant dreulio eu mis mel. MR. FRANGCON DAVIES.-Bydd yn flin gan lawer glywed fod y cantor enwog hwn yn parhau yn wael, ac ofnir nas gwelir ef yn ol ar y llwyfan gyhoeddus am hir amser. Mae ei feddwl a'i gof wedi eu amharu; ond gan ei fod wedi ei gymeryd ymaith tan ofal meddyg caredig, gobeithir y daw ychydig yn well cyn bo hir. Yr oedd ei gyfeillion yn ofni ers tro fod ei graffder yn pallu, ac hwyrach mai'r gor-lafur y blynyddoedd diweddaf hyn sydd wedi achosi'r fath anffawd iddo pan yng nghanol ei lwyddiant. WALHAM GREEN.—Cartref oddicart,ref.- Nos Nadolig cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol ac adloniadol yn neuadd y capel uchod. Cyn ac ar ol y cyfarfod cyfranogodd lliaws o aelodau yr eglwys o de a danteithion o'r fath oreu, y rhai a ddarparwyd mewn cyflawnder gan un o foneddigesau mwyaf caredig yr eglwys hon, sef Mrs. Thomas, Warwick Road. Gan fod yr hin yn ddymunol daeth tyrfa liosog ynghyd, a chafwyd cyfarfod hynod o hwylus o dan arweiniad medrus Mr. Tom Jenkins, yr hwn a gollasom tua hanner y cyfarfod, gan fod disgwyliad am ei bresen- oldeb mewn cyfarfod cyfYelyb mewn lie arall. Beirniadwyd y gerddoriaeth a rhai cystad- leuon ereill gan Mr. D. Thomas, Morley Hall. Yn fyr wele enwau y buddugwyr :— Adroddiad i blant dan 10 oed, Miss Emily Williams unawd contralto, Miss Edwards unawd i blant (1) Miss Emily Williams, (2) Master Tommy Lloyd; pencil drawing (1) Miss Kitty Lloyd, (2) Miss Lilian Evans; adroddiad i rai dan 16 oed, Miss Bessie Williams; llythyr caru, Mr. Jones, Filmer Road unawd i feibion, Mr. J. D. Edwards ateb cwestiynau, Miss Kate Jones; unawd soprano, Miss Blodwen Humphreys deuawd, Miss Humphreys and friend adrodd emyn- au (1) Miss Maggie Jones, (2) Miss E. C. Roberts; darllen difyfyr, Misses Maggie a. Mary Jones yn gyfartal wit, Mr. Thomas- Oliver. Wedi talu y diolchiadau arferol ymwahanwyd yn swn Hen Wlad fy Nhadau," o dan arweiniad Mr. John Humphreys. R.