Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. DEWI SANT, PADDINGTON.—Y Gymdeithas Lenyddol.-Cynhaliwyd cyfarfod o'r Gym- deithas yn neuadd Dewi Sant, nos Fawrth, Chwefror 18, pryd y darllenwyd papur dyddorol ar y Parch. Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir), gan Mr. James Williams (Gwyddfryn). Bardd offeiriad ydoedd leuan, yn blodeuo rhwng 1731 a 1789. Ystyrid ef yn un o ddysgedigion pennaf ei oes, a phery rhai o'i linellau barddonol tra y pery yr iaith Gymraeg, megis ei englynion i Lys Ivor Hael, Arglwydd Maesaleg." Llywyddwyd gan y caplan, y Parch. W. Richards, a siaradwyd ym mhellach gan Mr. David Evans, Hampstead, Hugh Jones, a Mr. Daniel Jones, ysgrifennydd y Gym- deithas. Y GYMANFA DDIRWESTOL.-Ceir un ogyfar- fodydd mwyaf dyddorol y tymor ynglyn a'r mudiad Dirwestol nos Fawrth nesaf yn Jewin. Ceir clywed yr hen arwr dirwestol Plenydd yn ein plith eto, ac yn ei gef- nogi ar y llwyfan bydd Mr. Leif Jones, A.S., llywydd yr U.K.A., ac un o'r siaradwyr goreu ymysg y Saeson. Gan fod cymaint o gyfarfodydd yn ystod yr wythnos hyderwn y gwna cefnogwyr yr achos ymdrech arbennig i fod yn y lie ar y noson hon. Y SENEDD A DIRWEST.-Nos Fawrth ddi- weddaf caed papur dyddorol ar Hanes Cyfreithiau y Fasnach Feddwol," gan Mr. Wilfred Rowlands, ger bron Cymdeithas Ddirwestol y Tabernacl. Mae cysylltiad y wladwriaeth a'r fasnach hon yn henafol iawn, ac 'roedd clywed am y gwahanol fudiadau ynglyn a'r Trwyddedau yn benod ddyddorol ac addysgiadol dros ben, ac ni ellid cael neb mwy priodol i'r gwaith na chyfreithiwr ac ysgolor o safl e Mr. Rowlands. HEN BENNILL. Dywed Mr. Llewelyn Williams, A.S., iddo glywed hen faledwr yn canu y pennill canlynol ar un o heolydcf Llanelli ddydd Gwener diweddaf, a chred mai darn yw o hen garol Gymreig sydd wedi dod i lawr o oes i oes er adeg yr hen Ddiwygiad Ymneillduol yiog Nghymru. A oes rhywrai o'n darllenwyr wedi ei glywed o'r blaen. Dyma'r oil allai Mr. Williams gofio Creulon Iddewon A'i hoeliodd ar y groes A'i gorff a geisiodd Joseph, Ac yn ei fedd a'i rhoes. Mair oedd yn wylo A mofyn Iesu cu, Ein Iesu da a gododd A brynodd nef i ni. Pan y canai'r hen faledwr yr ail benill gwnai arwydd y groes a'i ffon ar y llawr, a phan ofynodd iddo paham y gwnai felly ni allai roddi yr un eglurhad rhagor mai dyna fel y dysgwyd ef yn blentyn. Pwy all roddi awdwr y pennill i Mr. Williams ? LLWYDDIANT CYFREITHIOL.—Gwelwn enw Mr. Alun E. Davies, mab Mr. W. E. Davies, ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol, ym mhlith y gwyr ieuainc a lwyddasant yn y gyfraith yn yr arholiadau diweddaf. Enillodd Mr. Davies y safle anrhydeddus o first-class honours, ac ni lwyddodd ond tri ereill trwy'r deyrnas i sicrhau'r un sane. Un o ddisgyblion Mr. R. 0. Davies, cyfreith- iwr, Blaenau Festiniog, yw'r gwr ieuanc addawol, a diau fod iddo yrfa lwyddianus yn y gyfraith wedi ennill y fath nod ar ddech- reu ei alwedigaeth. BARRETT'S GROVE.