Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cleber y Clwb.
Cleber y Clwb. Ar ol seibiant y Nadolig a'r Calan yr oedd cynulliadau y clwb wedi dod i'w lien gynefin yr wythnos lion. Troais i mewn ddechreu'r wythnos, pan yn dychwelyd o'r wlad, a chefais amryw o aelodau pwyllgor yr Eisteddfod yno yn paratoi gogyfer a gwaith yr wythnos. Deallais fod cryn lawer o waith yn cael ei drefnu ganddynt y dyddiau hyn, ac fod rhagolygon y ceir rhyw lun o raglen allan cyn y Sulgwyn. Byddai hynny yn waith canmoladwy hefyd, oherwydd os ydynt am. gael rhai gweithiau pwysig yn yr adran lenyddol, dylai'r cyfansoddwyr gael rhagor na blwyddyn o amser i'w paratoi. Ond feallai na fydd Pwyllgor Llundain ddim mor uchelgeisiol a rhai pwyllgorau yn y wlad. Clywais am un cynygiad a wnaed ynglyn a'r Eisteddfod rhyw bum mlynedd yn ol, a haedda ei gofnodi. Awgrymai un brawd y dylid rhoddi pum gini o wobr am waith ar Hanes Cymru ar gynllun Green's History of the English people. Gwir fod angen am y fath waith, ond nid drwy'r Eisteddfod Genedlaethol y mae i ni ei sicrhau, ac ni wnai gwobr o bum gini ddim hudo neb i'r maes, gallwn dybio. Byddai yr un mor afresymol gweled gwobr o gini am awdl o ddwy fil o linellau ar Y tanddaearolion leoedd Ond beth bynnag fydd penderfyniadau y gwahanol bwyllgorau, hyderaf y dygir digon o'r ysbryd Cymreig i'r holl weithrediadau fel ag y gellir sicrhau Eisteddfod Gymreig ym mhob ystyr. Mae'n burion peth i ni waeddi Ein hiaith ein gwlad a'n cenedl," ac argraffu'r hen frawddeg Oes y byd i'r iaith Gymraeg ar barwydydd ein hystafelloedd os ydym i ddwyn llawer o elfenau Seisnig i'r holl weithrediadau. Clywais am rywun yn awgrymu y priodoldeb o gael beirniaid Seisnig i gyd ar yr adran gerddorol, a chael cyfansoddiadau Seisnig i gystadlu arnynt, am nad oes gennym ni nac unawd nac un math o gyfansoddiad cerddorol teilwng o gael ei berfformio (dyna'r gair mawr) o flaen cynulleidfa ddysgedig a pharchus o G-ymry Llundain! Rhaid i'r pwyllgor osod y pastwn ar ben pob ynfytyn a ddwg y fath heresi i fewn i'r pwyllgorau hyn. Nid ydym heb ein diffygion, mae'n wir, ond Duw a'n gwaredo rhag efelychu'r Sais ym mhob peth, yn enwedig yn ei gynlluniau Eistedd- fodol. Paham y myn rhai pobl i ni gredu yn barhaus fod rhyw ragoriaeth arbennig yn perthyn i'r hyn a alwant y byd Seisnig Own mai ymgais fawr llawer o'n marsiand- wyr cyfoethog yw dod yn fath o efelychwyr i'r cyfoethogion Seisnig. Yn ystod yr ugain -mlynedd diweddaf hyn yr wyf wedi cael cyfle i sylwi ar y Cymry—os gellir eu galw yn Gymry hefyd—cyfoethog sydd wedi rhoddi ffarwel i'r byd Cymreig a myned i fewn am yr hyn a alwant yn Society." Nis gellir dychmygu am ddim mwy truenus! 03 bu ystyr erioed i'r frawddeg Seisnig H failure iii life," rhaid addef mai yn y cysylltiad hwn y gwelais i y methiantau mwyaf difrifol o bob methiant. Maent yn colli pob nodwedd Gymreig, ac yn methu yn lan a meddiannu yr arddull Seisnig, a safant fel hurtiaid dilun rhwng deufyd-yn ddir- mygedig gan eu cydgenedl ac yn destynau gwawd gan y Sais ar bob amgylchiad ond pan fydd angen eu hamddifadu o'r ychydig ,"bres sydd ganddynt. Os yw ein hadran gerddorol mor ddiffyg- iol ag y myn rhai Sais-addolwyr ei bod, a'i nid gwaith yr Eisteddfod ddylai fod i wella y cyfryw ? Paham na roddir rhagor o wobrwyon yn flynyddol am nifer o ganeuon sieu ganigau, a rhyw waith teilwng o gael ei gyflwyno mewn cyngerdd uwchraddol ? Pe baem i drefnu rhagor o'r pres am gyfansoddi a llai am ganu ar y llwyfan, feallai y deuai gwell Uewyrch ar bethau ac y cawsem ami i Sais i gystadlu fel y gwelir yn awr yn yr adran leisiol ? Ond hwyrach fod y Sais mor brin o gyfansoddwyr ag yr ydym ninnau yng Nghymru. Yn wir, does yr un gwaith mawr wedi cael ei gynyrchu gan yr un cyfansoddwr Seisnig yn ddiweddar, fel mai annoeth yw gwaeddi dilynwch esiampl y Sais" pan nad yw hwnnw yn gwneud dim er ein dyddori na'n hyfforddi. Ap SHON.
