Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
CINIO'R CLWB CYMREIG.
CINIO'R CLWB CYMREIG. Yr oedd ystafelloedd hardd y Clwb Cym- reig yn llawn o aelodau a chyfeillion nos Fawrth diweddaf i gyfarfod a'r Anrhydeddus Tom Price, ac 'roedd y Prif-weinidog mor hapus a chartrefol ymysg ei gydgenedl fel pe bae heb fod o Lundain erioed. Yr oedd cinio foethus wedi ei drefnu gan y Clwb, ac ar derfyn y wledd caed nifer o areithiau edmygol o'r gwron oeddent yn ei anrhydeddu ar y noson. Syr John Puleston, yr hwn a lywyddai, a deimlai yn llawen fod Cymro wedi esgyn i'r fath safle yn y byd newydd, a galwodd ar Syr S. T. Evans i gynnyg iechyd da iddo. Yr oedd y Cyfreithiwr Cyffredinol yn ei hwyliau goreu, ac ar ran y Clwb, rhoddodd groesaw cynnes i gydwladwr o'r wlad tan- ddaearol." Yr oedd Mr. Price yn rheoli talaith eang, rhyw gan cymaint o dir a Chymru; a diau y byddai ei bobl yng Nghymru yn gwylied ei gamrau yn y dyfodol gyda chryn lawer o ddyddordeb. Yna caed araith fer gan Mr. W. Evans, yn rhoddi hanes Mr. Price a'i waith daionus yn Senedd Adelaide. Wrth ateb, dywedodd Mr. Price ei fod yn llawen o gael dod i blith ei bobl unwaith eto. Yr oedd tri o bersonau, meddai, wedi bod yn traethu am ei rinweddau, ond 'doedd hynny yn un syndod ganddo, gan fod yn rhaid i Gymry ym mhobman gadw'n fyw y "trioedd" Cymreig. Yr oedd yn llawen ganddo weled Cymry ieuainc yn esgyn i safleoedd anrhydeddus yn Senedd Prydain; ac er cymaint oedd yr hen deuluoedd cyfoethog Oymreig wedi wneud tros Gymru, credai fod gwawr cyfnod newydd wedi dod yn y to ieuanc oedd yno ar ein rhan yn awr. Yna rhoddodd hanes ei yrfa yn Awstralia, a'r ymdrech galed a gafodd cyn esgyn i'r safle anrhydeddus y mae ynddi ar hyn o bryd. Mr. Herbert Lewis, A.S., oedd y siaradwr ar ran yr Aelodau Seneddol, a dymunai ddatgan ei lawenydd wrth weled Cymro o'r hen wlad wedi llwyddo mor anrhydeddus trwy ddyfalbarhad a golygiadau gonest. Nid ymladd ei frwydr ei hun yr oedd Mr. Price, eithr yn rhoddi ysbrydiaeth i bob plentyn Cymreig i geisio dringo yn 61 ei gamrau a hyderai y gwelid llu mawr o blant gwerin Cymru yn esgyn i'r safleoedd pwysig hyn yn llywodraethiad y byd. Rhoddodd Mr. A. T. Davies yfair o lwydd- iant i'r Clwb, ac atebwyd mewn araith hapus gan Mr. John Hinds, yr hwn a ddywedodd y dylai pob un a honnai fod yn Gymro wneud ei oreu i gynorthwyo y sefydliad newydd hwn. Ar ran ei gydaelodau, yr oedd yn bleser mawr ganddo hysbysu fod Mr. Tom Price wedi ei wneud yn aelod anrhydeddus o'r Clwb. I derfynu noson lawen, cafwyd gan Mr. T. H. W. Idris i gynnyg iechyd da i'r cadeirydd, yr hyn a atebwyd yn siriol gan Syr John Puleston. Yn ystod y noson, cafwyd caneuon swynol gan Mr. John Roberts, Mr. Edwin J. Evans, a Mr. D. Richards, A.R.C.O. f
