Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CASGLU'R BLODAU.

[No title]

SYR JOHN PULESTON A'R TYLAWD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SYR JOHN PULESTON A'R TYLAWD. GWLEDD FLYNYDDOL CYMRY YR EAST END. Dydd Mercher, Chwefror 5ed, cynhaliwyd y 29ain o'r cyrddau rhoddedig gan Syr John Puleston mewn cysylliad a'r genhadaeth ddinesig. Ar ol i dyrfa gydgyfarfod i fwyn- hau te rhagorol a chyfarfod iddynt eu hunain yn ddilynol yn y capel, dechreuwyd y cyfarfod hwyrol am 7 o'r gloch, dan lywyddiaeth Syr John ei hun, ac yr oedd yn bresennol ar y llwyfan ei ferched a'i wyresau, a chyflwynodd yr olaf cheques at y genhad- aeth. Traddodwyd anerchiadau gan y Llywydd, ynghyda'r Parchn. Howell Watkins, Bridge Street; Edmund Evans, City Road D. Oliver, Mile End G. H. Havard, Wilton Square P. Hughes Griffith, Charing Cross; a J. E. Davies, M.A., Jewin. Datganwyd yn swynol gan Mrs. Williams, Miss Annie Pearce, Mrs. Price, a Mrs. Nellie Jones, Barrett's Grove, ynghyda chor Mile End, oedd yn fuddugol yn Eisteddfod yr Eglwys Gymraeg. Cyfeiliwyd gan Miss James a Mrs. Nellie Jones. Hefyd cafwyd adroddiad rhagorol gan Mr. Eddie Evans. Da oedd gennym weled y llywydd a'i wyneb siriol arferol, a chofio ei garedigrwydd blynyddol ym mhob ystyr. Dymunwn flynyddau eto o hapusrwydd iddo ef a'r teulu. Gwnaed cyfeiriadau at rai oedd wedi myned o'n plith, sef y diweddar Mr. R. S. Williams a Mr. David Thomas. Yr oedd Syr T. Lipton wedi cofio am anfon te eleni eto i'w ranu ym mhlith y cyfeillion. Cynygiwyd ac eiliwyd y diolchiadau arferol gan y cenhadon T. J ones a Llewellyn Davies. Yr oedd y cen- hadwr Phillips a'i briod yn hapus yn y cyfarfod, ac er nad oes rhyw ysbaid fawr er pan yr ymgymerodd a'r gwaith yn yr East End (fel olynydd Mr. Williams) y mae wedi profi yn weithiwr difefl, ac y mae y gwasan- aeth Sabbothol a'r cwrdd nos Fercher yn Silver Street yn deilwng o gefnogaeth ein cenedl. Fel un sydd wedi cael y cyfleustra o fod ymhlith y cenhadon am agos 20 mlynedd, yr wyf yn cyfaddef fod y profiad a sylwadaeth yn dysgu fod y gwaith cenhadol yn fwy anhawdd, ac yn hawlio mwy o gef- nogaeth a chydymdeimlad nag a farna llawer, ond y cysur yw, er fod y gwaith yn ddistaw, y mae yn effeithiol. Y mae cael cwrdd blynyddol yn fanteisiol, ac yr ydym yn ddiolchgar am arwyddion y byddant yn barhaol, gyda diolch i'r nefoedd am godi boneddwyr sydd yn meddu ar galon i sirioli y dosbarth mwyaf anffodus ym mrwydr bywyd Bydd yn dda gan bob un o'r cenhadon gael cefnogaeth yr Eglwysi yn eu cylch, ac hyderwn nad anghofir hwy. Diolchir yn gynnes i bawb am eu rhan yn y cyfarfod.— MAELOR.

Am Gymry Llundain.