—Profodd y cyngerdd blynyddol a gaed yma nos Iau cyn y di- weddaf yn un o'r rhai goreu yn hanes yr Eglwys. Sicrhawyd gwasanaeth cantorion o'r radd flaenaf, a rhoddasant o'u goreu am y tro, ac 'roedd y cynulliad yn fwy na llond yr adeilad. Yr unawdwyr oeddent Miss F. Jenkins, Miss Gwladys Roberts, Mr. Herbert Emlyn, a Mr. D. Brazell. Disgwylid Syr John Puleston i lanw'r gadair, ond oherwydd gwaeledd methodd a bod yn bresennol, a llanwyd ei sedd yn ddeheuig gan Mr. T. W Glyn Evans, King's Cross. Da gennym oedd clywed gan yr ysgrifennydd fod rbag- olygon llewyrchus i'r Eglwys ar hyn o bryd, ac fod mudiad ar droed i sicrhau bugail yno eto. Ar hyn o bryd gwasanaethir gan ddoniau o'r hen wlad. Y Sul diweddaf pregethai'r Rybarch Ddr. Owen Evans yno, ac am y ddau Sul nesaf gofelir am y praidd gan y Parch. T. Eli Edwards, Llanfair, Ceredigion. SHIRLAND ROAD. Y n ein hadroddiad yr wythnos ddiweddaf dywedasom mai Mr. a Mrs. Price oedd wedi darparu'r lluniaeth a roed yng nghwrdd croesawu'r Parch. T. F. Jones. Nid yw hyn yn gywir. Rhoddwyd y wledd gan aelodau'r Eglwys, a Mr. a Mrs. Price fyddai'r olaf i dderbyn clod am yr hyn nad ydynt yn gyflawn haeddu. GWLEDD GWYL DEWI.-Dyma fyd d yr atyn- iad mawr nos Lun nesaI. Mae rhagolygon lied addawol am gynulliad mawr yn yr Hotel Cecil, a chan fod llu o wyr enwog y cylchoedd Seneddol i ddod yno, diau y ceir noson lied hwyliog hefyd. NODACHFA.—Gwelir fod y cyfeillion yn Falmouth Road yn trefnu gogyfer a chael nodachfa eang yno cyn diwedd Hydref nesaf. Dyma beth yw paratoi mewn pryd, ac ond gwneud hyn, dylai'r mudiad fod yn llwydd- iant mawr. EISTEDDFOD CITY ROAD.-Dywed yr ys- grifennydd fod llu mawr o gystadleuwyr i ddod i'r wyl hon nos Iau nesaf. Y prif gorau fyddant Cor King's Cross, Falmouth Road, Willesden District, City Road, a Jewin United. Yn adran y plant, disgwylir corau o Mile End, Falmouth Road, a Jewin. Gwyr y gan ewch yno yn llu.
CYFARFOD MISOL LLUNDAIN.
CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Nos Fercher, Chwefror 26ain. Llywydd, Parch. R. 0. Williams. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Ail-etholwyd Mr. T. J. Anthony yn gynrychiolydd y Cyfarfod Misol ac Undeb yr Ysgolion Sabothol. Hysbyswyd, gyda gofid, am farwolaeth Mr. David Jones, blaenor ffydd- lawn yn Eglwys Wood Green, a phender- fynwyd anfon cydymdeimlad y C.M. at y weddw a'r teulu. Penderfynwyd hefyd i anfon cofion a chydymdeimlad y C.M. at y Mri. William Owen (Willesden), a James Richards (Shirland Road) mewn gwaeledd. Hysbyswyd gan y cenhadon fu yn Clapham Junction, fod yr Eglwys yno wedi dewis chwech o frodyr yn swyddogion, a phenod- wyd y Parch. J. E. Davies, M.A., a'r Mri. John Jenkins (Wilton Square), a T. J. Anthony i fyned i'r Eglwys, i'w holi ac i'w sefydlu nos Iau, Mawrth 12fed. Cyflwynwyd i bwyllgorau ddau fater (1) Y priodoldeb o argraffu amlinelliad o gofnod- ion y C.M. a'u gwasgaru i'r aelodau yn flsol; (2) Darpariad ymborth yn ystod Cymanfa'r Pasg. Derbyniwyd adroddiad y Pwyllgor Enwi, ond nid oedd Pwyllgor yr Achosion Newydd- ion wedi cwblhau ei waith. Cyflwynwyd adroddiad gan Bwyllgor yr Achosion Newyddion, a phenderfynwyd fod y Parch. Francis Knoyle, B.A., a Mr. T. J. Anthony i fyned i Ealing i gymeryd llais yr Eglwys ynglyn ag ethol swyddogion. Gelwid sylw gan y Pwyllgor Arianol at y gwahanol gasg- liadau, ac at yr ystadegau blynyddol gada chais ar i'r Eglwysi wneud eu rhan fel arfer. Oafwyd gair gan Mr. Knoyle ar Holwydd- oreg y Parch. Edward Thomas ar Hanes y Cyfundeb," ac argymhellwyd y gyfrol i sylw deiliaid yr Ysgol Sabothol ac ereill. Hysbyswyd y cynhelir Cymanfa Ddirwestol yn Jewin ynglyn a'r Oyfarfod Misol nos Fawrth nesaf, Mawrth 3ydd, am 7.30, pryd y ceir anerchiadau gan y Parch. J. E. Davies, M.A. (yn y gedair), Miss Eleanor Williams, a'r Mri. Leif Jones, A.S., ac II. J. Williams (Plenydd), a gwnaed apel ar i holl aelodau y C.M., a phawb ereill, i roddi eu presenoldeb yn y Cyfarfod Dirwestol trwy weddi.
