Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLOFRUDDIO YR IAITH GYMRAEG!

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFRUDDIO YR IAITH GYMRAEG! Yn adroddiad cyfarfodydd yr Undeb, perthynol i un o'r enwadau, y llynedd, ceir i un gwr graddedig, ac athraw cyfrifol yn ychwanegol at hynny, yn defnyddio yr ymad- rodd a ganlyn Mae pob plank yn eich rhaglen wedi ei ddadleu ar lwyfan ein cym- deithasau mawrion ac wedi cyffwrdd tant yn ein calonnau." Rhaglen yn gynwysedig o blanciau, sylwch Plane wedi cael ei ddad- leu Tant yn ein calonnau wedi cael ei gyffwrdd a phlanc Bobl bach, ai dyma yw ftrwyth diwylliant y prif ysgolion ? Nid rhyfedd fod gwerin Cymru yn methu canfod rhagoriaeth y gwyr dysgedig hyn ar ben gewri athrylithgar yr oes o'r blaen. Brithir yr adroddiad o'r pregethau a'r anerchiadau a draddodwyd a'r ymadroddion a ga-nlyn Ideal Duw." Yr angenrheidrwydd am deeper spiritual life." "Crime yn erbyn Duw." Yn right nou yn wrong Crist yn cadw mewn touch a'i Dad." Ofnid fod taint o lunacy yn y teulu." Perygl y gweithiwr wrth weled y dollar yn almighty yn y byd." Whole hoggers yn y byd eglwysig." "Problems i'w salvia." "Aiff competition yn fwy keen," &c. Yn wir, yn wir, anodd gwybod pa un ai wylo ai ynte chwerthin sy'n fwyaf gweddus o dan y fath weinidogaeth. Arferwn feddwl nad oedd iaith gyfoethocach mewn bod na'r Gymraeg at wasanaeth y pulpud. Sylwch arni yn yr ymadroddion uchod, unwaith eto. Onid ymddengys yn dlawd a gresynus dros ben? O'r braidd yr adwaenwn hi. Ymddengys yn ilesg, yn glwyfus, ac ymron a marw, y tu- hwnt i obaith adferiad. Paham, tybed, y ceisid gwasanaeth dynion mor anwybodus o'u hiaith eu hunain i annerch cynulleidfa- oedd yr uchel-wyl flynyddol ? Ynddi, mi wn, y disgwylid goreuon yr enwad, gan y werin. Deuwch gyda mi yn awr am dro i'r cwrdd dirwestol ynglyn a'r un gyfres o gyfarfodydd. Edrychwch ar y brawddegau a ganlyn:- Rhoddi iawn i'r Hew rhuadwy sydd yn ilechwraidd wylio yr oen diniwed; rhoddi iawn i sarff gyfrwysgall sydd yn lladradaidd gordeddu ei hun oddiamgylch i'w hysglyf- aeth er dirwasgu ei hoedl allan o hono." Yn hytrach na rhoddi iawn i fasnach sydd fel hyn yn lladd yn barhaus, ei lladd hi ddylid wneud a rhoddi ei pherchenogion i farwolaeth hefyd." Mae meddwl fod y fath ymdrech yn cael ei gwneud [i leihau awdurdod yr ynadon] ym Mhrydain Brotes- tanaidd heddyw, yn ddigon i wneud i'r diafol ei hun wrido ac i gythreuliaid annwn gywil- yddio." Yr oedd dyn tylawd wedi syrthio i wendid; ac er mwyn iddo gryfhau cyng- horodd ei feddyg ef i gymeryd brandy ac oysters; ond 'doedd y truan ddim mewn Hordd i'w cael; ond gwnaeth y goreu o'r peth tebycaf iddynt, sef cocos a ginger pop a gw-ellhaodd yn gampus." Y tafarnwr neu y bragwr, onide, all hawlio iawn o dan gyfraith Balfour. Geilw yr areithiwr hwn ef yn Hew rhuadwy, yn sarff gyfrwysgall, ac yn fasnach Sut y gall neb fod yn bob un o'r pethau hyn ? Mewn pentref ym Meirion- ydd, flynyddau yn ol, gwelais, uwchben siop, y geiriau hyn Yoltiz Jones, Grocer, and Refreshment Room." Nid oedd trigolion y pentref hwnnw yn gweled dim byd yn ysmala yn y geiriau. Ac yma, sut yn y byd mawr y gall dyn fod yn fasnach ? Gwyddom nas gall neb llai na pherson hawlio iawn. Eto sylwch, Llew rhuadwy sydd yn llechwraidd wylio yr oen diniwed." Onid yn ddistaw, yn anisgwyliadwy ac yn ddirybudd y gwna pob creadur llechwraidd ei waith ? nid wrth ruo. Ond eto, sylwer mai nid oen ddywedir, ond "yr oen hynny yw, rhyw oen arbennig. Pa beth a feddylir wrtho ? Erbyn edrych yn fanylach fyth, ni ddywedir fod y Hew yma yn gwneud unrhyw niwed i'r oen, wedi'r cwbl. Ei wylio yn unig a wna. Ni fyddai, am wn i, fawr o ddim i'w ddweud yn ei erbyn pe gwnelai hynny heb ruo'n Ilechwraidd. Ond gallwn feddwl i'r areithiwr golli ei dymer nes dweyd ohono fod rbyw ymdrech yn cael ei gwneud ym Mhrydain Brotestanaidd digon ei maint i wneud i'r diafol wrido ac i gythreuliaid annwn gywilyddio Onid oes gobaith am adferiad y bodau hyn os gallant wrido a chywilyddio ? Yna dywed hanesyn bach am ryw wr truan yn methu fforddio cael brandy ac oysters yn ol cyngor ei feddyg, ac yn gorfod cymeryd y pethau tebycaf iddynt, sef cocos a ginger pop, ac iddo wella yn gampus drwy'r cwbl. Peth rhyfedd na fuasai'r gynulleidfa yn tori allan i ganu- Ginger wine a chwrw llwyd, Mae o'n ddiod ac yn fwyd. So early in the morning, Before the break of day. Nia gwn am bennill mwy gweddus i der- fynu araith fel hyn. Nid Pantycelyn a'i cant, cafiwch.-(O'r Geninen am lonawr.)

I" Bwrdd y Gol.

Advertising