Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CINIO'R BLAID.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CINIO'R BLAID. Adnod fechan ym mhenod hanes y Blaid Seneddol Gymreig yw yr adroddiad a roddir i'r cyhoedd o'r cyfarfod blynyddol hwn ond y mae'n adnod bwysig. Mae'n wir mai cynulliad cyfrinachol yw, ac nad oes rhyddid i neb o'r gwahoddedigion roddi'r manylioo. i'r werin bobl; nid am fod unrhyw beth anheilwng yn cymeryd lie yno, ond yn unig er sicrhau perffaith ryddid i bawb draethu ei farn yn onest a phendant, heb ofni briwio teimladau neb, na rhwystro neb i wneud unrhyw ddatganiad a ellir ei gyfrif yn eithafol neu yn anheyrngarol i'r Blaid. Eleni, yr oedd y cynulliad-a gaed nos Wener cyn y diweddaf—mor boblogaidd ag erioed. Rhoddodd Syr Alfred wahoddiad cynnes i holl Aelodau Seneddol Cymru, a nifer liosog o wyr blaenllaw ein cylehoedd cenedlaethol, a phrofodd y cyfan yn undeb hapus dros ben. Cafwyd areithia-LL digon cyffredin ar derfyn y wledd, ond yr oedd y teimlad yn lied amlwg mai "myned ar i lawr" oedd Gweinyddiaeth C.B. ar hyn o bryd, ac fod perygl i bynciau arbennig Cymru gael en hesgeuluso yn ddirfawr yn ystod y tymor presennol, yn ogystal ag yn y flwyddyn nesaf. Addefai pob aelod eu bod wedi cael gorchymynion pendant oddiwrtk eu hetholwyr yn ddiweddar, yn eu hannog i hyrwyddo pwnc Dadgysylltiad ond yr hyn a deimlid oedd, pa sut y gellid cyflymu gweithrediadau y Ddirprwyaeth Eglwysig ? Teimlir fod hwn yn awr yn fwgan ar y llwybr, ac os na cheir ymwared o hono cyu diwedd y flwyddyn bresennol, credent, yn lied gyffredin, nas gellid byth wasgu achos Dadgysylltiad gyda'r un rhwyddineb drwy'r Ty ag a wneid pe cawsid adroddiad buan o law'r Dirprwywyr. Cafwyd amryw gyfeiriadaii hapus at sefyllfa foddhaus yr Achos Rhyddfrydol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn enwedig at y safleoedd anrhydeddus oedd rhai o'n pobi wedi esgyn iddynt yn ddiweddar; ond buwyd yn lied ddistaw am ddylanwad cyn- nyddol Plaid Llafur yn Neheudir Cymru. Ofnwn fod yr aelodau yn ceisio bychanu. dylanwad y Mudiad Llafurol yn eu gwa- hanol etbolaethau, ac am i ni gredu nad oes berygl iddo aflonyddu dim ar eu seddau. Hawdd yw dweyd hyn mewn cinio foethus yng nghyffiniau Ty'r Cyffredin, ond credwn y bydd gwerin Cymru yn teimlo yn dra gwahanol; ac os na lwydda y blaid bresennol i sicrhau rhagor o welliantau tros Gymru, fe ddaw adeg pryd y daw'r aelodau eu hunaia i sylweddoli fod gwerin Cymru mor fyw ag yn '68, ac y myn ei hawliau, hyd yn oed ar draul aberthu rhai o'i hen ffyddloniaid Rhyddfrydol.