Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. Miss GWLADYS ROBERTS.—Sylwaf y bydd y foneddiges hon yn cymeryd rhan yn nat- ganiad y Messiah," Gwener y Groglith, ym Mhalas Alexandra." MR. HERBERT EMLYN. Bydd y tenor adnabyddus hwn hefyd yn canu yn yr un lie, yng nghyngerdd yr hwyr. 0 holl denoriaid Cymru, dyma'r mwyaf yn ddiau. "CITY Boy.Credaf y byddaf yn gwneud gwasanaeth i ddatganwyr Ileol Cymreig y ddinas hon, drwy geisio, yn y ffordd hon, gan y cantor hwn i roddi i fyny gystadlu Yn sicr y mae wedi llwyddo mor ami fel cystadleuwr fel y gall ymfoddloni ar y da ddaeth hyd yn hyn i'w ran. Bellach rhodder cyfle i ereill i ennill gwobrau Y mae City Boy yn ddigon da i ymddangos ar y llwyfan cyngerddol, a gobeithio mai yn y ffordd hon y clywaf am dano yn y dyfodol. EISTEDDFOD Y GENHADAETH, BURDETT ROAD.-Cynhaliwyd hon nos Iau diweddaf, a chafwyd cynulliad da, a chybtadleuthau dyddorol. Pur anaml y clywais lai o ddat- ganwyr gwael. Yn y gystadleuaeth i blant, canodd chwech. Yr oreu ydoedd Miss Gwladys Williams, Burdett Road ail oreu, Johnny Davies, East Ham. Ar yr unawd, Hyd fedd hi gar yn gywir —allan o dri, y goreu ydoedd Mr. John Humphreys, Walham Green. Am ganu'r bedwarawd, The Soldier's Farewell," y goreu, allan o dri pharti, ydoedd yr eiddo Mr. Bowen. Parti'r Genhadaeth y gelwir ef. Bu pump yn ymgeisio ar ganu yr unawd, "Y Milwr Clwyfedig." Cystadleuaeth dda ydoedd hon o ddarn campus. Oddigerth y buddugwr, nid ydoedd y datganwyr yn llwyddo i roddi ini bortread digon ffydd- lawn o'r milwr clwyfedig, a'r teimladau oeddynt yn dylanwadu yn fwyaf arbennig arno o dan yr amgylchiadau pwysig a enwir yn y gan. I City Boy," Mr. John Hughes, yr aeth y wobr. Ni ddaeth ond dau ymlaen i ganu am y Gwpan Arian ond dau rhagorol oeddynt, sef Mr. John Humphreys a City Boy." Yr oedd y blaenaf o dan anfantais, gan nad oedd ganddo gystal can a'i gyd-ymgeisydd, ac nid oedd y cyfeilydd (yr hon ydoedd Saesnes), yn gallu cynorthwyo i'r graddau y buasid yn disgwyl pe deallasai Gymraeg, yr iaith y canai Mr. Humphreys ynddi. Nid oedd yr anfanteision hyn gyda'r City Boy." Rhoddodd ddatganiad ydoedd ragorol ymhob ystyr. (Yr oedd y gwpan yn rhodd Mr. E. Davies, St. Anne's Road). Ar y rhangan, "Y Nant a'r Blodeuyn," ymgeisiodd tri pharti am y wobr o ddwy gini. Cystadleuaeth wir dda ydoedd hon. Yn wir yr oedd pob un o'r tri yn canu yn ddigon da i deilyngu gwobr; a sicr yw ddarfod i fuddugwyr cyn hyn ganu yn waelach nag unrhyw un o'r rhai hyn. Parti 1, sef eiddo "Y Genhadaeth" (Mr. W. J. Williams yn arwain). Oanodd hwn heb gyfeiliant, ac yr ydoedd i'w ganmawl am hynny, canys os bydd gwallau, sicr yw eu bod felly yn amlycach i'r gwrandawr. 