Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MAE cofiant i'r diweddar Dewi Mon ar fin cael ei gyhoeddi. Y Parch. H. Elfet Lewis yw yr awdwr. AR ol bod yn ymweled ag India ac Aus- tralia mae Mr. Keir Hardie wedi cyrraedd Deheu Affrica ar ei daith yn ol i'r wlad hon. CYMRO, brodor o Aberystwyth, sydd wedi ei benodi yn faer cyntaf tref Eastbrook, New Zealand. Myn y Cymry fod ar y blaen ym mhob man. Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, lladd- wyd merch ieuanc o'r enw Sarah Elizabeth Roberts ym Mhontardawe, gan ddyn ieuanc oedd yn awyddus am ei chael yn wraig. Mae'r llofrudd yn y ddalfa, ac yn y cwest a gynhaliwyd ar y corff bwriwyd ei fod yn euog o lofruddiaeth wirfoddol. DYDD Gwener diweddaf bu'r Senedd yn rhoddi peth sylw i ddefodaeth ac arferion anghyfreithlon yn yr Eglwys sefydledig. Yn ol y dadleniadau a wnaed teimlai y mwyafrif yno mai doeth fyddai cael mesur o Ddadgysylltiad cyn bo hir. Yn ol pob argoel fe geir un hefyd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. <

EISTEDDFOD Y TABERNACL.

[No title]