Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

YMADAWIAD HEN ARWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMADAWIAD HEN ARWR. Mae Syr Henry Campbell Bannerman wedi ymddiswyddo o fod yn brif-weinidog ar Senedd Prydain Fawr. Dyna oedd y newydd a ledaenwyd drwy'r deyrnas ddech- reu yr wythnos hon, ac mae'r holl drefniad- au gwleidyddol am y tymor, mewn canlyniad, wedi eu dyrysu. Gohiriwyd y Senedd ddydd Llun, ac mae Mr. Asquith, fel ei olynydd penodedig, yn prysur drefnu ei gynlluniau, ac yn ffurfio Gweinyddiaeth newydd i gario'r gwaith Rhyddfrydol ym mlaen. Nid oedd ymneillduad "C. B." yn beth anisgwyliedig. Yn wir, er adeg ei C5 C> selni ym mis Tachwedd diweddaf yr oedd yn amlwg fod nifer ei ddyddiau cyhoeddus wedi eu rhifo. Yr oedd ef ei hun wedi sylweddoli ers tro nas gallai mwyach ym- gymeryd a gorchwylion caled Ty'r Cyffredin, ac awgrymodd y priodoldeb o ymddiswyddo ar ddechreu y tymor. Ond ar gais ei gefn- ogwyr yn y Weinyddiaeth cytunodd i gadw'r awenau yn ei law am ychydig wythnosau, yn y gobaith y deuai'r iechyd ychydig yn well. Ond troi yn siom wnaeth y gobaith hyn, a gwanhau wnaeth nerth yr hen wron, fel bu raid i'w feddyg ei gynghori yr wythnoa ddiweddaf i ymddeol yn hollol o bob gofalon gwladol. Bydd ei ymadawiad o'r cylchoedd Senedd- ol yn golled mawr i Ryddfrydiaeth. Efe oedd cynghorwr a thad y blaid ers blyn- yddau bellach, ac edrychid ato am gyfar- wyddyd ym mhob trybini yn ei hanes. Enillodd barch ac edmygedd ei wrthwyneb- wyr yn ogystal ac ymddiriedaeth llwyr ei ganlynwyr. Yn ei waith yn ymneillduo yr oedd pob adran o'r byd gwleidyddol yn teimlo eu bod yn colli cyfaill cywir a gwleid- yddwr gonest; a dangosai'r teimladau a amlygwyd drwy'r wasg yn ystod yr wythnos hon fod y wlad yn gyffredinol yn gofidio ei cholled mawr. Er nad oedd C.B. yn rhyw gawrathrylith- gar ym myd. gwleidyddol y Deyrnas, eto llwyddodd i gyfanu y blaid Ryddfrydol o un o'r rhwygiadau pennaf yn ei hanes. Drwy ei ymroddiad diflino, ei ffyddlondeb i'w egwyddorion, ei onestrwydd a'i sirioldeb, llwyddodd i esgyn o safle Seneddwr cyffredin i fod yn arweinydd plaid gadarn ac unol. Yn adeg y rhyfel dinystriol, cydrhwng y wlad hon a'r Boeriaid, bu ef yn feirniad llym ar yr holl weithrediadau anffodus. Nid oedd gwr mwy amhoblogaidd nag efe yn holl Brydain ar y pryd, ond ar ol i'w holl brophwydoliaethau gael eu sylweddoli, ac i'r wlad weled ei cholled, wele efe yn cael ei ddewis yn arweinydd ac yn bennaeth ar yr holl Dy. Yn ystod ei ddwy flynedd fel Prif Weinidog, profodd ei hun yn hollol deilwng o'r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo, a chyda gofid cyffredinol y gadawodd y Brenin a'r wlad iddo ymryddhau o'r cyfrif- oldeb mawr a orphwysai arno. Boed i weddill ei ddyddiau fod yn dymor o hedd- wch iddo, a geiriau tyner ei holl gydwlad- wyr yn sirioldeb i'w enaid pan yn gorfod rhoddi ffarwel i'r byd y bu'n fath addurn ynddo. Mr. Keir Hardie, A.S. Mae'r gwr enwog hwn wedi dod yn ol o'i daith o gylch y byd, a rhoddwyd croesaw iddo gan feibion llafur yn Albert Hall pryd- nawn Sul diweddaf. Daeth miloedd lawer yno i dalu eu teyrnged o barch iddo, a chaed cyfarfod brwdfrydig iawn. Mae Keir Hardie wedi bod yn trafaelio a'i lygaid yn agored, ac addawa y caiff y Llywodraeth glywed rhai pethau lied chwerw ganddo o hyn i ddiwedd y tymor. Da gennym ddeall fod iechyd Mr. Hardie yn llawer gwell ar ol ei daith dros y mor.