Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. EISTEDDFOD.—Dyma Eisteddfodau 1908 yn dechreu. Nos Iau nesaf cynhelir gwyl fawr yn Battersea Rise, ac mae rhagolygon am gynulliad tra llwyddiannus. MOORFIELDs.-Mae'r brodyr yn eglwya y Bedyddwyr, Little Alie Street, yn trefnu i gynnal cyfarfod cystadleuol ar raddfa eang nos Fawrth nesaf. Beirniadir y gan yno gan Mr. Sackville Evans, a llywyddir gan Mr. Gwilym Hinds. JEWIN.—Heno dechreuir ar y gyfres cyfar- fodydd pregethu ynglyn a'r lie hwn, a dis- gwylir odfeuon llawn o hyn i nos Lun. CANTORION CYMREIG.—Daw ymholiadau parhaus i'r swyddfa hon am gyfeiriadau ein prif gantorion. Os enfyn y brodyr a'r chwiorydd hyn eu cyleiriadau i ni ar eu dyfodiad i Lundain yr ydym yn foddlawn eu rhoddi i'r gwahanol ysgrifenyddion sydd yn trefnu'r cyngerddau ar hyd a lied y ddinas. Y CALEDI.-Gyda pharhad y tywydd oer mae caledi y dosbarth gweithiol yn myned ar gynnydd. Mae llu mawr o'n cydgenedl allan o waith, a gobeithio y byddis yn dirion wrthynt pan ddeallwn eu sefyllfa. EISTEDDFOD 1909— Deallwn fod gwahanol bwyllgorau yr wyl hon wedi trefnu eu rhag- leni, a rhoddir cyhoeddusrwydd o'u trefn- iadau drwy y pwyllgor cyffredinol a gynhelir yr wythnos nesaf. Hyd yma mae'r gwaith yn myned ym mlaen yn hwylus a phawb yn frwdfrydig iawn dros yr Eisteddfod. PRIODAS.—Y dydd o'r blaen dywedodd Mr. John Phillips, 4, Morning Lane, Hackney, na chai yr un pregethwr nag offeiriad grackio jokes pan yn ei glymu ef a'i feinwen mewn priodas. Yr oedd ef yn myned i briodi yn. swyddfa y Cofrestrydd ar Lavendar Hill. Felly y bu dydd Ian yr wythnos ddiweddaf. Y siriol a'r naturiol Miss Susannah Evans, o Wandsworth (gynt o Padarn Hotel, Great Dark Gate Street, Aberystwyth), a lwyddodd i dynu John i'r rhwyd. Rhoddwyd y briod- asferch ymaith gan Mr. Rees, ei brawd- ynghyfraith, a'i llawforwyn oedd ei chwaer, Miss Rees. Y dyn goreu oedd Mr. William Phillips, 94, Essex Road, brawd y priodfab. Cadwyd y wledd yn nhy Mr. Rees, Wands- worth, lie y daeth llawer o gyfeillion Mr. a Mrs. Phillips i fwvnhau y prydnawn. Yr oedd yr anrhegion yn lliosog a chostus, a gallaf feddwl fod yno ddigon o grochanau te i'w gwasanaethu hyd y mil blynyddoedd. Yn Eastbourne, ar lan y mor, y byddant yn mwynhau eu gwyl fel. T.R.J. CASTLE STREET.—Cynhelir cyngerdd mawr yn y lie hwn ar y nos Sadwrn olaf o Chwef- ror. Dyma'r cyngerdd cenedlaethol a roddir ynglyn a'r capel bob blwyddyn ar ddechreu Mawrth. Eleni disgwylir y Gwir Anrhy- deddus D. Lloyd-George i gadeirio, ac mae'r cantorion goreu wedi eu sicrhau am y noson. Heno, nos Sadwrn, ynglyn a chymdeithas ddiwylliadol y lie, rhoddir darlith ar Gymru a Sosialaeth," gan Mr. T. Huws-Davies. KING'S CROSS.—Nos Sadwrn diweddaf caed dadl fywiog ar b wnc Blwydd-dal i'r hen," cydrhwng Cymdeithas Castle Street a Chymdeithas y Tabernacl yn King's Cross, tan lywyddiaeth Mr. T. H. Davies. Agorwyd yn ddeheuig ar ran Castle Street, gan Mr. Griffith, a chefnogwyd ef gan Mri. B. T. Brice, Bowen, ac ereill. Ar ran King's Cross, agorwyd gan Mr. Ben Morgan, a chefnogwyd yntau gan Mri. Cyrus Evans a W. Williams. 