Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. MR. D. T. WILLIAMS—Deallaf fod y ,cerddor ieuanc hwn wedi ymsefydlu yn y brif ddinas yn awr. Yn ardal Abertawe mae Mr. Williams mewn bri mawr fel organydd a chyfeilydd, a diau y ceir ei wasanaeth yn ami yn nghylchoedd Cymreig y ddinas o hyn allan. Y TABWRDD (DRUM). — Yn ddiweddar traddodwyd darlith ar yr offeryn hwn ger bron aelodau Coleg yr Organwyr, gan Mr. Gordon Cleather. Dyma'r un gyntaf imi glywed am dani ar y fath destyn. Arferid ystyried y tabwrdd fel offeryn i helpu i gadw yr amser, ac i nodi y mydr (rythm); ond y mae mwy o gelfyddyd yn perthyn i'w chwareuad, a mwy o fiwsig i'w gael o'i groen nac a feddyliodd llawer. Profodd y gwr a enwyd uchod y gwasanaeth all y tabwrdd fod i'r Organ-offeryn sydd yn gerddorfa ynddi ei hun, ac un na fuasid yn tybied allai fanteisio ar chwareuad o'r tabwrdd dinod. Uchelgais Mr. Cleather ydyw ffurfio ysgol i hyfforddi pobl yn y gelfyddyd o -chwareu ar yr offeryn hwn, a bernir y ceir budd i'r byd cerddorol Seisnig o hynny. Y LLAIS.—Y mae nifer fawr o awdurdodau ar y gelfyddyd o leisio, a chred pob hyff- orddwr mai ei ffordd ef o "gynyrchu" y llais ydyw yr oreu. Ond hyd yn ddiweddar ni wyddwn am ysgol i ddysgu rhai i ganu yn iawn drwy y "post." Ni raid ond ys- tyried ychydig er deall y gellir cyfrannu llawer o addysg ar hyn yn y cyfryw iiordd, canys nid yw ond hyfforddi megys ag a wneir mewn llyfrau ar ddatganu—a gwyr y darllenydd y gellir deall cryn lawer o gyfrinion y gelfyddyd yn y modd hwn. Ond nid dyma'r ffordd oreu i ddysgu But i ganu, gan na ellir ei ddysgu yn iawn o lyfrau. Y mae llais da yn rhodd natur, ond ni wn am un datganwr enwog a Iwyddodd i ennill edmygedd y byd cerdd- orol drwy ddilyn rheolau llyfrau, ar wahan i hyfforddiant personol meistri ar y llais. Dichon y dywed rhywun na chafodd yr .,ebedydd wers erioed, ac ni ddarllenodd lyfr ar ddatganu, a'i fod yn -an a edmygir gan y byd yn gyffredinol. Ydyw, ond pe gwrandewid arno yn bur fynych, dichon y blinid arno a'i nodau di-neges. Nid a'r adar y mae a fynno celfyddyd y cerddor. Nid ydyw can yr adar yn gwella—yn ym- berffeithio hyd y gwn i, tra y mae dyn yn parhau i ymddadblygu o ran y meddwl; ac y mae yn ofynol iddo, os am lwyddo, gael y cyfarwyddyd goreu, fel y gallo ddysgu yn iawn sut i roddi ei alluoedd ar waith. A ydyw yr ehedydd yn gwybod beth y mae yn ei ganu, nis gwn ond y mae yn rhaid i ddyn wybod. Diogel ydyw iddo ddilyn y rheol drwy gadw at ba un y cododd Sims Reeves, Santley, ac ereill i fri fel datganwyr —sef drwy gyfarwyddyd bersonol. SYR GEORGE SMART.—Er fod enw Smart yn hysbys i'r byd cerddorol Prydeinig, a'i fod yn ei fedd ers deugain mlynedd, yn ddi- weddar y cyhoeddwyd hanes ei fywyd yn gyflawn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1776, ac yr oedd yn 91 mlwydd oed pan y bu farw. Ceir fod y gyfrol drwchus a gyhoeddwyd gan Longmans yn cynnwys defnyddiau a gafwyd yn y Dyddiadur gadwyd gan Smart; ac hawdd ydyw i'r darllenydd ddeall pa mor ddyddorol ydyw cofnodion gwr fel Syr George Smart-un ydoedd yn gyfeillgar a Haydn, Beethoven, Mendelssohn, Schumann, ac ereill o wyr mawr y byd Pan y daeth Haydn i Lundain yn