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. YSGOL SABOTHOL GYMREIG WATFORD. At Olygydd CYMRO LLUNDAIN. A fyddwch chwi mor garedig a hysbysu, er mwyn unrhyw ddarllenydd a all fod yn byw yn Watford (Herts.), fod rhai o'r Cymry yno wedi cychwyn Dosbarth Feiblaidd, hollol anenwadol, ar gynllun yr Ysgol Sabothol Gymreig. Ymgyfarfyddwn yn y Y.M.C.A., Queen's Road, Watford, bob prydnawn Sul, am awr-o dri i bedwar o'r gloch-a rhoddir croesaw cynnes i'n cydwladwyr, yn frodyr a chwi- orydd, i ymuno a ni i ddarllen yr Ysgrythyr Lan yn hen iaith ein tadau a'n mamau. Er na chefais ganiatad i grybwyll y ffaith, diau y bydd yn ddyddorol i lawer q'i gyfeillion glywed ein bod yn ddyledus am gychwyniad y gwaith da hwn i Gymro gwladgarol, sef Mr. R. W. Evans, o'r "Negesydd" gynt, yr hwn a gymerodd ran egniol ym mywyd Cymreig y Brif-ddinas yn y dyddiau a fu, ac hefyd yn sefydliad yr Ysgol Sabothol yn Harlesden.—Yr eiddoch, tros yr aelodau, DEWI THOMAS. 88, Kensington Avenue, Watford. 6ed Ebrill, 1908.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. Y GWYLIAu.-Mae'r gwyliau wrth y drws, a bydd llawer o'r dinasyddion yn tyrru tua'r wlad am rai dyddiau cyn y del rhifyn arall allan. A chofied ein gohebwyr hefyd am ddanfon eu cynyrchion yn gynnar yr wythnos nesaf. GWYR Y CANTJ.—I blant y gan ceir cyfar- fodydd o ddyddordeb ar derfyn yr wythnos hon, un heno yn Castle Street, pryd y ceir datganiad arbennig gan gor y lie o'r Song of Thanksgiving," a'r llall nos yfory yn Eglwys St. Benet, pryd y cyflwynir y gan- tawd Prynedigaeth y Byd," gan y cor, tan arweiniad Mr. J. E. Davies. GORNEST Y CYCHOD.—Dydd Sadwrn di- weddaf caed y rhedegfa gychod arferol rhwng y ddwy Brifysgol Caergrawnt a Rhydychen, ac aeth torfeydd lawer i weled yr ornest. Ymhlith yr ymwelwyr yr oedd Mr. Tom Price, prifweinidog Deheu Aws- tralia, a chafodd bleser mawr wrth wylio y lluoedd yno. CYNULLIAD SIOMEDIG.- Er i dyrfa liosog ddod i Castle Street nos Sadwrn ddiweddaf i gyfarfod pen-tymor yr Undeb rhaid addef nad oedd i fyny a'n disgwyliadau. Os ceir rhyw impyn o Sais i'r cyfarfodydd hyn bydd y cannoedd yn ymladd am seddau yn y lle, ond pan geir cyfle i wrando ar rai Cymry enwog 'does ond torf gydmarol fechan yn awyddus am eu clywed. MARWOLAETH. Gofidus ydyw gennym gofnodi marwolaeth y ferch ieuanc Mary Jane Hughes, merch Rebecca Hughes, Pant- y-Dderwen, Llan'fihan gel- Geneu'r- Glyn, yng nglafdy St. Giles a St. George, Bloomsbury, lie yr ydoedd yn ymbaratoi ar gyfer bod yn famaeth (nurse). Tarawyd hi yn wael gan yr anwydwst, ac yn ddilynol cafodd ymosod- iad o'r pneumonia, a bu farw dydd Gwener, Ebrill 4ydd, ar ol rhyw bythefnos o waeledd, yn 21 oed. Oynhaliwyd gwasanaeth goffa- dwriaethol iddi yn Eglwys Christchurch, St. Giles, pryd yr oedd cynulleidfa gref yn bresennol, ac yn eu plith yr oedd iliaws o Gymry cydymdeimladol. Hebryngwydei gweddillion i Euston nos Lun, pan y daeth tyrfa gref yngyd, ac y canwyd emynau Cymraeg. Gwelsom wreaths" wedi em rhoddi gan "staff" yr Infirmary, Mr. John Evans, Cambridge Road, ac ereill. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, Ebrill lafr cynhaliwyd cyfarfod terfynol ein Cymdeithas Ddiwylliadol am y tymor. Eleni trefnwyd i wneud hwn yn gyngerdd arbennig er mwyn sicrhau tipyn o elw tuag at gael perdoneg at wasanaeth y lie, a da gennym allu dweyd iddo droi allan yn hynod o lwyddianus. Am nodwedd y cyngerdd hwn, digon yw enwau y rhai a fuont mor garedig a chymeryd rhan ynddo, sef Miss Judith M. Thomas, Miss. Annie Thomas, a Miss Jennie Davies, Mr. D. Stanley Davies, Mr. Maldwyn Evans, a Mr. David Thomas. Hefyd gwasanaethodd Mr. David Richards, A.R.C.O., fel cyfeilydd. Yn absenoldeb Mr. John Hinds, yr