Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CINIO'R CLWB CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CINIO'R CLWB CYMREIG. Yr oedd ystafelloedd hardd y Clwb Cym- reig yn llawn o aelodau a chyfeillion nos Fawrth diweddaf i gyfarfod a'r Anrhydeddus Tom Price, ac 'roedd y Prif-weinidog mor hapus a chartrefol ymysg ei gydgenedl fel pe bae heb fod o Lundain erioed. Yr oedd cinio foethus wedi ei drefnu gan y Clwb, ac ar derfyn y wledd caed nifer o areithiau edmygol o'r gwron oeddent yn ei anrhydeddu ar y noson. Syr John Puleston, yr hwn a lywyddai, a deimlai yn llawen fod Cymro wedi esgyn i'r fath safle yn y byd newydd, a galwodd ar Syr S. T. Evans i gynnyg iechyd da iddo. Yr oedd y Cyfreithiwr Cyffredinol yn ei hwyliau goreu, ac ar ran y Clwb, rhoddodd groesaw cynnes i gydwladwr o'r wlad tan- ddaearol." Yr oedd Mr. Price yn rheoli talaith eang, rhyw gan cymaint o dir a Chymru; a diau y byddai ei bobl yng Nghymru yn gwylied ei gamrau yn y dyfodol gyda chryn lawer o ddyddordeb. Yna caed araith fer gan Mr. W. Evans, yn rhoddi hanes Mr. Price a'i waith daionus yn Senedd Adelaide. Wrth ateb, dywedodd Mr. Price ei fod yn llawen o gael dod i blith ei bobl unwaith eto. Yr oedd tri o bersonau, meddai, wedi bod yn traethu am ei rinweddau, ond 'doedd hynny yn un syndod ganddo, gan fod yn rhaid i Gymry ym mhobman gadw'n fyw y "trioedd" Cymreig. Yr oedd yn llawen ganddo weled Cymry ieuainc yn esgyn i safleoedd anrhydeddus yn Senedd Prydain; ac er cymaint oedd yr hen deuluoedd cyfoethog Oymreig wedi wneud tros Gymru, credai fod gwawr cyfnod newydd wedi dod yn y to ieuanc oedd yno ar ein rhan yn awr. Yna rhoddodd hanes ei yrfa yn Awstralia, a'r ymdrech galed a gafodd cyn esgyn i'r safle anrhydeddus y mae ynddi ar hyn o bryd. Mr. Herbert Lewis, A.S., oedd y siaradwr ar ran yr Aelodau Seneddol, a dymunai ddatgan ei lawenydd wrth weled Cymro o'r hen wlad wedi llwyddo mor anrhydeddus trwy ddyfalbarhad a golygiadau gonest. Nid ymladd ei frwydr ei hun yr oedd Mr. Price, eithr yn rhoddi ysbrydiaeth i bob plentyn Cymreig i geisio dringo yn 61 ei gamrau a hyderai y gwelid llu mawr o blant gwerin Cymru yn esgyn i'r safleoedd pwysig hyn yn llywodraethiad y byd. Rhoddodd Mr. A. T. Davies yfair o lwydd- iant i'r Clwb, ac atebwyd mewn araith hapus gan Mr. John Hinds, yr hwn a ddywedodd y dylai pob un a honnai fod yn Gymro wneud ei oreu i gynorthwyo y sefydliad newydd hwn. Ar ran ei gydaelodau, yr oedd yn bleser mawr ganddo hysbysu fod Mr. Tom Price wedi ei wneud yn aelod anrhydeddus o'r Clwb. I derfynu noson lawen, cafwyd gan Mr. T. H. W. Idris i gynnyg iechyd da i'r cadeirydd, yr hyn a atebwyd yn siriol gan Syr John Puleston. Yn ystod y noson, cafwyd caneuon swynol gan Mr. John Roberts, Mr. Edwin J. Evans, a Mr. D. Richards, A.R.C.O. f

Gohebiaethau.

Am Gymry Llundain.

UNDEB Y CYMDEITHASAU LLENYDDOL.