Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. EISTEDDFOD.—Dyma Eisteddfodau 1908 yn dechreu. Nos Iau nesaf cynhelir gwyl fawr yn Battersea Rise, ac mae rhagolygon am gynulliad tra llwyddiannus. MOORFIELDs.-Mae'r brodyr yn eglwya y Bedyddwyr, Little Alie Street, yn trefnu i gynnal cyfarfod cystadleuol ar raddfa eang nos Fawrth nesaf. Beirniadir y gan yno gan Mr. Sackville Evans, a llywyddir gan Mr. Gwilym Hinds. JEWIN.—Heno dechreuir ar y gyfres cyfar- fodydd pregethu ynglyn a'r lie hwn, a dis- gwylir odfeuon llawn o hyn i nos Lun. CANTORION CYMREIG.—Daw ymholiadau parhaus i'r swyddfa hon am gyfeiriadau ein prif gantorion. Os enfyn y brodyr a'r chwiorydd hyn eu cyleiriadau i ni ar eu dyfodiad i Lundain yr ydym yn foddlawn eu rhoddi i'r gwahanol ysgrifenyddion sydd yn trefnu'r cyngerddau ar hyd a lied y ddinas. Y CALEDI.-Gyda pharhad y tywydd oer mae caledi y dosbarth gweithiol yn myned ar gynnydd. Mae llu mawr o'n cydgenedl allan o waith, a gobeithio y byddis yn dirion wrthynt pan ddeallwn eu sefyllfa. EISTEDDFOD 1909— Deallwn fod gwahanol bwyllgorau yr wyl hon wedi trefnu eu rhag- leni, a rhoddir cyhoeddusrwydd o'u trefn- iadau drwy y pwyllgor cyffredinol a gynhelir yr wythnos nesaf. Hyd yma mae'r gwaith yn myned ym mlaen yn hwylus a phawb yn frwdfrydig iawn dros yr Eisteddfod. PRIODAS.—Y dydd o'r blaen dywedodd Mr. John Phillips, 4, Morning Lane, Hackney, na chai yr un pregethwr nag offeiriad grackio jokes pan yn ei glymu ef a'i feinwen mewn priodas. Yr oedd ef yn myned i briodi yn. swyddfa y Cofrestrydd ar Lavendar Hill. Felly y bu dydd Ian yr wythnos ddiweddaf. Y siriol a'r naturiol Miss Susannah Evans, o Wandsworth (gynt o Padarn Hotel, Great Dark Gate Street, Aberystwyth), a lwyddodd i dynu John i'r rhwyd. Rhoddwyd y briod- asferch ymaith gan Mr. Rees, ei brawd- ynghyfraith, a'i llawforwyn oedd ei chwaer, Miss Rees. Y dyn goreu oedd Mr. William Phillips, 94, Essex Road, brawd y priodfab. Cadwyd y wledd yn nhy Mr. Rees, Wands- worth, lie y daeth llawer o gyfeillion Mr. a Mrs. Phillips i fwvnhau y prydnawn. Yr oedd yr anrhegion yn lliosog a chostus, a gallaf feddwl fod yno ddigon o grochanau te i'w gwasanaethu hyd y mil blynyddoedd. Yn Eastbourne, ar lan y mor, y byddant yn mwynhau eu gwyl fel. T.R.J. CASTLE STREET.—Cynhelir cyngerdd mawr yn y lie hwn ar y nos Sadwrn olaf o Chwef- ror. Dyma'r cyngerdd cenedlaethol a roddir ynglyn a'r capel bob blwyddyn ar ddechreu Mawrth. Eleni disgwylir y Gwir Anrhy- deddus D. Lloyd-George i gadeirio, ac mae'r cantorion goreu wedi eu sicrhau am y noson. Heno, nos Sadwrn, ynglyn a chymdeithas ddiwylliadol y lie, rhoddir darlith ar Gymru a Sosialaeth," gan Mr. T. Huws-Davies. KING'S CROSS.—Nos Sadwrn diweddaf caed dadl fywiog ar b wnc Blwydd-dal i'r hen," cydrhwng Cymdeithas Castle Street a Chymdeithas y Tabernacl yn King's Cross, tan lywyddiaeth Mr. T. H. Davies. Agorwyd yn ddeheuig ar ran Castle Street, gan Mr. Griffith, a chefnogwyd ef gan Mri. B. T. Brice, Bowen, ac ereill. Ar ran King's Cross, agorwyd gan Mr. Ben Morgan, a chefnogwyd yntau gan Mri. Cyrus Evans a W. Williams. 'Roedd yr areitheg yn ffafriol i Flwydd-dal, ond profodd y bleidlais yn erbyn hynny. Caed y diolchiadau arferol ar y diwedd gan y Parchn. Elfet Lewis, Herbert Morgan, a Mr. Phillip W. Williams. MARWOLAETH MR. T. H. JONES, MORVILLE STREET, Bow.