Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y WEINYDDIAETH NEWYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y WEINYDDIAETH NEWYDD. Erbyn hyn, y mae Mr. Asquith wedi llwyddo i gwblhau ei Weinyddiaeth, ac, ar y cyfan, mae'r wlad yn lied ffafriol i'r penod- iadau a wnaed. Gwaith anhawdd yw ffurfio Gweinyddiaeth ar ddechreu unrhyw Senedd- dymor, pan fo plaid newydd yn dod i awdur- dod, a phan fo hawlian y gwahanol swydd- geiswyr yn berffaith wybyddus i'r cyhoedd, ac i arweinwyr y cylchoedd gwleidyddol; ond gwaith mwy anhawdd i foddio pob clymblaid yw ad-drefnu'r seigiau, fel ag i gadw pawb yn deyrngar, ar ol bod mewn awdurdod anirhyw flwyddyn neu ragor, fel ag yr oedd gan Mr. Asquith i'w gyflawni. Mae'n gofyn craffter a doethineb, heblaw penderfyniad cadarn, i symud un gweinidog a gadael un arall yn llonydd. Gall un gwr fod yn fedrus yn yr adran hon o'r bywyd gwleidyddol, tra yn fethiant hollol mewn adran arall. Nis gellir, felly, sicrhau dyrchafiad i bawb pan fyddir yn gwneud y fath ad-drefniadau ond y mae Mr. Asquith wedi goresgyn yr anhawsterau gyda llawer o ofal a medr. Y peth cyntaf wnaeth Cymru ar ol clywed y dyfarniadau oedd llawenhau wrth weled un o'i phlant wedi llwyddo i gael ei le haeddianol o'r diwedd. O'r holl haid fu tan arweiniaeth C.B. 'does yr un wedi llwyddo mor rhagorol a Mr. Lloyd-George. Mae ei weinyddiad yn swyddfa Bwrdd Masnach wedi bod yn chwyldroad hollol, ac wedi dangos beth ellir wneud o'r adranau hyn pan y rheolir hwynt yn briodol ar linellau gonest a chywir. Swydd isel, fel y gwyddis, y cyfrifid Llywodraeth Bwrdd Masnach, ond gwnaeth Mr. Lloyd-George hi yn un o'r galluoedd pwysicaf yn y Deyrnas, ac yn awr wele ei wobr yn ei benodiad fel y Canghell- ydd Cyffredinol. Hir oes ac iechyd iddo i lanw'r cylch anrhydeddus y mae wedi esgyn iddo. Yr ail beth y mae Cymru yn edrych ymlaen. ato yw'r rhaglen Seneddol am weddill y tymor. Mae'r ad-drefniad yma wedi costio yn agos i fis o wastraff ar waith y Senedd, ac ni allwn fel gwlad fforddio hyn o amser. Mae'r galwadau parhaus am ddeddfau newydd yn ei gwneud yn anhebgorol ang- earheidiol i wella cynlluniau Ty'r Cyffredin ac os na lwyddir i orffen a'r mesurau mawr a ddygwyd i fewn yn ystod y deufis diweddaf cyn yr ymwahanir am wyliau yr haf, yna y mae rhagolygon Cymru am welliantau yn y tymor nesaf yn hynod o ansicr. Mae'n ofynol cael terfyn ar Addysg a'r Trwyddedau yn ystod y tymor hwn, a da gennym ddeall fod rhai o'r aelodau yn dra phendant ar y pwysigrwydd o wthio y mesurau hyn drwy'r Ty gyda chyflymder haeddianol. 'Does wiw chwareu mwy a'r egwyddorion sydd wrth wraidd y diwygiadau hyn. Mae'r wlad wedi hen benderfynu pwnc Addysg, ac mae tegwch Mesur y Trwyddedau wedi ennill parch a bendith gan yr oil o'r Eglwyswyr sydd o blaid dirwest a moesoldeb. Pa un a wna Mr. Asquith cystal Prif- weinidog a Syr Henry Campbell Bannerman, nid oes ond amser yn unig a ddengys. Yn un peth, mae Mr. Asquith yn rhagori mewn gallu a deall, ac os heb feddu'r bersonoliaeth atyniadol sydd gan C.B. hwyrach y gwna gada'i onestrwydd a'i bendantrwydd gwyneb- agored ennill edmygedd a theyrngarwch yr c oil o'i ganlynwyr yn y Ty. Un o blant y werin ydyw yntau, ac un sydd wedi gorfod gweithio yn galed er ennill y safle y mae ynddo heddyw, ac mae gennym ddigon o hyder yn ei ddynoliaeth na fydd iddo wneud dim yn anghydnaws a daliadau goreu'r Blaid Ryddfrydig, o'r hon y mae wedi bod yn add urn mor rhagorol, ac yn ymladdwr mor alluog, ers blynyddau lawer, ar lawr Ty'r Cyffredin.

[No title]