hwn, oher- wydd rhwystr anorfod a fethodd a bod yn bresennol, llanwyd y gadair gan ein cyd- wladwr caredig, W. Edwards, Ysw., Parsons Green. Darfu i'r naill a'r Hall gyfranu swm anrhydeddus tuag at yr achos. Cyn diwedd y cyngerdd cynygiodd Mrs. Timothy Davies, eiliodd Mr. John Hughes, a phasiwyd yn unfrydol bleidlais o ddiolcbgarwch gwres- ocaf y Gymdeithas i'r cadeirydd, ac i'r rhai a gymerasant ran, ac yn arbennig i Mrs- Lloyd, Moore Park Road, am ei charedig- rwydd yn darparu Te a Danteithion ar gyfer yr amgylchiad. R. COFFA LLEWELYN." Wele englynion beddargraff er cof am y diweddar Mr. Lewis Evans (Llewelyn) Barrett's Grove. Y rhai hyn ddyfarnwyd yn gyd-fuddugol yn Eis- teddfod y Brithdir ychydig wythnosau yn ot tan feirniadaeth y Parch. W. Parri Huws Llyw hylaw oedd Llewelyn-Ilenor coeth Lluniwr can ac englyn Deallus gerddor dillyn Yn ofni Duw'n fwy na dyn. Graienyn. Y llariaidd ddidwyll wron-pur ei foes Pêr ei fawl yn Seion Y cuaf fardd, cofia Ion Am ei weryd ym Meirion. Penllyn YSGOL SUL WATFORD. Gwelir mewn- colofn arall fod y cyfeillion yn ardal Wat- ford yn ymdrechu sefydlu Ysgol Sul yn y lie. Boed i bob Oymro sydd yn byw yn yr ardal wneud ei oreu i gynnal breichiau Mr. Dewi Thomas ac ereill yn y gwaith da maent yn ymwneud ag ef. CENHADAETH Y DWYRAIN. Cynhaliwyd gwyl de a chyngerdd dan nawdd aelodau,yr eglwys uchod, nos Iau, Mawrth 26ain. Rhoddwyd y wledd gan Mr. W. H. Thomas,, Poplar, a chadeirwyd yn ddeheuig gan Mr. David Evans, Hampstead, trysorydd Eglwys Dewi Sant, Paddington. Buom mor ffodus y tro yma a chael amryw o gantorion adna- byddus y Brifddinas i'n cynorthwo, sef y Mri. Maldwyn Evans, C. Lloyd Davies, John Humphreys, D. Walters, a W. Bowen, ynghyda Mr. Gwilyn Rowlands wrth y berdoneg. G.A. DEWI SANT, PADDINGTON. Cynhaliwyd cyngerdd Mawrth 31ain, yn St. David's Hall. Hwn oedd cyngerdd diweddaf tymor y gauaf, a throdd allan yn un llwyddianus iawn. Rhoddwyr y te y noson hon oedd boneddigesau ieuainc yr Eglwys, a chafwyd pryd blasus ganddynt. Cadeiriwyd gan G. B. Ramsay, Ysw., a phrofodd ei hun yn gadeirydd mewn gweithred. Gwasanaeth- wyd yn y cyngerdd gan Misses Mary Davies, Maggie Williams, R.A.M., Jennie Jones
UNDEB Y CYMDEITHASAU LLENYDDOL.
anghenion pennaf pobl ieuainc y ddinas hon. Ar ol hyn ni fydd eisieu i Mr. Hinds dynnu ei het i neb am anerch cyfarfod. Yr ail araith oedd eiddo prifweinidog Deheu Awstralia—Mr. Tom Price-gwr sydd mor ddiymhongar heddyw ag ydoedd rhyw 26 mlynedd yn ol pan yn athraw ar Ysgol Sul Gymraeg yn Lerpwl Ac yn olaf caed prawf mai nid bardd yn unig yw Elfed, eithr pre- gethwr ymarferol, a gwr a all roddi cyngor a chyfarwyddyd i bob dyn ieuanc pan ar ddechreu gyrfa yn yr hen fyd yma. Ie, tair araith nodedig oeddent, ac yn gyflawn dal am gadw yr Undeb mewn bri ar hyd y maith flynyddoedd hyn." Yn ychwanegol at yr anerchiadau caed caneuon swynol gan Miss Claudia Thorney, Mr. John Roberts, ynghyda Mr. D. T. Williams yn gofalu am y cyfeiliant. Am tua awr cyn agor y cyfarfod cyhoeddus caed cynulliad lliosog yn ystafell y capel i fwyn- hau o de a bara brith, paratoedig gan chwiorydd gweithgar a hynaws Castle Street, a diau i'r cwpanaid te roddi pawb mewn cywair hapus i fwynhau noson lawen ac adeiladol.