y flwyddyn 1791, yr oedd Smart yng nghor y Capel Brenhinol. Aeth Haydn yno, a dyma ddywed Smart yn ei ddydd-lyfr He was so pleased with Dr. Dupuis's extempore fugues, that, meeting the doctor as he came downstairs from the organ loft after the service, he gave him two kisses in the Ambassador's Court. Ar y nawfed o Fedi, yn y flwyddyn 1825, y cyfarfu Smart a Beethoven y tro cyntaf, a dyma ddywed:- At twelve I took Ries to the Hotel Wildemann, the lodgings of Mr. Schlesinger, the music-seller of Paris, as I understood from Mr. Holz that Beethoven would be there, and there I found him. He received me in the most flattering manner. There was a numerous assembly of professors to hear Beethoven's second new manuscript quartette, bought by Mr. Schlesinger. This quartette is three quarters of an hour long He (Beethoven) directed the per- formers, and took off his coat, the room being warm and crowded. A staccato passage not being expressed to the satisfaction of his eye, for, alas, he could not hear, he seized llolz's violin and played the passage a quarter of a tone too flat!" Ar y 16eg o Fedi, 1825, talodd Smart ail- ymweliad a Beethoven, ger Vienna, a dyma ddywed "After ordering his dinner with his funny old cook, and telling his nephew to see to the wine, we all five took a walk. Beethoven was generally in advance hum- ming some passage. He usually sketches his subjects in the open air it was on one of these occasions, Schuppanzigh told me, that he caught his deafness. He was writing in a garden and was so absorbed that he was not sensible of a pouring rain, till his music paper was so wet that he could no longer write. From that day his deafness commenced, which neither art nor time has cared." Dyma un o hanesion difyr ein gwrth- ddrych. Yn ystod Gwyl Gerddorol a gyn- haliwyd yn Westminster Abbey yn y flwyddyn 1834, yr oedd y Brenhin William y 4ydd yn bresennol. Pan yr oedd y Basses yn y cor yn canu y Ddwyawd enwog yn y gwaith Israel in Egypt," defrodd y Fren- hines y Teyrn gyda'r ymadrodd, What a fine duet—' The Lord is a man of war.' Neidiodd y Brenin, a gofynodd iddi yn hanner effro, How many guns does she carry ?"
[No title]
MAE cofiant i'r diweddar Dewi Mon ar fin cael ei gyhoeddi. Y Parch. H. Elfet Lewis yw yr awdwr. AR ol bod yn ymweled ag India ac Aus- tralia mae Mr. Keir Hardie wedi cyrraedd Deheu Affrica ar ei daith yn ol i'r wlad hon. CYMRO, brodor o Aberystwyth, sydd wedi ei benodi yn faer cyntaf tref Eastbrook, New Zealand. Myn y Cymry fod ar y blaen ym mhob man. Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, lladd- wyd merch ieuanc o'r enw Sarah Elizabeth Roberts ym Mhontardawe, gan ddyn ieuanc oedd yn awyddus am ei chael yn wraig. Mae'r llofrudd yn y ddalfa, ac yn y cwest a gynhaliwyd ar y corff bwriwyd ei fod yn euog o lofruddiaeth wirfoddol. DYDD Gwener diweddaf bu'r Senedd yn rhoddi peth sylw i ddefodaeth ac arferion anghyfreithlon yn yr Eglwys sefydledig. Yn ol y dadleniadau a wnaed teimlai y mwyafrif yno mai doeth fyddai cael mesur o Ddadgysylltiad cyn bo hir. Yn ol pob argoel fe geir un hefyd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. <
EISTEDDFOD Y TABERNACL.
