Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
TYMOR Y CHWYLDROAD.
TYMOR Y CHWYLDROAD. Er cymaint helbulon y Senedd y dyddiau hyn, a'r daroga.n am ymddiswyddiad y Prif Weinidog, rhaid addef fod y Mesurau sydd newydd eu dwyn o flaen Ty'r Cyffredin yn ddechreu cyfnod o chwyldroad yn ein hanes fel gwlad. Os ydyw'r Blaid Ryddfrydol wedi ymddangos yti bur ddifater hyd yn hyn, y mae'n amlwg fod gobaith deffroad o fewn ei rhengoedd, ac nad yw'r hen ysbryd ceid- wadol ac ofnus i'w llyffetheirio yn hwy. Yr oedd y wlad yn dechreu colli el hymddiried- aeth ynddi, ond os yw'r mesurau. yma yn ernes o'r hyn fwriada gyllawni, bydd yn sicr o gael cefnogaeth. galonog gan bawb a gar ryddid ac iawnder, yn ogystal a gwlad sobr ac iachus, yn lie Prydain feddw a phecha- durus, fel ag y mae yn awr. Ddydd Gwener diweddaf, bu'r Ty yn dweyd ei farn ar y pwnc o roddi pleidlais i ferched, a gwnaeth hynny yn deg a gonest. Penderfynodd gyda mwyafrif mawr fod eisieu cyfnewid y gyfundrefn gaeth bresennol, ac er na lwyddir, feallai, i gael y Mesur ar ddeddflyfr y wlad am flwyddyn neu ddwy, y mae'n arwydd daionus i gael y cydnabyddiad hwn o degwch yr egwyddor a bleidir drosti mor hynod gan y rhyw deg heddyw. Mae Mr. McKenna wedi gosod seiliau cedyrn i'w fesur yntau er symud yr aaghyfiawnderau lliosog ynglyn a'n Hysgolion, a bydd cael cefnogaeth y Ty i'w gynllun yn gymorth i gael gan y wlad fod yn gefnogydd parod i'r blaid pan ddaw'r tymor i ben i ofyn am ail-ymddiriedaeth yr etholwyr ymhen dwy flynedd eto. Ac am Fesur Mr. Asquith yn ymwneud a'r Trwyddedau, diau na chaed yn hanes y Fasnach Feddwol yr un gwr mor feiddgar ag yw'r Canghellydd presennol. Os llwyddir i gael rhan o hwn ar ddeddflyfr y wlad, bydd yn gam pwysig ar ran sobrwydd a thegwch. Bwriedir y I drwyddo i leihau nifer fawr o'r ttfarndai. Ceisir adfer yr awdurdod, ynglyn a gosod trwyddedau a'u hattal, i ddwylaw yr awdur- dodau lleol; a rhoddir terfyn ar waddoli y drwydded i wyr y dafarn. Trefnir y taf- arndai o hyn allan yn ol nifer y boblogaeth ym mhob ardal, ac os llwyddir i basio y cynllyn fel y mae ger bron y Ty yn awr, bydd o leiaf 30,000 o dafarndai yn llai ym Mhrydain cyn pen deng mlynedd nag sydd heddyw. Yn y ddau Fesur mawr hyn daw holl alluoedd yr Eglwys a'r Dafarn i ymosod ar y Rhyddfrvdwyr, a diau y gwelir un o'r gornestau caletaf yn y Senedd ya ystod y tymor presennol. Ond pa un a lwyddir a'i peidio i osod y naill neu'r llall ar lyfrau y wlad, y mae'n amlwg, fod yr ysbryd chwyl- droadol wedi meddiannu y tir, ac unwaith y ceir y werin i gefnogi y fath fudiadau dyn- garol a llesol a hyn, nis gall y Senedd rwystro y cynlluniau ond am amser byr. Mae eisieu y fath ddiwygiadau, a goreu po gyntaf i Brydain y gellir dyfeisio rhyw gyn- llun i roddi terfyn ar yr anhegwch presennol ym myd addysg, yn ogystal ag yn naliadau trwyddel y tafarnwyr.
NOSON GYDA " ISLWYN."