0 ran lleisiau, yr oedd yma burdeb amlwg- peth sydd mor brin mewn partion lleol, fel rheol. Diffyg y parti ydoedd aneglurder yr altos mewn mannau. Gydag adgyfnerth- iad yn y rhan hon, ceir gwell cydbwysiad. Prin ddigon gafaelgar ydoedd y gerddor- iaeth ym marrau (bars) cyntaf yr allegro. Yr oedd yma arddul a mynegiant pryd- ferth-y cyfryw y dylid ei gael mewn dat- ganiad o Rangan." Parti 2, sef "Mile End" (Mr. Evan Morris yn arwain). Canu yn gryfach na pharti 1 ar y dechreu, a braidd ar y cryfaf. Nid ydoedd yma y fath burdeb yn y lleisiau -yn y Soprano yn fwyaf arbennig-fel nad oedd y gynghanedd mor glir a glan. Da fyddai i'r merched ofalu am eu nodau uwchaf gan rai yn y parti hwn, yr oeddynt yn "arw (rough). Yr oedd yma well cyf- artaledd yn y lleisiau ac yn yr allegro yr oedd yma well gafaell yn y barrau (bars) cyntaf. Mynegiant, broddegiad ac amseriad da a chafodd elfen y Rhan-gan chwareu teg. Parti 3, sef yr eiddo Morley Hall (Mr. David Thomas yn arwain). Dyma gyfuniad o leisiau da. Yr oeddynt yn cyfuno ac yn cydsymud yn ddymunol iawn. Man gwan y datganiad ydoedd ar dudalen y burned (hen nodiant), lie nad ydoedd y soprano yn gwbl foddhaol o ran tonyddiaeth yn eu nodau uchel. Yr ydoedd yr allegro yn wir dda gan y parti hwn. Yn wir, cafwyd darlleniad gofalus, chwaethus, a meddylgar ganddo o'r holl ddarn. I'r parti hwn yr aeth y wobr. Hyderaf yr el yr Eisteddfod hon yn ei blaen. Y mae yma ddefnyddiau cerddorol, &c., mor dda, fel y byddai yn resyn iddynt wywo o ddiffyg ymarferiad. Gofaled yr Eglwysi mwy am gefnogi y brodyr hyn ymhob modd! Da gennyf weled mor barod ydoedd y Parch. D. Oliver (M.C.) i arwain y cyfarfod. Buasai yno, onibae am afiechyd peryglus ei blentyn y noson hon. Hyderaf y caiff y bychan adferiad buan. Ceir adroddiad o'r cystadleuthau a'r adrodd, &c., mewn colofn arall. "HOME MUSIC STUDY UNION."—Y mae trefniant wedi ei wneud i gael Ysgol Haf ynglyn a'r symudiad hwn, ym Mangor, o Awst yr 16ed hyd y 29ain. Treilir y dydd- iau mewn gwib-deithiau (excursions), ac ar y nosweithiau ceir darlithiau darluniadol ar destynau cerddorol. CERDDORIAETH Fyw." Mewn darlith ddiweddar yn Nottingham ar Wrth- bwynt" (counterpoint), dywedodd Dr. Sawyer a ganlyn There are two ways of looking at wild beasts you may see them alive at the Zoo, and you may see them stuffed at the Natural History Museum. In the same way you will End two kinds of counter- point live" counterpoint, full of vitality, and with good, definite, living, melodic movement; and stuffed" counterpoint counterpoint with no inside to it, but only a stuffing of meaningless notes. COLEG YR R.C.M.-Enillodd Mr. Spencer Thomas wobr yn arholiad term y Pasg. YR R.A.M.—Yn yr arholiad yno, enillwyd y Goldberg prize, i Denoriaid, gan Mr. Thomas Gibbs, o Ystradgynlais. Da iawn fod Cymry yn dod i'r amlwg mor fynych yn y gwahanol arholiadau cerddorol.