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. Miss GWLADYS ROBERTS.—Y mae y gan- tores ragorol hon yn ennill tir o hyd. Bydd yn dda gan lawer glywed ei bod i ganu yng ngwyl bwysig Norwich ym mis Medi. Bu ychydig amser yn ol yn canu yn y gwaith "King Saul" (Hubert Parry) yn Sheffield. Clywodd Syr Hubert hi yn canu ei rhan mewn rehearsal., ac anfonodd air at Dr. Coward, Sheffield, i ddweyd fod y gantores yn canu wrth fodd ei galon Y mae Miss Roberts bellach wedi ei gwneud yn Associate o'r R.A.M. Ac y mae hefyd mewn meddiant o bob Tystysgrif, gwobr, a Scholarship oeddynt yn bosibl iddi eu hennill yn y sefydliad hwn. Prawf hyn oil ei bod wedi gwneud defnydd da o'i hamser yn yr Academy. Yr wyf yn llawenhau yn fawr yn ei llwyddiant hi, a gobeithiaf yr el yn uwch o hyd. EISTEDDFODAU Y NADOLIG.—Cynhaliwyd nifer fawr o'r cyfryw ar Ddydd Nadolig a Boxing Day, fel arfer. Ond sylwi yn fanwl ar restr y darnau ganwyd, gwelir nad oes ychydig, os dim, cynnydd yn safon y gerdd- oriaeth. Rhaid cofio, modd bynnag, mai bai yr ychydig bersonau ydynt yn dethol" ydyw hyn. Clywaf yn fynych am y rhai sydd yn gofalu am ddewis tonau i Gyman- faoedd a darnau i Eisteddfodau lleol, eu bod —o ran y mwyafrif—yn anabl i wneud dewisiad chwaethus. Y canlyniad yw fod rhyw un neu ddau yn eu harwain wrth eu .trwynau. Ar y Haw arall, y mae perygl gwaeth i gerddoriaeth fel celfyddyd yn ein plith fel cenedl, set y dewis parhaus o ddarnau am eu bod yn gystadleuol mewn mannau ereill, ac felly yn lied sicr o ddenu y corau i gystadlu. Y wedd fasnachol hon ydyw y prif rwystr ar ffordd ein cynnydd gyda'r gan, ac y mae yn rhwystr nas gellir ei gondemnio yn rhy lym. Beth ydyw y rheswm fod corau Cymreig yn cael eu trechu ar brydiau gan rai Saisnig ? Ai am fod yr olaf yn fwy galluog, neu yn meddu. ar well lleisiau? Nage, yn sicr, eithr am nad ydyw y Cymry yn darpara digon. Ychydig iawn o ddarnau newyddion. y gelwir arnyt i'w canu, felly ni phetrusir. Y canlyniad ydyw fod y Sais ymroddgar yn cipio'r wobr yn fwy myaych nag y dylai. Y mae yn bryd i bwyllgorau fentro ar y cynllun o ddewis darnau newyddion teilwng. Rhodder galluoedd y corau ar waith gor- foder hwy i feddwl—nid am yr arian enillir, eithr am gynnwys ag ystyr y gerddoriaeth. Felly ceir meithriniad i'w chwaeth, ac ennill i gan fel celfyddyd. Wele frasolwg ar y darnau ganwyd yn yr Eisteddfodau adeg y Gwyliau sydd newydd fyned heibio. FFESTINIOG.-Coran plant, Teilwng yw'r Oen (Dr. Parry)—hen ddarn sydd wedi ei ddyrnuj yn bur Iwyr erbyn hyn. Pump o gorau. Cystadleuaeth weddol iawn." I gorau mawrion, "Pebyll yr ArglwyddM (Parry). Hen ddarn eto. Anwybyddir y nifer fawr o ddarnau newyddion sydd yn y farchnad. Beth ydyw y rheswm ? BANGOR.—I gorau merched, lesu, cyfaill f'enaid cu," dau gor. Rhanwyd y wobr. LERPWL.