Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ail DAN NAWDD DUW A'l DANGNEF," Grand EISTEDDFOD IN CONNECTION WITH ST. DAVID'S WELSH CHURCH (ST. MARY'S TERRACE, PADDINGTON GREEN, W.), TO BE HELD AT GXTTEIErLT'S :E3:ALL (LANGHA PLAOE, ON THURSDAY EVENING, JANUARY 30th, 190S, Commencing at 6.30 p.m. prompt. CHIEF CHORAL (Male Voices), numbering from 60 to 80-( a) "Lovely Maiden" (D. Pughe Evans) (b) "Nidaros" (Dan Protheroe). (Test pieces at the Royal National Eisteddfod in Swansea, 1907.) First Prize £60 and Gold Medal to Conductor; Second Prize £ 10 SECOND CHORAL (Mixed Voices not numbering under 40)-" How lovely are the Messengers" (Mendelssohn) Prize X15 and Silver Mounted Baton to Conductor 00% I= .0% IV% i Chairman ft* A. MA YLump, Esq. Gonduetop I. EDWS (GWynedd). ADJUDICATORS- S. COLERIDGE TllYLÐR, Esq. WILFRRIO JONES, Esq. ACCOMPANIST = Miss NANCY PIEReE List of other items for competition can be had from the Hon. Secretaries- Mr. TOM JENKINS, 23, Haverstock Road, N.W. and Mr. D. G. LLOYD, 10, Estelle Road, Gospel Oak, N.W. PRICES OF ADMISSION-Reserved Seats, Xl 1/- 10/6, 5/ 3/ 2/- Unreserved, 1/- Eight Choirs will compete on the Chief Chora! F The Mwsicai Treat of the Seasonrf- ■■iiiiiimip
., NODIADAU LLENYDDOL.
NODIADAU LLENYDDOL. Golygydd "Cymru." Bu'r si ar led beth amser yn ol fod Mr. O. M. Edwards yn rhoddi heibio ei gysyllt- iadau golygyddol a'r cylchgronau Cymreig, ond deallwn yn awr nad yw yn bwriadu ymadael a gofal y misolyn gwerthfawr hwn. Yr unig gyfnewidiad a wnaed ar ddechreu'r flwyddyn oedd, penodi Miss Winnie Parry i fod yn olygydd ar Cymru1r Plant, a gallem feddwl fod y penodiad yn un hapus iawn. Mae y llenores ddoniol hon wedi cyfoetliogi llawer ar dudalenau y cyhoeddiad bach a gyhoeddir mor rheolaidd gan Mri. Hughes a'i Fab, a gwyr yn briodol beth yw'r arlwy a ddisgwylir o fis i fis gan y plant. Mae Mr. Edwards ei hun yn bwriadu ychwanegu at nifer llyfrau Cyfres y Fil cyn dyfodiad yr haf, a, rhwng pob peth ai gilydd, gallem feddwl fod ei amser segur yn bur ychydig. Parch. Owen Evans, D.D. Dyma un o ysgrifenwyr mwyaf cynrychiol yr enwad anibynol, os nad yn wir y pulpud Cymreig yn gyffredinol. Ar hyn o bryd y mae'n brysur wrth y gorchwyl o baratoi ei ddegfed gyfrol drwy'r wasg. Ser y Dwyrain" yw penawd ei lyfr newydd, ac ymdrinia yn bennaf a hanes boreuol Crist- ionogaeth. Mae Dr. Evans yn ysgolor gwych, medda- lawer iawn o athrylith llen- orol, a gwyr hefyd beth yw prif angen y darllennydd Cymreig. Nid rhyfedd fod ei weithiau yn cael derbyniad parod gan y cyhoedd. The Nationalist. Ceir dwy ysgrif o gryn ddyddordeb yn rhifyn Ionawr or misolyn hwn. Yn un rhoddir hanes diwedd Llewellyn ap GrufTydd, fel y trechwyd ef trwy frad yn ardal Llanfair- it muallt; ac fe ddylai plant ein hysgolion gael y bennod hon yn eu llyfrau hanesyddol er mwyn dangos iddynt mor anghywir yw llyfrau hanes y Sais. Yr awdwr yw Owen Rhoscomyl, gwr sydd yn gwneud llawer iawn yn y dyddiau hyn i osod hanes Cymru. ar seiliau cenedlaethol. Mewn ysgrif arall edrydd Mr. L. J. Roberts, un o arolygwyr yr ysgolion, lawer o ffeithiau dyddorol am gys- ylltiadau y llenor Seisnig, Mr. Thomas de Quincey a Chymru. Lied gyffredin yw nodiadau y Gol. am y mis, ond ceir darlun tarawiadol o Syr Marchant, yr hyn sydd yn fath o iawn am brinder cynnyrch ei ysgrifell. ZD Celtia. Dyma rifyn Ionawr ar y bwrdd, ac yn addaw yn dda ar ddechreu blwyddyn arall. Llwydda'r golygydd i gael ysgrifau o ddydd- ordeb i'r holllwythau Celtaidd, ac er mai yn Saesneg yr argreffir ef, gan mwyaf, y mae i'r ieithoedd Celtaidd eu lie hefyd.
[No title]
MAE Plaid Llafur mewn pryder ynghylch dewis arweinydd yn lie Mr. Keir Hardie. Mae gan y Blaid amryw o bersonau galluog yn Nhy'r Cyffredin, a chredir mai i ran Mr. Ramsay Macdonald y syrth y gorchwyl.1 GAN fod cadgyrch y penillion llymrig (Limericks) wedi dod a'r fath elw i gyllid y Llywodraeth, ni chondemnir yr arferiad ar hyn o bryd. Mae nifer y postal orders wedi cynyddu wrth y miliynau yn ddiweddar, a phriodolir hynny i'r cystadleuon amheus hyn. AR waetha'r cri parhaus yn erbyn Masnach Rydd, mae'r ffigyrau a gyhoeddir gan awdurdodau'r Bwrdd Masnach, i ddynodi ein trafnidiaeth a gwledydd tramor, wedi chwyddo yn aruthrol yn ystod y misoedd diweddaf.
Advertising
EISTEDDFOD FLYNYDDOL Y Tabornaci, KING'S CROSS. Sadwrn, Ghwefror 15, 1908. '1" T T TT, "'T' Rhai o'r Testynau- Parti o Leisiau Cymysg (12-16), Nant a'r Blodeuyn" Gwobr 2 Gin. Deuawd, T. a B., Y ddau Arwr Gwobr Gini Unawd Soprano, Y Lili Wen Gwobr 5/- Tenor, Can y Bardd wrth farw Gwobr 5/- Unawd Bass, Y Bachgen Dewr Gwobr 5/- Adroddiad, "Troedigaeth Saul" Gwobr 5/- Araith pedair mynud, "Women's Suffrage" Amryw destynau mewn Rhyddiaeth a Barddoniaeth. Yr oil yn adored i GYlmy Llundain. Rhestr gyflawn o'r testynau oddiwrth yr Y sgrifenyddion- T. M. PHILLIPS, 7, Holborn Circus, E.C. BEN EDWARDS, 4, Gallia Road, Highbury, N.