EISTEDDFOD Y TABERNACL. Nos Sadwrn diweddaf cynhaliwyd yr Eisteddfod Flynyddol ynglyn a Chymdeithas Ddiwylliadol capel y Tabernacl, King's Cross. Arweiniwyd y gweithrediadau gan y prif-fardd Elfed, a beirniadwyd y farddon- iaeth gan "Rhuddwawr" (Parch. J. E. Davies, M A.); rhyddiaeth gan y Parch. J, Humphreys (W); yr adroddiadau gan y Parch. R. G. Davies; gwniadwaith gan Mrs. Tudor Jones a Miss Griffiths; amryw- iaeth gan Mri. Watkin Jones a T. J. Evans; a'r canu gan Mr. D. James, A.C., South- wark. Llanwyd y gadair lywyddol gan Mr. M. Pennant-Jones, Pinner, a gofalodd Mr. D. Richards, A.R.C.O., am y cyfeiliant i'r amrywiol gystadleuwyr. Yn ei araith lywyddol dywedodd Mr. Pennant-Jones ei fod yn llawenhau wrth weled rhaglen mor Gymreig ynglyn a'r wyl, a hyderai y gwnai'r cyfeillion yn y lie gadw at y nodwedd yma ynglyn a'r Eistedd- fod. Yr oeddem yn rhy barod, meddai, i droi'r hen sefydliad yn fath o gyngerdd Seisnig, a phrotestiai yn erbyn syniad rhai pwyllgorau eisteddfodol yn dwyn i fewn lygredd estronol, mewn can a chelf, i an- urddo agwedd Gymroaidd y sefydliad cenedlaethol hwn. Dadblygu a meithrin yr ysbryd Cymreig ddylai'n cenhadaeth fod, meddai, a hyderai y cadwai pobl y Taber- nacl hyn mewn golwg bob blwyddyn ynglyn a'r Eisteddfod hon. Daeth torf o wrandawyr ynghyd, a chaed cystadlu bywiog ar amryw o'r darnau. Wele enwau y buddugwyr yn y gwahanol gystadleuthau :-Canu'r berdoneg, 1 Miss Mary Morgan, Jewin 2 Mr. Albert Owen, King's Cross. Adrodd i blant, 1 Miss Elizabeth Davies, Jewin; 2 Mr. Bertie Reynolds, King's Cross; 3 Mr. John Rey- nolds. Canu Daeth boreu'r adar man," 1 Miss E. Davies, Jewin; 2 Miss Maggie Jones, King's Cross. Unawd soprano, Y Lili Wen," Miss Gladys Davies, King's Cross. Ysgrif Disgrifiad o un o ddyffryn- oedd Cymru," Mr. 1. J. Davies, Shirland Road. Unawd bass, "Y bachgen dewr," Mr. R. G. Davies, Charing Cross. Englyn i'r Organ," a chan, Brodyr Mebyd," goreu Mr. Emlyn James, King's Cross. Adrodd, Troedigaeth Saul," Mr. Hugh Evans, King's Cross. Araith ar Women's Suffrage," Mr. J. R. Thomas. Deuawd, Y Ddau Arwr," Mr. Stanley Davies a J. Pugh. Triawd, Miss Mary Morgan a'i chyfeillion. Unawd Tenor, Mr. D. Waters. Cyfieithiad goreu Glan Teify," ond ni atebodd i'w enw. Gwniadwaith, Miss Maggie Evans, Wilton Square. Parti o leisiau cymysg a ganai oreu "Nant a'r blodeuyn," goreu, parti King's Cross, tan arweiniad Mr. Stanley Davies.
[No title]
Bu merched y bleidlais wrthi yn ddyfal yr wythnos ddiweddaf, a chafodd amryw o honynt eu gyrru i garchar. Maent yn cadw'r heddgeidwaid o gylch Ty'r Cyffredin yn lied brysur y dyddiau byn. MAE'R Due o Devonshire yn wael ei iechyd. Yn yr Aipht y mae ar hyn o bryd, ac mae ei berthynasau mewn pryder am dano. MAE dadl wedi codi yngbylch pa le y ganed Thomas Jones, tad Syr D. Brynmor Jones, y bardd-bregethwr," fel y gelwid ef. Dywed Dr. John Thomas yn ei lyfr ar Hanes Eglwysi Anibynol Cymru mai yn Rhaeadr Gwy ar yr ail ddydd ar bymtheg o Orffennaf, 1819, y ganed ef. Dywed un arall mai yng nghymdogaeth Llandrindod yr oadd ei gartref, ac un arall drachefn mai yn y Rhaeadr, a bod gwesty dirwestol yo awr ar y llannerch lie 'roedd y ty yn sefyli