Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NID yw Byddin yr Iachawdwriaeth yn barod i gymeryd un rhan yn Mesur y Trwyddedau, am mai "mater gwleidyddol ydyw. Yr oeddem yn meddwl mai pwnc o grefydd oedd ceisio sobri'r wlad a lleihau nifer y temtasiynau. YN y cinio a roed i Mr. Tom Price-Prif- weinidog Deheudir Awstralia-yn y Clwb Cymreig, y noson o'r blaen, caed araith ragorol gan Mr. Herbert Lewis, A.S. Yr oedd yn llawenydd iddo," meddai, "weled Cymro wedi esgyn i'r fath. safle anrhydeddus yn Awstralia, a chan nad oedd y Cymry ond megys yn dechreu ar eu gyrfa, hyderai y cawsai Mr. Tom Price, pan ar ei ymweliad nesaf a Phrydain, weled Cymro yn Brif- weinidog ar Brydain ei bun AR ol aros yn Llundain am ddeuddydd neu dri, bwriada'r Brenin Iorwerth. fyned am daith i Sweden. Mae ei iechyd yn llawer gwell ar ol ei arlrosiad yn Neheubarth Ffrainc, a disgwyliai, pan aetb i ffwrdd, y buasai yn ol mewn pryd i dderbyn ymddiswyddiad C.B." ar adeg gwyliau'r Pasc. Ond o herwydd gwaeledd C.B, bu raid cyflymu'r trefniadau a pbaratoi Gweinyddiaetb newydd. NID yw'r Parch. G. Campbell Morgan yn cydnabod ei bun yn Gymro. Cafodd ei eni yn Sir Gaerloyw, ac 'roedd ei dad yn ,enedigolo Sir Fynwy, ond deuai ei daid o ranbarth gwledig o Gymru. Yng Nghaer- dydd y magwyd Campbell Morgan, ac ar gyffiniau Sir Forganwg y treuliodd y rhan fwyaf o foreu ei oes, a chydnabyddai ei dad -yr hwn oedd bregethwr gyda'r Wesleyaid ar un adeg-ei darddiad Cymreig.

Advertising

Y DYFODOL.

Advertising

Am Gymry Llundain.