Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CAPEL M.C. CLAPHAM JUNCTION.

Bwrdd y Gol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd y Gol. "Pwy sydd yn gyfrifol am golofn 'Bwrdd y Golygydd ? oedd ymholiad sarug Edncur yn y cyf- arfod a gaed nos Fercher. Yr wyf fi wedi danfon dau neu dri o lythyrau i'r swyddfa, a does yr un o honynt wedi cael goleu dydd, a dim cymaint a gair o gyfeiriad am danynt yn eich colofn." Y fi sy'n gyfrifol," oedd ateb parod y Macwy. yr hwn, wrth weled edrychiad syn y Gol., a geisiodd roddi eglurhad i Ednar ar ei ysgrifau, ac mae amryw resymau paham na chyhoeddwyd hwy," meddai. Yn y lie cyntaf," ac yna pesychodd yn bregethwrol, fel pe bae am roddi araith fawr i'r cynulliad, nid oedd eich llythyr yn ddim ond math o raghysbysiad am gyfarfod arbennig, a dylid cofio mai i reolwr yr hysbysiadau y mae anfon y fath bethaa, gyda'r tal priodol am danynt, ac nid i'r Gol. Yn ail, y mae cymaint o bethau wedi galw am sylw y tair wythnos sydd wedi myned heibio fel bu raid i mi adael allan amryw bethau oedd y Gol. wedi baratoi." Aeth pawb i gredu, wrth glywed y fath ddatganiad, fod y Macwy wedi diorseddu y Gol. o'i awdurdod yn hollol, ond eglurodd y doethawr mai un peth oedd paratoi ysgrif. ond mai peth arall oedd paratoi lie iddi yn y papur, a dymunai yn garedig i hysbysu'r frawdoliaeth fod pob gohebiaeth yn cael sylw priodol yn y CELT, ond ei fod tan orfod ar rai adegau i gwtogi y diweddariaid, a gadael ysgrifau a deilyngent le allan oherwydd prinder gofod. Wei, does gen i ddim achos i gwyno, ebe Llinos Wyre. Mae'r Gol. bob amser yn rhoddi cynyrchion goreu fy awen i fewn ond pan aiff y giin yn faith y mae'n beiddio gosod ei ddwylaw ansantaidd ar fy nghyfansoddiadau penparnasaidd. Ac ar ol taflu llygad siriol at y Macwy, wele ef yn torri allan i ganu :— DAETH EBRILL. Daeth Ebrill a'i dyner wyrddlesni I loni doldiroedd fy ngwlad, Mae natur yn orlawn o yni Byw dlysni rydd i mi fwynhad Dychwelodd y Gwanwyn i'w orsedd Gwynfydedd daearol a ry' Pob blod'yn a wen mewn tangnefedd Yng nghanol anrhydedd a bri. Daeth Ebrill i ddenu fy nghalon- Teleidion o'r ddaear a dardd, Awelon a chwythant yn dirion Ar swynion dihafal yr ardd Cynhesa yr huan eu gwreiddiau A llunia eu gruddiau o hyd, Arhosant yn ddwyfol genhadau I ddeffro eneidiau mewn byd. Harrow. LLINOS WYRE.

Advertising