Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ANGEN PENNAF CYMRU.

[No title]

A BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. CYNGHERDD COR Y TABERNACL.—Da gennyf ddeall fod hwn mor lwyddianus, ac fod ym- drechion Mr. D. Richards wedi cael y fath gefnogaeth. Drwg iawn gennyf fethu bod yno er rhoddi sylwadau yma ar y gwahanol ddarnau. Gobeithio yr a Mr. Richards ac ereill o'r organwyr Cymreig ymlaen gyda'r gwaith da o gyflwyno cyfan-weithiau i'r cyhoedd. Dyna'r flordd i feithrin ynom gariad at gerddoriaeth er ei mwyn ei hun- gwers y mae yn llawn bryd i ni ei dysgu. TEMPERAMENT. Yn fy adroddiad o'r gweithrediadau yng ngwyl gerddorol y Queen's Hall y nos o'r blaen, dyfynais y gair hwn-un a ddefnyddiwyd gan Mr. Coleridge Taylor pan yn siarad am ddatganiad cor Mr. Merlin Morgan. Meddyliais ar ol hynny y dichon fod rhai o'm darllenwyr nad oeddynt yn deall yr ymadrodd, sef fod tempera- ment yn natganiad y cor hwn. Beth oedd yn ei feddwl ? Beth hefyd ond fod ynddo bersonoliaeth. Dichon y gofynir ai nid oes personoliaeth ymhob datganiad o ddarn cerddorol? Fe ddylai fod! Dylid o leiaf deimlo nerth y gerddoriaeth a'r neullduolrwydd hwnnw a berthyn i'r cyfansoddwr. Wrth wrandaw ar ddatganiad o'r "Messiah" y mae dwysder a chrefyddolder y gerddoriaeth yn effeithio yn fawr ar feddwl y gwrandawr; ond os yw hi yn gywir i'w hamcan cwyd y gerddoriaeth ni, ar edyn megys, at y sanct- eiddiolaf ym meddwl y cyfansoddwr y lie hwnnw yn yr hwn yn unig y gellir adnabod y gwr hwn oreu a deall ei waith yn iawn Dyweder a fynno, rhaid myned heibio i fynegiant ffurfiol at ddirgelion y gan cyn v bydd ganddi neges wirioneddol ini. Beth dybia y darllennydd ydyw yr Edyn y cyfeiriais atynt ? Beth hefyd ond y tempera- ment a enwyd gan Coleridge Taylor. Y mae hwn yn beth cynhenid yn y dyn y mae yn rhan o'i natur—o'i bersonoliaeth. Temperament-tymheredd ydyw a gwyr y byd fod tymheredd y Celt yn un sydd yn un bur gyfaddas i'w allu i ddeongli cerddor- iaeth. Ond rhaid i dymheredd wrth ryw- beth a rydd gyfeiriad ac ystyr cyflawn iddi, sef addysg gerddorol. Y mae popeth yn bosibl i'r Cymro cerddorol dysgedig! Y mae y sylfaen ganddo. Adeilader faint a fynner ar honno, bydd i'r tymheredd Celt- aidd lanw y cyfryw adeilad a goleuni tryd- anol a fydd yn ogoniant iddo Yr oedd tymheredd yn amlwg yn, o leiaf dri, datganiad o Nidaros yn y Queen's Hall. Beth oedd yn peri i'r beirniad enwi hyn yn arbennig ynglyn a chor Llundain ? Beth hefyd ond y prawf ychwanegol yma o ddysgeidiaeth yn yr Arweinydd oedd yn ei alluogi i'n cario yn agosach at y cyfansoddwr nag a wnai y lleill. Fel hyn ceid yma a thraw olwg newydd ar rannau o'r darn oeddynt yn ysbrydoliaeth ini. Rhaid iddi ddod i liyn gyda phob datganiad teilwng. Rhaid i'r Arweinydd feddwl-yn ddwfn rhaid iddo fyfyrio yn hir a gweled ymhell, a rhaid iddo ddeall celfyddyd yr hwn a osododd y nodau wrth eu gilydd Lied hawdd casglu am rai o'r Arweinydd- ion yn yr ymdrechfa a enwyd nad oeddynt amgen curwyr amser—a rhai curwyr" digrifol hefyd. Rhyfedd fod antics rhai o honyn t yn cadw'r cantorion rhag dyrysu I mi yr oeddynt yn peri chwerthin. Creded y darllennydd fi, dylai arwain cor fod yn orchwyl naturiol, a dylid arwain gyda'r liygaid bron gymaint ag a'r Haw. Mewn gair, rhaid i bersonoliaeth gref fod y tu ol L non yr arweinydd, ac addysg yn hyfforddwr cyson iddo. Wedi hynny ceir clywed am y cyfryw wr! Bydded i'r arweinydd feddwl am hyn a gobeithio y daw y nodiadau hyn