Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

--A OES HEDDWCH?

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A OES HEDDWCH? Mae'n eglur bellach nas gellir penderfynu yr anghydfod ynglyn a'r Ysgolion Elfenol ym Mhrydain ond drwy gytundebau cyd- rhwng y pleidiau. Saif yr Eglwys yn ben- dant dros yr hawl i gyflwyno addysg enwadol i'r plant, ac mae'r Ymneillduwyr mor gadarn a hynny dros beidio rhoddi unrhyw addysg enwadol ar draul y cyhoedd. Os ydyw yr Ysgolion Eglwysig i gael eu cynnal ar draul y cyhoedd, yna hawlir mai'r cyhoedd ddylai gael eu rheolaeth, ond ni chydnabyddir hyn gan bleidwyr y sefydliadau enwadol hyn. Os ydyw rhieni y plant sydd yn ysgolion cyhoeddus y Dosbarth neu'r Sir yn dyheu am gael addysg enwadol iddynt, dylent gael hynny, medd yr Eglwyswyr; ond i'r ddau osodiad y mae pleidwyr Addysg Fydol yn hollol wrthwynebol. Sut, felly, y mae sicr- hau yr Ysgolion Enwadol heb i'r Eglwys golli dim o'i gafael ar y plant ? Dyna yw pryder mawr yr esgobion a'r offeiriaid ar hyn o bryd. I ryw fesur, y mae Esgob Llanelwy wedi dangos ffordd allan o'r trybini. Yn ei gynygiad yn Nhy'r Arglwyddi, ddydd Linn, ceisia amryw welliantau, ond myn gyfwerth oddiar yr Ysgolion Cyhoeddus i bob aberth a wna ar ran yr Ysgolion En- wadol. Mae'n rhoddi yn hael ar un Haw, ond hawlia bris uchel am hynny gyda Haw arall. Ac os yw'r Ymneillduwyr yn amharod i gyflwyno yr oil a hawlia, a'i nid yw'n bosibl cael cyfarfod tua chanol y ffordd ? Gwyddom i raddau pa mor bell y mae'r Eglwyswyr yn barod i fyned, ond a yw'r Ymneillduwyr yn barod i newid rhywbeth o'u hawliau hwy ? Gan nad yw'r gwahaniaethau mor eithafol, ac nad oes modd cael cyfundrefn berffaith ar unwaith, ai nid yw yn hen bryd i'n harwein- wyr ddod i ryw gytundeb ar y mater. Cweryl enwadol yw'r cyfan, ac mae gweled crefydd Awdwr Heddwch yn destyn y fath ymryson yn ddigon i wneud y cyfan yn gas- beth oesol gan bob plentyn ddysgir yn ein hysgolion. Hyderwn y gwelir rhyw ffordd yn glir o'r anghydfod presennol, ac na fydd angen parhau y fath haerllugrwydd rhith- grefyddol ag a welir yn y Senedd yn ystod y dadleuon anaturiol hyn.

[No title]

NODIADAU LLENYDDOL.