Y GYMANFA GANU YN DIRYWIO…
Y GYMANFA GANU YN DIRYWIO ? Mae'n anhawdd gorbrisio gwasanaeth y Gymanfa Ganu yn yr amser a fu, ond y mae'n anhawddach dyfalu fath ddrych fydd ar ganiadaeth y cysegr os yw tymor ei gwasanaeth ar ben, fel y mae lie i gredu ei bod mewn llawer ardal. Dipyn yn "hen ffasiwn" yw'r Gymanfa i liaws yn yr oes fursenllyd hon, a mwy cydweddol a'u chwaeth yw rhywbeth ar lun eisteddfod i wneud arian." Os bydd yr elw yn digwydd mynd at gapel neu ysbytty neu rywbeth tebyg, ystyrir hynny yn ddigon o drwydded i lindagu pobpeth sydd yn rhwystr i lwydd- iant yr anturiaeth, a gwae i'r hwn feiddia amheu buddioldeb y cynllun. Ond er hyn oil, meiddiaf ddweyd y gall Cymru fforddio y gwneud heb gymhorth y llu eisteddfodau sydd yn gymaint o fwrn ar y wlad heddyw, ac mai cymwynas a'r Eisteddfod fyddai i hyrwyddwyr y cyrddau hyn daro ar ryw enw mwy cydweddol a'u hamcan ond, yn sicr, nis gall wneud heb y Gymanfa Ganu, a 'goreu po gyntaf iddi wneud ei meddwl i fyny y mynn ei chadw yn ddilwgr hefyd, ac o gymaint gwasanaeth i ganiadaeth y cysegr ag ydoedd yn nyddiau Ieuan Gwyllt a Thanymarian. Yn ffodus, y mae gennym amryw arweinwyr heddyw sydd yn effro i neges y Gymanfa Ganu, ond y mae rhyw syniad wedi taro llawer ardal y gwna pob arweinydd "gornest gorawl y tro i arwain Cymanfa heddyw, ar wahan i grefyddolder ysbryd a chydymdeimlad a chaniadaeth y cysegr. Anoethineb yn newisiad arwein- yddion sy'n cyfrif fod llawer ardal wedi colli golwg ar wir neges y Gymanfa, ac y mae'n rhywyr i Gymru ddechreu ymholi faint o ysbryd yr eisteddfodau i wneud arian a'r "gyngerddfawreddog" sydd wedi llithro i mewn yn llechwraidd i diriogaeth y Gymanfa Ganu. PROFIAD ANYMUNOL MR. HARRY EVANS. Yr oedd Mr. Harry Evans, F.R.C.O., Lerpwl (gynt o Ddowlais), yn arwain Cymanfa Ganu ym Mangor yr wythnos ddiweddaf, a chafodd brofiad anymunol iawn. Prin y rhaid dweyd fod Mr. Harry Evans yn un o'r cerddorion mwyaf di- dderbyn-wyneb a feddwn fel cenedl heddyw, ac na feddwn ei alluocach ar lawer ystyr, yn arbennig felly fel arweinydd Cymanfa Ganu. Yn ol yr adroddiadau o'r gymanfa yn y newyddiaduron, dywedodd rai geiriau lied finiog, ond mae'n ymddangos fod galw neill- tuol am eiriau cryfion, yr hyn sydd wir, ysywaeth, am lawer ardal heblaw Bangor. Pan fyddoch yn gwahodd arweinydd y tro nesaf," ebai-" wiw i chwi ofyn i mi, oblegid ni ddeuaf byth-dylech wasgu ar y cantorion i ymdeimlo a'u dyledswydd at y Gymanfa Ganu." Teimlaf yn ddiolchgar fod Mr. Harry Evans yn ddigon anibynol ei ysbryd i roddi mynegiad i'r fath eiriau, ac fod neges y gymanfa yn fwy yn ei olwg na dim arall. Ni ddaeth ond dyrnaid o gantorion i'r "rehearsal" y noson o flaen y gymanfa, a theimlai fod hynny yn "sarhad arno fel arweinydd," ebe'r newyddiadur Seisnig y cyfeiriwyd ato yn barod. Nid yw cantorion y De, o leiaf, yn synnu dim fod Mr. Harry Evans wedi cadw ei hunanbarch o dan y fath brofiad chwerw a gwyr y cyfarwydd mai nid hunanbarch y cerddor enwog yn unig a glwyfwyd, ond, yn hytrach, ei fod yn teimlo hefyd dros anrhydedd y Gymanfa Ganu. Yng nghyfarfod y prydnawn cyth- ruddwyd ei ysbryd eilwaith gad rhyw ferch- etos difeddwl yn sisial ac yn gwamalu a'u gilydd, a phrotestiodd yr arweinydd yn erbyn y fath ymddygiad anweddus. Teimla cared- igion y Gymanfa yn ddiolchgar i Mr. Evans am ei brotest ddidderbyn-wyneb gwyn fyd na ddaliai pob arweinydd arall ar y cyfle i bwysleisio gwir amcan y Gymanfa. Y mae'r syniad o ganu mawl ac addoli yn beth dieithr i lawer o'n cymanfaoedd, a pherygl llawer arweinydd yw camgymeryd y Gy- manfa am yr Eisteddfod. [" Cemlyn yn y Weekly Mail.J
[No title]
ER mai aelod tros ran o Gymru yw Mr. Keir Hardie, nid yw yn credu rhyw lawer yn Nadgysylltiad yr Eglwys fel pwnc oll-bwysig i Gymru. Cred ef fod Mesur y Trwyddedau yn llawer mwy angenrheidiol er mwyn eu gwneud yn bobl sobr, ac unwaith y ceir cenedl sobr a dysgedig ni fydd iddi oddef yn hir unrhyw orthrwm offeiriadol oddiwrth nag esgob na phregethwr Cymanfa.