Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

EGLWYS " MOORFIELDS."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EGLWYS MOORFIELDS." Hen fam eglwys y Bedyddwyr Cymreig yn Llundain yw eglwys Moorfields," a bu ar un adeg yn hynod o lewyrchus. Ond fel ami i eglwys arall, y mae wedi dioddei oherwydd y cyfnewidiadau parhaus ym mywyd Cymreig y ddinas. Pan y sefyd- liwyd hi, preswyliai y rhan liosocaf o'r Cymry ar gyffiniau allanol hen fur y Ddinas, ac 'roedd meddu ty a gardd ar dueddau Moor- fields ac Islington yn y cyfnod hwnnw yn rhywbeth mor urddasol a pharchus a phe yn berchen ar balas yn Hampstead neu'r West End yn awr. Pan sefydlwyd yr eglwys newydd yn Castle Street, ym man canolog bywyd Cymreig y genhedlaeth hon, collodd eglwys Moorfields lu mawr o'i haelodau mwyaf gweithgar a ffyddlon, ac yn arbennig yr adran gyfoethocaf. Parhaodd, er hynny, i wneud gwaith canmoladwy ym mysg preswylwyr y Dwyreinbarth, a llwyddodd am hir amser i gadw bugail yn rheolaidd i ofalu am y praidd. Ond daeth anffawd newydd i'w rhan ychydig flynyddau yn ol. Yr oedd prydles yr hen adeilad yn South Place ar ddarfod, a bu raid chwilio am gartref newydd i'r gyn- nulleidfa i gyd-addoli ynddo. Nid gwaith hawdd oedd hyn, gan fod y rhenti mor uchel, a bu raid crwydro yn anialdir y Dwyrain am gryn ysbaid. Yng nghyntaf, aed i'r Y.M.C.A. yn Aldersgate Street, oddiyno i Commercial Street, ac yn ddiweddarach i Little Alie Street. Yn yr oil o'r lleoedd hyn, teimlai'r frawdoliaeth nad oeddent yn ddinas bar- haus i'r achos ond bellach, y maent yn gobeithio fod tymor eu crwydriadau wedi dod i'r terfyn. Y Sul diweddaf dechreuasant mewn hen fangre gysegredig gan Ymneillduwyr y ddinas, sef yng nghapel yr hen ddiwygiwr Whitefield. Saif y capel hwn yn Leonard Street, City Road, gyda rhan o hono yn Tabernacle Street, yr oil o fewn ychydig latheni i hen gapel Wesley, yn City Road. Cofus gan rai sydd yn gynefin a hanes y ddau efengylydd, Whitefield a Wesley, i anghydfod ddod ar eu traws, ac i bleidwyr Whitefield adeiladu capel iddo heb fod yn nepell o swn capel Wesley, a bu White- field Tabernacle" yn eglwys gref a llew- yrchus am genhedlaethau lawer. Ond y mae swyn ac adgof Whitefield wedi symud i'r capel mawr sydd yn Tottenham Court Road, tra yr erys yr hen adeilad hardd yn anedd gwag yn Tabernacle Street ers blyn- yddau lawer. Mae'r Bedyddwyr wedi sicrhau ystafell eang a chysurus yno, yr hon sydd wedi ei harddasu at wasanaeth y brodyr y Bedyddwyr mewn dull cartrefol a boddhaus, a dechreu- wyd cynnal gwasanaeth yno ddydd Sal diweddaf, pryd y pregethwyd yn effeithiol gan y Parch. R. Ellis Williams, Pembre- gynt hen weinidog Castle Street—a daeth. cynulliadau siriol yno i'w wrando. Yn y prydnawn, am dri, cafwyd cyfarfod i ddathlu yr amgylchiad, pryd yllywyddwyd gan Mr. E. Vincent Evans, ac y cafwyd areithiau gan Syr Frank Edwards, A.S., Parchn. R. Ellis Williams a Herbert Morgan a Mr. John Hinds. Yroeddent oil yn llawen- hau wrth weled y fath arwyddion o hyder a gweithgarwch yn aros ymhlith y ddeadell fechan, a rhoddwyd iddynt eiriau calonogol iawn gan yr oil o'r brodyr. Yn wir, yr oedd araith Syr Francis Edwards, fel yr eiddo Mr. Vincent Evans, yn gystal pregethau ac a. geir o bulpud ar unrhyw adeg, a theimlai'r dorf gryn foddhad wrth wrando arnynt. Bu'r cyngerdd blynyddol yn yr un lie nos Iau diweddaf a chan fod yr eglwys eto wedi dod i fangre mwy canolog a chyfleus, hyderwn yr adfeddiannir iddi ei hen urddas a llwyddiant cyntefig.

Advertising

Am Gymry Llundain.