Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y CWMWL GWLEIDYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CWMWL GWLEIDYDDOL. Ar hyn o bryd mae awyrgylch wleidyddol y blaid Ryddfrydig tan gwmwl bygythiol. Mae iechyd y Prif Weinidog (Syr H. Camp- bell-Bannerman) yn peri cryn bryder i'w ganlynwyr, ac addefir yn lied gyffredin nas gall yr hen wr ddal galwadau pwysig ei swydd ond am ychydig amser bellach. Bydd yn flin gan y wlad ddeall hyn, a bydd colli hen arwr diddan fel C.B. o faes yr ymladdfeydd Seneddol yn golled mawr iawn. Mae'n wir nad yw wedi ei ddonio a thalentau eithriadol fel gwladweinydd; er hynny, addefir fod ei sirioldeb a'i hynawsedd naturiol wedi ennill iddo lu o edmygwyr ym mhob adran o'r Ty lie y mae wedi gwasan- aethu mor ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. Gan fod sefyllfa ei iechyd wedi ei Iwyr analluogi i ddilyn ei waith fel y dylai, y mae cryn helynt yn awr yng nghylchoedd cyfrin y blaid ynglyn a dewis olynydd iddo. Y gwr a gyfrifir fel Eliseus teilwng i'r Elias hwn yw Mr. Asquith. Mae ef wedi cael profiad helaeth fel Seneddwr, wedi bod yn rhengoedd blaenaf y brwydrau am dymor maith, ac yn meddu ar alluoedd dadleuol tuhwnt i'r cyffredin. Yn wir, yr oedd adran liosog o'r blaid Ryddfrydol am ei osod yn ben-llywydd yn lie O.B. ar y dechreu, ond trodd profiad helaethach a dylanwad mawr yr hen arwr o'r Alban y fantol o'i du; a phrofodd y dewisiad yn un doeth a llwydd- ianus tu hwnt i bob disgwyliad. Ceisia rhai Rhyddfrydwyr fychanu y cyfrifoldeb sydd wrth y drws. Dywedant nad yw O. B." mor wael ag y myn rhai o'r Seneddwyr ei fod, ac ei gwelir yn ol yn y Ty cyn hir. Da fuasai gennym allu credu hyn, ond ofnwn mai fel arall y bydd. Dylid cofio fod yr hen arwr wedi gweled dyddiau lawer, ei fod wedi colli ei iechyd yn hollol oddiar y bu ar ymweliad a Bryste ddiwedd yr Hydref diweddaf, ac mai an- hawdd i berson o'i oedran ef fydd ennill adgyfnerthiad lied baan. Er mwyn hwylusu. gwaith y Senedd dylid cymeryd y mater i sylw ar fyrder, fel ag i osgoi cael Senedd- dymor diffrwyth fel ag a gaed yn ystod y flwyddyn ddiweddaf.

[No title]