[No title]
PRYDNAWN Sadwrn, yn Eglwys St. Crossr Llanllechid, dadorchuddiwyd ffenestr liw- iedig er cof am y diweddar Arglwydd Penrhyn. Cychwynodd y mudiad ym mhlith amaethwyr yr ardal, a chasglwyd oddeutm can' sofren. Yr oedd yr Arglwydd Penrhyn presennol, ac amryw aelodau o'r teulu yn bresennol yn yr eglwys. Tynwyd y gorch- udd gan Mr. Humphrey Ellis, Tai'rmeibion, un o'r prif denantiaid. Ni wnaeth Prifysgol Edinburgh ddim erioed mwy anrhydeddus iddi hi ei hun na rhoddi gradd anrhydedd i Brifathro hynaws- Coleg y Bala. Mae'r Dr. yn cael y gair o- fod braidd yn anghofus am bethau dibwys bywyd. Nid ydym yn sicr a ydywpob- ystori a ddywed ei edmygwyr am dano yn perthyn iddo ef mewn gwirionedd. Dy- wedir ei fod unwaith, flynyddau yn ol, yn myned i'w gyhoeddiad ar ddydd Sadwrn pur oer. Ar ol iddo fyned allan o'r ty, sylwodd y lletywraig ei fod wedi mynd heb ei got uchaf. Galwodd ar y forwyn, a dywedodd wrthi am redeg a'r got uchaf ar ei ol. Mi ddowch o hyd iddo fo cyn y bydd o yn y stasion," ebe hi. Cipiodd y forwyn ystryd a chlamp o liain ymsychu wedi ei blygu yn dachlus dros ei fraich yn lle'r got uchaf! YMWELWYR O'R AMERICA.—Y mae Mr. a Mrs. Thomas L. Davies, Youngstown, yn Llundain ar hyn o bryd. Brodor o Berwig, Mwnglawdd, Sir Ddinbych, ydyw Mr. Davies,. ac er ei fod wedi treulio 31 mlynedd yn y Gorllewin, fel Adeiladydd, y mae ei Gymraeg yn loew o hyd. Y mae yn un o ymddiriedolwyr capel y M.C. Youngstown ers 18 mlynedd. Efe ydyw ysgrifennydd arianol Cymdeithas C) Dewi Sant, New Brighton, 0., a deil swyddi ereill yn y wlad newydd ydynt yn brawf o'r parch sydd iddo. Nid ydyw Mrs. Davies yn deall Cymraeg, ond y mae wedi priodi, Cymro, felly, o ran y galon, Cymraes ydyw. DYWEDIR y bydd ysgol haf y Diwinydd- iaeth Newydd yn cyfarfod y flwyddyn hOTh yn Abermaw.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Nid diffyg dyddordeb na phall yn nifer yr ymwel- wyr sydd i gyfrif am absenoldeb hanes y cyfarfodydd wythnosol hyn yn ein colofnau. Y ffaith syml yw fod mwy o bersonau yn dod i'n cynulliad bob tro nag sydd yn bosibl cael sedd iddynt ym mhlith y cwmni diddan; a chan fod rhai o'n hareithwyr wythnosol mor hir-wyntog mae'r Gol. yn gorfod dwyn y gweithrediadau i derfyn yn ami cyn cael cyfle i ddweyd ei stori ei hun. Yr wythnos ddi- weddaf, er engraifft, gorfu iddo orfodi nifer o'i ben ffyddloniaid i gwtogi eu sylwadau, a rhoi'r cloadur ar nifer o'r areithiau a baratowyd erbyn yr adeg. Un o'r rhai a rwystrwyd oedd D.R. ond gyda'i ystyfnigrwydd arferol daeth D.R. yn gynnar i'r cwrdd yr wythnos hon. Mae gen i stori newydd i'w hadrodd," meddai, a phan ddeallwyd fod D.R. wedi cael stori newydd yr oedd y peth mor hynod fel yr aeth y dorf yn glustiau i gyd. Mi ges i freuddwyd