Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CAPEL SHIRLAND ROAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAPEL SHIRLAND ROAD. CROESAWU'R BUG AIL NEWYDD. Erbyn hyn mae'r Parch. T. F. Jones, gynt o'r Goppa, Pontardulais, wedi ymsefydlu fel bugail ar eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Shirland Road, Paddington, a nos Iaix diweddaf, Cliwefror 13eg, caed cyfarfod cyhoeddus i roddi croesaw'r aelodau a chyf- eillion iddo ar ei ddyfodiad i Lundain. Mae pedair blynedd bellach er pan yr ymadawodd y Parch. John Davies a'r eglwys, gan fyned yr ochr draw i'r Werydd, ac o'r adeg honno hyd yn awr mae'r gynulleidfa wedi gorfod dibynnu ar ddoniau o'r wlad, a ddeuent yma o dro i dro; ond ar ol ym- gynghoriad gan flaenoriaid y lie a'r cwrdd misol rhoddwyd galwad daer i'r Parch. T. F. Jones ddod i ofalu am dani. Mae'r dewis- iad yn un doeth iawn hefyd, oherwydd yn Mr. Jones ceir cyfriniad hapus o ddoniau a'i gwna yn wr addas iawn i eglwys fel hon. Yn un peth mae yn ieuanc o ran dyddiau, ac yn abl felly i gydymdeimlo a'r llu ieuenctyd sydd yn y lie. Mae yn efrydydd caled, yn ddarllenwr cyson, ac yn bregethwr uchel ei fri ym mhulpud y cyfundeb. Yng nghyfarfod y croesawu llywyddwyd gan Mr. T. F. Anthony, ysgrifennydd yr Eglwys, a darllenodd amryw lythyrau oddi- wrth gyfeillion yn llawenhau am ddyfodiad Mr. Jones i'r cylch. Rhoddwyd hanes yr achos gan Mr. Anthony, ac ychydig fanylion am yr alwad i Mr. Jones, a'r llawenydd a <3eimlid pan ddeallwyd ei fod wedi ei derbyn. Yna caed areithiau edmygol o'r gweinidog gan Mri. Harries a Davies, o Pontardulais, y rhai a roddent air uchel iddo am ei waith yn eglwys y Goppa. Yn ei ateb diolchodd Mr. Jones yn gynnes i'r dorf am y croesaw, adywedodd nad oeddent i ddisgwyl yr un Efengyl newydd ganddo ef. Yr un lesu a'r un Efengyl oedd ef yn fwriadu bregethu yn Shirland Road ag yn y Goppa, a chredai y byddai yn ddedwydd yn ei faes newydd, ond gan ei fod yn ddieithr a dibrofiad yn Llundain gofynodd am eu gweddiau oil. Ar ol hyn caed areithiau gan y Parchn. R. O. Williams, Holloway (ar ran y C.M), H. Elfet Lewis (dros yr Anibynwyr), J. E. Davies, M.A. (ar ran y fam eglwys yn Jewin), B. Thomas, Harlesden (dros y Bedyddwyr), W. Richards, Dewi Sant (ar ran yr Eglwys sefydledig), yr oil yn croesawu Mr. Jones mewn modd caredig dros ben. Cyn dechreu y cyfarfod yr oedd Mr. a Mrs. W. Price wedi darparu lluniaeth i'r aelodau, a haeddant ddiolch am eu caredig- rwydd a'u haelioni arferol.

Family Notices

Advertising