Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD BATTERSEA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD BATTERSEA. Noson dywell gafodd pobl Battersea i gynnal eu Heisteddfod. Daeth y niwl tew i ordoi'r ddinas, fel mai gydag anhawster y caed o hyd i neuadd drefol Battersea gan y rhai feiddiasant fyned allan ar y fath noson. Ond daeth cynulliad mawr ar waetha'r cyfan, a chaed Eisteddfod hwyliog iawn. Digon o Gymraeg, digon o ganu ac areithio, a digon o siarad, hefyd, o ran bynny. Llanwyd y gadair gan foneddwr lleol ym mherson Mr. Edwin Evans, gwr sydd wedi dod yn amlwg droion yn y cylch fel ym- geisydd am gynrychioli'r ardal ar wahanol gynghorau, &c., a dangosodd ei barch a'i hoffter tuag at y Cymry yn ei gymdogaeth trwy gyfranu yn bael i gyllid yr Eisteddfod. Gan y bu raid iddo ymadael cyn gorffen y eyfarfod llanwyd ei le mewn modd debeuig gan Mr. William Davies, L.C.C. Arweiniwyd gan y Parch. D. C. Jones, y Boro', a beirniadwyd y cantorion gan Mri. Tom Price a Pedr Alaw, a chlorianwyd y llenorion a'r beirdd ac ereill gan y gwyr enwog hyn: Elfed, Machreth, Parchn. J, Humphreys, E. T. Owen, Proff. Jones, Aberystwyth; Mrs. W. Davies, a Mrs. R. Williams, a gofalwyd am y cyfeiliant gan Mr. Merlin Morgan a Miss Sallie Jenkins. Canwyd can yr Eisteddfod gan Miss Agnes Parry, R.A.M., yr hon roddodd, "I will extol thee," mewn modd hynod o gelfgar a bu raid iddi ail ganu. Mae Miss Parry yn graddol esgyn i fri ym myd y gan, ac yn sicr o. ennill safle uchel ymhlith ein cantorion. Gan fod ein gohebydd cerddorol, Pedr Alaw, yn bwriadu manylu ar lawer o'r can- torion, ni wnawn yma ond rhoddi crynhodeb byr o'r rhai'fuont fuddugol. Rhaid cydnabod fod yr ysgrifenyddion, Tom Jenkins, Battersea Park Road, ac Evan Jenkins, wedi gwneud eu gwaith mewn modd hynod o lwyddianus. Ni fu ball ar eu diwydrwydd ac i'w gofal hwy y dylid priodoli y fath derfyniad hapus i wyl mor fawr. Y DYFAKNIADAU. Cystadleuaeth Gorawl: Cor Falmouth Road. Marwnad i'r diweddar David Evans, Henderson Road Goreu, Deiniolfryn, Caer- narfon. Englyn, Ystlum." Rhanwyd rhwng W. George, Pontygwaith, Rhondda, a Tom," yr hwn nid atebodd i'w enw. Par o Hosanau Miss Katie Jones, Salem, Aberystwyth. Adrodd i blant Miss Lizzie Davies, Jewin. Adrodd i rai mewn oed: "Araith Llewelyn," Mr. Stanley Davies, King's Cross. Champion solo 1, Mr. T. Bronant Jones 2, Miss Annie Thomas, Hackney, a'r Parch. Ishmael Thomas, yn gydfuddugol. Gwniadwaith, "Pair of D'Oyleys," Mrs. Prior, Clapton. Embroidered cushion," Blodwen, ond nid atebodd i'w henw. Unawd Bass, Mr. J. Hughes, City Boy.

Am Gymry Llundain.

[No title]

[No title]

Advertising