-Bu farw Mr. Jones yn hynod sydyn ddydd Llun, Rhagfyr 30ain, 1907. Yr oedd wrth ei waith fel arfer y diwrnod cynt, ond yr oedd yr hen glefyd angeuol, y diabetes, wedi dechreu arno ryw chwe mis yn ol, a bu farw o hono y dyddiad uchod. Claddwyd ef yn Abney Park y 6ed o'r mis presennol, pryd y daeth tyrfa liosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Gweinydd- wyd gan y Parch. J. Machreth Rees a nos Sul nesaf, y 19eg, bydd yn traddodi pregeth angladdol iddo yn Barrett's Grove, He yr oedd yn aelod ers llawer o flynyddau. Gadawodd weddw ac un ferch fechan i alaru ar ei ol, a llu mawr o berthynasau. Yr Arglwydd a roddo nerth i Mrs. Jones (yr hon sydd ferch i Mr. a Mrs. R. P. Evans, Old Ford) i ddal y brofedigaeth chwerw sydd wedi dod i'w rhan mor anisgwyliadwy. Mae y teulu hwn wedi gweld ami a blin gystuddiau yn ystod y flwyddyn ddiweddaf.- Cyfaill. GWOBRAU'R EISTEDDFOD.- -Mae ym mwriad Eisteddfod Llundain i wario rhyw ddwy fil o bunnau ar wobrau yn yr wyl geir yma yn 1909. At hyn bydd treuliau ereill ym mhell uwchlaw dwy fil arall fel y bydd raid wrth dyrfaoedd mawr i ddod i'r wyl er ei gwneud yn llwyddiant. Mae'r adran lenyddol tan reolaeth Syr John Rhys, fel cadeirydd y pwyllgor, a nos Fawrth diweddaf, pan yn llywyddu y gwaith, gobeithiai y gwneid y testynau mor boblogaidd ag oedd bosibl. Yn bresennol yn yr un cyfarfod gwelid Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., is-gadeirydd; Mr. William Jones, A.S., Dr. Hartwell Jones, Rheithor Nutfield y beirdd Machreth ac Elfed, lorwerth Ceitho, y Finsent, ac ereill, a'r oil wedi trefnu rhagleni maith, fel na cheir pall ar destynau yn yr adrannau tan eu gofal. Swyddogion yr Wyl.—Dyma swydd- ogion y gwahanol bwyllgorau ynglyn a'r Eisteddfod :—Pwyllgor Cyffredinol: Llywydd, Arglwydd Aberdar; cadeirydd y pwyllgor, Mr. E. Vincent Evans; trysoryddion, Mri. J. Prichard Jones a John Hinds ysgrifen- yddion, Mri. D. R. Hughes a W. E. Davies, 20, Tothill Street, Westminster, S. W. Pwyllgor Llenyddol: Cadeirydd, Syr John Rhys, Rhydychain; is-gadeirydd, Mr. W. Llewelyn Williams, A.S. ysgrifennydd, Mr. T. Huws Davies. Pwyllgor Cerddorol: Cadeirydd, Mrs. Mary Davies is-gadeirydd, Mr. D. L. Thomas, D.P.H.; ysgrifennydd, Mr. W. Glyn Evans. Pwyllgor Celf: Cad- eirydd, Mr. Goscombe John, R.A. is- gadeirydd, Mr. J. T. Lewis; ysgrifenydd- ion, Mri. Cristopher Williams a J. Kelt Edwards. Pwyllgor Arianol: Cadeirydd, y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George, A.S.; is-gadeirydd, Mr. Richard Roberts, Y.H. ysgrifennydd, Mr. W. Wilkins.
[No title]
BYDD pavilion Eisteddfod Llangollen yn costio tua Y,1,400, a disgwylir rhyw gymaint at y draul oddiwrth gyfarfodydd ereill a gynhelir ynddo. Mae y Methodistiaid eisoes wedi ei logi i gynnal eu Cymanfa ganu ynddo. Bu Eifion Wyn yn ffodus mewn cystadleu- aeth Limerick o eiddo papur Llundeinig i ennill £ 69. Dyma'r wobr farddol oreu a enillwyd gan fardd Cymreig erioed. Gwell yw llymjig nag englyn. RHODDODD y Parch. Robert Thomas (A.), Siloam, Abermaw, rybudd i'r eglwys, nos Saboth, y byddai yn torri ei gysylltiad bugeiliol a'r eglwys ymhen y tri mis. Deallwn fod Mr. Thomas wedi derbyn yr alwad o Cemaes a Llanfechell, sir Fon.
