Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Advertising

GWYL DEWI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

a'-bu raid iddo dorri ei gyhoeddiad. Bu'r anwydwst, hefyd, yn achos i ugeiniau ereill gadw draw am y tro, a theimlai yr Aelodau Seneddol Cymreig eu bod mor angenrheidiol yn y Ty, fel nas gallasent fforddio dwyawr i gofio am Sant y genedl. Derbyniwyd Ilythyrau oddiwrth amryw yn gofidio nas gallent fod yn y dathliad, a dan- fonodd Mr. George Meredith, yr awdwr enwog, air i longyfarch y cwmni yn eu gwaith yn cofio am hen arwr y dyddiau gynt. Cyrnol Syr Ivor Herbert oedd y siaradwr cyntaf, ac efe roddodd y llwnc-destyn gwlad- garol, Coffa Dewi Sant a Chymru," mewn araith edmygol o'r hen wlad a'i hanes, ac atebwyd mewn dull deheuig gan y Llywydd. Mr. John Hinds, mewn araith ffraeth, a gynygiodd iechyd da i'r cadeiryda, a thradd- ododd Machreth englynion edmygol, am yr hyn y talwyd diolch gan Mr. Williams. Canwyd yn ystod y wledd gan Miss Gwladys Roberts a Mr. J ohn Roberts, y ddau wedi dethol hen alawon swynol yn cydweddu a'r amgylchiad, a chyfeiliwyd gan Mrs. D. R. Hughes a Miss Llewela Davies. YR HEN FRYTHONIAID. Arglwydd Aberdar oedd yn llywyddii cynulliad yr Hen Frythoniaid yng Ngwesty'r Holborn nos Lun, a daeth eynulliad lliosog i ddathlu Gwyl Dewi yn ei gwmpeini. Mae Cymdeithas yr hen Frythoniaid yn cynnyddu mewn blynyddoedd, os nad mewn dylanwad a bri, a hon oedd ei 193ain gwledd flynyddoL Ysgol y Merched yn Ashford yw unig blen- tyn y Gymdeithas yn awr, ac ynglyn a'r Ysgol honno y rhoddir y wiedd flynyddol hon. Rhyw ddau cant o flynyddau yn ol yr oedd yr hen Gymry Llundeinig yn awyddus iawn i wneud rhywbeth er cynorthwyo eu brodyr tylawd yn y ddinas, a ffurfiasant ysgol elusenol, o'r hon y tarddodd Ysgol y Merched yn Ashford. Yn anffodus, nid yw Cymry yr oes hon yn cymeryd y dyddordeb dyladwy yn yr elusen, ac mae wedi syrthio i ddwylaw yr awdurdodau eglwysig, ond y mae'n par- hau i fod o gryn wasanaeth i ddysgu merched Cymrejg hyd y dydd hwn. Yn ol yr adrodd- iad a roed eleni gan Arglwydd Aberdar, mae'r Ysgol yn gwneud gwaith rhagorol, a chroniclodd am amryw o eirydwyr oeddent weii llwyddo yn y gwahanol arholiadau cyhoeddus. Caed nifer o areithiau yn ystod y noson, a chanwyd gan Gor Merched yr Ysgol, ond yn ddiau yr hyn a hoffid yn bennaf oedd yr alawon a roddwyd ary delyn gan yr hen gerddor, Pencerdd Gwalia. Hwn oedd dydd pen mlwydd y Pencerdd, ac mae yn 82ain oed, ac ers blynyddau lawer y mae yn un o gefnogwyr y wledd a roddir tan nawdd Cymdeithas yr Hen Frythoniaid. Englynion a draddodwyd gan y prif-fardd Machreth yng nghinio Gwyl Dewi- Da gogydd o'i frwd gegin—yrai^wledd Arlwy iach gynefin Mewn dinas bell gwell na gwin Yw cael cinio cawl cenin. Mae eurddawn iaith Myrddin Wyllt—yn ei liw Er gwaetha brad nwydwyllt; Sonia Sais yn Nhy Seisyllt Am Gloron a Moron a Myllt.