NOSON GYDA ISLWYN." YR AROHDDERWYDD DYFED YN ABERCARN. Tra dyddorol oedd ymweliad yr Arch- dderwydd Dyfed a'r rhanbarth yma nos Iau diweddaf i draddodi ei ddarlith boblog- aidd yng nghapel y Babell ar yr anfarwol Islwyn. Heddyw y mae y dyffryn yn bres- wylfa i filoedd lawer o feibion llafur sydd wrthi ar eu goreu yn rhyddhau y glo o gaethiwed yr hen fynyddoedd cylchynol. in lie cerddoriaeth ber teml natur yn cael eu gwneud i fyny o swn yr awelon, murmur y cornentydd, caniadau'r cor adeiniog, a brefiadau defaid man y mynydd-yn cyng- haneddu ynghyd-fel yn yr hen amserodd dedwydd nid oes yn awr ond swny morth- wyl a'r trosol ynghyda thrwst olwynion inasnach yn symud ar ei rhawd gyda rhuthr anisgrifiadwy bron. Heddyw dyma wynfa dedwydd anturiaethwyr y Deheudir, Ue y cynyrchir cyfoeth aruthrol-a dreigla yn aur melynion goleu dros holl gyrrau'r dyffryn. Ac eto, hon yw'r ardal lie unwaith y preswyliai ysbrydion lien a chan meWll afiaith gwynfydedig. Ie, dyma'r fro barad- wysaidd a gynyrchodd brif awenydd Cymru --y digyffelyb Islwyn—y cawr feddyliwr arweiniodd feddwl ei genedl— "i loewach nen a hapusach byd." Ie, cyfoeth meddyliol lanwai'r broydd hyn yr adeg honDo, a chreadigaeth anysbrydol rharnantus a ddoi i'r golwg ar dde ac aswy yn adeg y bardd enaid gynhyrfiol o'r Ynys- ddu. Clywch ei gan i'r Enaid Enaid beth yw mor Mor o fawreddog fydoedd ar dy ffordd ? Rhyd hawdd i enaid groesi. Medri di linynu'r bydoedd a'r drychfeddwl derch. A chwareu ar y tant." Ie, yn ardal dawel Ynysddu yr hen amser, y seiniwyd y delyn anfarwol yna. Iechyd i'n hysbryd oedd gwrando ar y galluocaf a'r melusaf, o ddisgyblion y per awenydd Islwyn—yn cyfleu ei doraeth adgofion ger ein bron yn ei arddull hapusaf ef ei hun ar y noson grybwylledig. Diolch am Arch- dderwydd o'r diwedd—sy'n gyfuniad mor ardderchog o athrylith ddisglair y gwir awenydd, a synwyr cyffredin gwych yr hwn, gyda Haw, yw'r mwyaf anghyifredin o bob synwyr. Ni chlywsom erioed araith allu- ocach a mwy athrylithfawr yn dangos y cydymdeimlad dyfnaf a barddoniaeth gyf- riniol Islwyn, a'r cwbl yn cael ei draddodi gyda'r symledd mwyaf diymhongar a fu. erioed. Cadeiriwyd yn ddoeth a deheuig gan y Dr. R. E. Roberts, brodor o Arfon bell, mae'n debyg, ond sydd yn awr yn un o breswylwyr y Cwm. Eisteddai yng nghad- air Eisteddfod Caerphili 1874, a enillodd Islwyn am yr awdl Cartref "—Dewi Wyn o Esyllt yn feirniad; a dyddorol dros ben oedd clywed Dyfed yn crybwyll ei fod ef yn cymeryd rhan yn y cadeirio hynny yn Ninas y Caws. Canwyd yn ystod y cyfarfod amryw oinynau o eiddo y Bardd o'r Glyn," Hapus Dyrfa," yn myn'd gyda hwyl anar- ferol nes bron tori allan yn orfoledd. Ar y diwedd pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r Archdderwydd am ymweled a'r hen fangre gysegredig i draddodi ei araith benigamp, ar gynygiad Ficer plwyf Mynydd Islwyn, sef ein cyfaill y Parch. Hugh P. James, gynt o Penclawdd, Caerphili, a Threfeca, hefyd. Newydd ddod i'r ardal y mae Mr. Huw P. James, ond bydd yn dda gan ei gyfeillion lawer glywed ei fod yn gwneud gwaith da eisoes, ac yn dra phoblog- aidd gan bob enwad. Eiliwyd gan frawd arall mewn araith fer, ac yn fuan ymwa- hanodd y dorf a phawb wedi mwynhati tt noson gyda Islwyn."—(Ceitho Davies.)
Advertising
for a Supply of 'V-.MSOlrUYBlrT PURE VRSTAXVDABSISKD BffXErK, delivered to time, with FULL WARRANTY, APPLY TO FXUESESVSE «8& POCOCK, LTD., ALBERT EMBANKMENT, S.E. West Central and Northern Depot: REGENTS BUILDINGS. Telephone Nos. :-Head Depot: 1249 Hop. I; Northern: 1676 Holborn. WAKEFIELD ST., KING'S CROSS. GUNNERSBURY CONGREGATIONAL CHURCH, HIGH ROAD, CRISWICK. .J'J-r-r'r-r'r-o.r'f' 11. GRAND IWi EISTEDDFOD will be held at the above Church on Thursday, March 19, 1908 GUINEA PRIZES fA FOR SOLOS, &c. Programmes may be obtained on applying to MR. A. MONTGOMERY, 9, Dorset Road, South Ealing, W. or from REV. T. HYWEL HUGHES, 39, Thorney Hedge Road, Gunnersbury.