ADGOFION AM GYSTADLEUAETH…
ADGOFION AM GYSTADLEUAETH 50 MLYNEDD YN OL. Yn Eisteddfod fawr Llangollen yn 1858 cynygiodd Arglwyddes Llanofer (Gwen- ynen Gwent) wobr o 3p i'r gweithiwr Cym- reig heb fod yn ennill mwy na phunt yn yr wythnos o gyflog allasai ragori drwy ddwyn i'r Eisteddfod ei blant, a'r rhai hynny i fyned dan brawf mewn darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Yr ymgeisydd buddugol ydoedd Thomas Jones, Brynmelyn, Trefor, Llan- gollen. Yr oedd pump o'r plant yn bresennol a'r chweched adref yn wael, a dangoswyd tyst- iolaeth feddygol am ei afiechyd, ac hefyd am ei fedrusrwydd i ymgeisio pe buasai ei iechyd yn caniatau. O'r plant hynny nid oes ond dau yn aros, set Mr. Thomas Jones, cyn- Faer Gwrecsam, a Mr. John Jones, llyfr- werthydd, Bethesda, y ddau erbyn hyn yn ynadon heddwch. Pan ddaeth yr adeg i baratoi testynau Eisteddfod Llangollen am 1908, ym rnheii hanner can' mlynedd, meddai Mr. Thomas Jones wrth ei frawd, Mr. John Jones Beth fyddai i ni roddi'r wobr yn ol iddynt yn 1908" ? A hynny cytunwyd yn eb- rwydd, gyda'r unig wahaniaeth fod y wobr wedi ei dyblu. Canlyniad hyn oil ydyw y cynnygir 6p 6s fel gwobr i blant dan 17 a than 14 oed yn yr Eisteddfod eleui am ateb. gofyniadau mewn gramadeg Cymraeg ac am gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, ac o'r Gymraeg i'r Saesneg.
[No title]
DA gennym fod Mri. Jarvis a Foster, Bangor, wedi cyhoeddi ail-argraffiad a Ganiadau Cymru." Y mae'r argraffiad cyntaf wedi ei lwyr werthu er's rhai blyn- yddau bellach, a chan fod galw parhaus am y llyfr, penderfynwyd ei ail-argraffu. Cyn- nwysa'r argraffiad newydd rai caniadau ychwanegol, ynghyd ag ychydig gyfnewid- iadau a gwelliantau yn y caniadau a gy- hoeddwyd yn y cyntaf. Y mae'r Golygydd (yr Athro W. Lewis Jones, M.A.), wedi ysgrifennu rhagdraeth dyddorol anghyff- redin, ac ar y diwedd ceir nodiadau ar yr awdwyr, ac helyd nodiadau ar eiriau wedi eu hysgrifennu gan Mr. Ifor Williams, athraw cynorthwyol yn y Gymraeg yn Ngholeg- Bangor. Hysbysir ni y cyhoeddir yn luait argraffiad arall at wasanaeth yr ysgolion. Y AIAE y Parch. L. Ton Evans, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, gynt o'r Barry, wedi glanio yn Efrog Newydd, a dichon ei fod, erbyn hyn, wedi cyrraedd Hayti, un o ynys- oedd India'r Gorllewin, lie y gwasanaetha fel, cenhadwr dros y "Negro Baptist Mission Board of America." Bu Mr. Evans yng Nghymru am flwyddyn a deu-fis ar ran y genhadaeth, ac yn ystod yr amser ymwelodd a 340 o eglwysi, a siaradodd mewn 25 a gyfarfodydd ereill. GWNEIR ymdrech i glirio pymtheg cant o bunnau sy'n aros ar gapel yr Anibynwyr yn Llandrindod. Cofir i Kilsby adael tua Y,100 o ddyled ar yr hen gapel, ac y mae yr eglwys bresennol wedi talu honno, ac £ 800 o ddyled yr adeilad newydd, yr hwn gostiodd £2,300. s
Advertising
D. COOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. (Price List on application.) 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENT0NVILIE, Carriage Department 97, CHAPEL STREET Telephone Nos. 30 and 601, NORTH.