Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

------GWAITH Y FLWYDDYN.

Yr hen stori.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr hen stori. Mae'r llysoedd chwarter ym Mon ac Arfon wedi bod yn ymdrin yr un hen gwestiwn- anfoesoldeb Cyrnru wledig-yn eu cyfar- fodydd diweddar, a chyda'r un canlyniadau arferol o bardduo cenedl gyfan oherwydd airweddeidd-dra rhyw ddosbarth arbennig o bobl yng Nghymru. Nid ydym an anwy- byddu'r drwg mawr hwn nac am leihau ei niwed ar gymdeithas, ond yr ydym yn credit fod gwaith yr ynadon ac ereill yn rhoddi'r fath gyhoeddusrwydd penagored i'r mater, a hynny heb awgrymu un math o wellhad, yn beth i'w gondemnio yn y modd cadamaf. Gwyr pawb fod anfoesoldeb lawer yn ffynnu, ond mae'r ensyniad anfoneddigaidd fod pob priodas a gymer le ger bron y cofrestrydd yn. rhyw fath o addefiad o anfoesoldeb y partion ion yn athrod o'r fath waethaf. Ym mhoV gwlad un o bechodau, neu frychau, pennaf yr ardaloedd gwledig yw nifer y plant anghyfreithlon a restrir ynddynt; tra or ochr arall cydnabyddir mai'r trefydd mwyaf anfoesol yw'r rhai lie mae'r genedigaetbaw yn ychydig. Pe bae ynadon Mon ac Arfon wedi rhoddi'r sylw priodol i'r cwestiwn credwn na fyddent wedi rhedeg i gondemnio cenedl gyfan heb ryw gynllun i Jeihau'r drwg. Nid trwy warthruddo cenedl mae ei gwella, ac nid trwy siarad penagored fel y gwnai'r Saeson hyn, y mae i ni buro cym- deithas o'r pechod anffodus hwn.

[No title]