—Dim ond dau gor, sef yr eiddo Sefton Park a Berwyn. Yr olaf yn oreu. Pa le y mae y brwdfrydedd corawl wedi myned ? Clywais, ryw dair blynedd yn ol, gymaint a phump o gorau meibion yn ymgeisio, yn eu plith yr ydoedd cor enwog Southport. A ydyw cor meibion Lerpwl wedi darfod o'r tir ? LLANRWST.—Y darn corawl, Y Seren Unig (Isalaw). Y mae pobl dda Llanrwst eisieu deffroad. 5 TALYBONT (CONWY). Yr un darn a'r uchod. Dau gor yn ymgeisio. Yr eiddo Roewen yn oreu. RHYL. Yn y gystadleuaeth i gorau meibion, cafwyd canu da. Buddugol, cor Colwyn. Trechwyd cor Warrington, yr Appolo Prize Choir." CAERDYDD (Memorial Hall).—Am ganu yr Her Unawd, Mr. GwiIym Price yn oreu. Soprano, Miss Gertrude Lattey. Contralto, yn gyd-fuddugol Miss Edith Eddins a Mrs. James Williams. Tenor, Mr. G. Price. Baritone, yn gyd-fuddugol, Mr. W. G. Lewis a Mr. Orlando W. C. Lydford. MORRISTON. Darn i gorau meibion. Goreu cor Morriston. Yn ddilynol i'r Eis- teddfod canwyd "Psalm 42ain" (Mendel- ssohn), gan gor y Tabernacl. MAESTEG.—Bu chwech o gorau cymysg yn cystadlu. Goreu Cor Undebol Maesteg. TREORKY.—Nos Nadolig rhoddwyd dat- ganiad o'r gwaith "The Light of Life" .(Elgar), gan gor o 250 o leisiau, o dan ar- weiniad Mr. J. T. Jones, L.R.A.M. Cerdd- orfa yn cyfeilio. Y dydd dilynol canwyd y Redemption (Gounod), Hymn of Praise (Mendelssohn), a Dies Ivee (Cherubini). CWMAMAN. Canwyd King Olaf (Elgar). ABERDABE.—Canwyd The Prodigal Son," gan gor undebol Bryn Seion. <S PONTYPRIDD.—Canwyd y gwaith poblogaidd Maritana gan Gymdeithas Gorawl y lie, o dan arweiniad Mr. W. Thompson. Oddiwrth yr uchod, givelir fod mwy o sel gyda'r g&n yn y Deheudir nag yn y Gogledd ac ymlaen yr elo'r cantorion gyda'u cyng- herddau uwchraddol a'u datganiadau o weithiau pwysig fel y rhai a enwyd. MR. DAVID RWHARDS.- Yr oedd organydd y Tabernacl, King's Cross, yn rhoddi Organ Recital yng "Nghapel Mawr," Dinbych, y Nadolig. Da gennyf fod galw ar chwareu- wyr fel hwn i Gymru. Carwn glywed am Organ Recital mynych ym mhob capel lie y mae organ. Odid na fyddai hynny yn beth Hesol. CERDDORIAETH FEL MEDDYGINIAETH. Ychydig amser yn ol gwnaed sylwadau ar hyn yn. y golofn hon. Yn y New Yorl" Times y dydd o'r blaen gwelais y llinellau doniol canlynol ar y testyn My Musical Remedies. Now that Medical Elation is the latest medication And our Doctors are prescribing mellow strains instead of pills, I have written a Cadenza which should cure an In- Uuenza Just by aurally imbibing its remediary trills. I've a little Operetta which should make mankind my debtor, As it's strangely efficacious in diseases of the heart; And my Rhapsody, ecstatic, is for maladies hepatic, While my Fugues are so vivacious they make circulation start. Then my Chorus (Moderato), with a bass drum oblsgato, Will dispel hallucination of the very vilest type, And my Nocturnes in Q Minor, for an overzealous diner, Will be quite a revelation, as they cure without ct., gripe.