'Roedd yr areitheg yn ffafriol i Flwydd-dal, ond profodd y bleidlais yn erbyn hynny. Caed y diolchiadau arferol ar y diwedd gan y Parchn. Elfet Lewis, Herbert Morgan, a Mr. Phillip W. Williams. MARWOLAETH MR. T. H. JONES, MORVILLE STREET, Bow.-Bu farw Mr. Jones yn hynod sydyn ddydd Llun, Rhagfyr 30ain, 1907. Yr oedd wrth ei waith fel arfer y diwrnod cynt, ond yr oedd yr hen glefyd angeuol, y diabetes, wedi dechreu arno ryw chwe mis yn ol, a bu farw o hono y dyddiad uchod. Claddwyd ef yn Abney Park y 6ed o'r mis presennol, pryd y daeth tyrfa liosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Gweinydd- wyd gan y Parch. J. Machreth Rees a nos Sul nesaf, y 19eg, bydd yn traddodi pregeth angladdol iddo yn Barrett's Grove, He yr oedd yn aelod ers llawer o flynyddau. Gadawodd weddw ac un ferch fechan i alaru ar ei ol, a llu mawr o berthynasau. Yr Arglwydd a roddo nerth i Mrs. Jones (yr hon sydd ferch i Mr. a Mrs. R. P. Evans, Old Ford) i ddal y brofedigaeth chwerw sydd wedi dod i'w rhan mor anisgwyliadwy. Mae y teulu hwn wedi gweld ami a blin gystuddiau yn ystod y flwyddyn ddiweddaf.- Cyfaill. GWOBRAU'R EISTEDDFOD.- -Mae ym mwriad Eisteddfod Llundain i wario rhyw ddwy fil o bunnau ar wobrau yn yr wyl geir yma yn 1909. At hyn bydd treuliau ereill ym mhell uwchlaw dwy fil arall fel y bydd raid wrth dyrfaoedd mawr i ddod i'r wyl er ei gwneud yn llwyddiant. Mae'r adran lenyddol tan reolaeth Syr John Rhys, fel cadeirydd y pwyllgor, a nos Fawrth diweddaf, pan yn llywyddu y gwaith, gobeithiai y gwneid y testynau mor boblogaidd ag oedd bosibl. Yn bresennol yn yr un cyfarfod gwelid Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., is-gadeirydd; Mr. William Jones, A.S., Dr. Hartwell Jones, Rheithor Nutfield y beirdd Machreth ac Elfed, lorwerth Ceitho, y Finsent, ac ereill, a'r oil wedi trefnu rhagleni maith, fel na cheir pall ar destynau yn yr adrannau tan eu gofal. Swyddogion yr Wyl.—Dyma swydd- ogion y gwahanol bwyllgorau ynglyn a'r Eisteddfod :—Pwyllgor Cyffredinol: Llywydd, Arglwydd Aberdar; cadeirydd y pwyllgor, Mr. E. Vincent Evans; trysoryddion, Mri. J. Prichard Jones a John Hinds ysgrifen- yddion, Mri. D. R. Hughes a W. E. Davies, 20, Tothill Street, Westminster, S. W. Pwyllgor Llenyddol: Cadeirydd, Syr John Rhys, Rhydychain; is-gadeirydd, Mr. W. Llewelyn Williams, A.S. ysgrifennydd, Mr. T. Huws Davies. Pwyllgor Cerddorol: Cadeirydd, Mrs. Mary Davies is-gadeirydd, Mr. D. L. Thomas, D.P.H.; ysgrifennydd, Mr. W. Glyn Evans. Pwyllgor Celf: Cad- eirydd, Mr. Goscombe John, R.A. is- gadeirydd, Mr. J. T. Lewis; ysgrifenydd- ion, Mri. Cristopher Williams a J. Kelt Edwards. Pwyllgor Arianol: Cadeirydd, y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George, A.S.; is-gadeirydd, Mr. Richard Roberts, Y.H. ysgrifennydd, Mr. W. Wilkins.

[No title]

ADGOFION AM GYSTADLEUAETH…

[No title]

Advertising