Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD YN PRETORIA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD YN PRETORIA. Myn y Oymro gynnal Eisteddfod ym mha lie bynnag y bo. Yr wythnos hon daw'r iianes o Ddeheu Affrica am Gymry ardal Pretoria yn cynnal gwyl fawr ar y 14eg o Ragfyr diweddaf. Yn y wlad honno, fel ym mhob gwlad arall, mae llu o feibion Gwalia wedi ymgartrefu, ac mae amryw o Gymdeith- asau Oymreig wedi eu sefydlu yn eu mysg gyda'r amcan o gadw yn fyw yr iaith a'r ysbryd cenedlaethol. Dengys rhaglen Eis- teddfod Pretoria fod yr wyl yn deilwng o'r lien sefydliad gartref, y testynau yn lliosog, a'r gwobrau yn anrhydeddus. Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn yr Opera House, Pretoria, a chaed dau eisteddiad, un yn y prydnawn, a'r Hall yn yr hwyr. Yn y prydnawn llywyddid gan Faer y dref, Dr. S. R. Savage, a Mr. James Vaughan, cadeir- ydd y Cambrian Society yn y dref. Oaed cystadleuaethau dvddorol, megys unawd i ferched, pedwarawd, unawd ar y berdoneg, adrodd, a chorau'r plant, yn ogystal a nifer o ddyfarniadau mewn celf a Ilea. 'Roedd cynulliad rhagorol wedi dod ynghyd, ac awgrymodd y Maer y buasai'r Gorphoraeth o hyn allan yn cynorthwyo'r mudiad blyn- yddol hwn trwy roddi rhai o'r prif wobrau. Yng nghyfarfod yr hwyr yr oedd y dorf yn enfawr, a bu raid cadw llawer allan o'r adeilad gan nad oedd lie iddynt. Rhedai trens arbennig i Pretoria o drefl. cyfagos, a Johannesburg, gan ddychwelyd am tua banner nos ar ol i'r Eisteddfod orffen. Llywydd yr hwyr oedd Mr. T. R. Price, C.M.G., prif arolygydd y rheilffyrdd, a chaed araith hyawdl ganddo ar werfch yr Eisteddfod a'r fantais o'i chadw yn fyw mewn lleoedd fel Affrica, Yr oedd yn llawenhau wrth weled a fath dalentau yn ymddangos ar y Ilwyfan yno, ac ni fyddai'r mwyafrif o lionynt yn anghlod hyd yn oed i'r Eisteddfod Genedlaethol ei hunan. Awgrymai y priod- oldeb o gynnal Eisteddfod Genedlaethol yn Affrica, ac ond i'r gwahanol Gymdeithasau Cymreig ymuno a chael cyd-ddealldwriaeth, credai y byddai y mudiad yn un llwydd- ianus iawn. Yn ystod yr eisteddiad hwn y caed y prif gystadleuaethau, a dywed y papurau lleol i rai cantorion gwych wneud eu hymddangosiad yn ystod y cyfarfod, er mawr foddhad i'r dorf. Ym mysg yr enillwyr "roedd Saeson ac Ellmyn, yn ogystal a o Dhymry, a chan fod y gynulleidfa mor gymysg cerid y gwaith ymlaen yn bennaf yn Saesneg. Yr oedd yr awr wedi rhedeg yn hwyr cyn dod at y terfyn, ac yn hyn o beth gwelir fod Eisteddfodau Affrica yn dilyn esiampl y cyfarfodydd a geir yn ein plith ni yn Llundain. Trodd yr anturiaeth allan yn llwyddiant mawr, ac mae'r cyfan i'w briod- oli i weithgarwch aelodau y Gymdeithas Gymreig yno, ac yn enwedig i'r ddau ysgrif- ennydd, Mr. Harri Williams a Mr. E. J. Roberts. Yn ystod y cyfarfoiydd cyhoeddwyd y cynhelir Eisteddfod fawr arall ym Mai nesaf, tan nawdd cymdeithas lewyrchus Witwater- strand, ger Johannesburg. Bydd hon yn wyl am ddau ddiwrnod, Mai 23ain a'r 25ain, ac yn ysgrifenyddion mae'r Parch. J. Glyn- dwr Davies a Mr. W. Alun Jones. Ceir holl fanylion ond gohebu a hwy i Box 3552, Johannesburg.

[No title]

A BYD Y GAN.

[No title]