Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA'R PASC.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA'R PASC. YSTADEGAU METHODISTIAID LLUNDAIN. Ar adeg y Pasc y cynhelir uchel-wyl y cyfundeb Methodistaidd yn Llundain. Diau fod i'r adeg ei anfanteision, am fod y cynull- iadau mor fychain, oherwydd fod can- noedd o'r Cymry yn ymadael a'r ddinas am lawer o ddyddiau yn ystod y gwyliau hyn. Ond yr oedd Cymanfa'r Pasc wedi ei sefydlu ym mhell cyn i wyl y Bane gael ei threfnu, a sicr y byddai yn anoeth i'w newid yn awr, ar ol bod yn sefydliad arosol am gynnifer o flynyddau. Er cymaint y tyrru tua'r wlad eleni rhaid cydnabod fod cynulliadau Cymanfa'r Pasc mor lliosog ag arfer, a chaed rhai odfeuon rhagorol yn ystod y gyfres faith oedd wedi eu threfnu ar ein cyfer. Y prif weinidogion ddaethant ar ymweliad a'r ddinas oeddent y Parchn. Cynddylan Jones. Gwynoro Davies, E. Rees (Dyfed), Philip L. Jones, J. 0. Thomas, Moelwyn Hughes, J. H. Williams, John Hughes, Pwllheli; John Roberts, Liverpool; J. Ffoulkes, Ellis Corris, a W. Llewelyn Lloyd. Dechreuwyd y gyfres cyfarfodydd trwy gynnal Seiat Gyffredinol yng nghapel Jewin ar foreu'r Groglith, ymha un y cyf- lwynwyd adroddiad llawn o ystadegau y Cyfundeb yn Llundain ar derfyn y flwyddyn 1907. Y mae'r adroddiad yn un maith a manwl, a gesyd safle'r cyfundeb yn Llun- dain ar derfyn 1907 fel a ganlun :— Addoldai a Ileoedd pregeth-LL 17 Canghenau Ysgolion 12 Gweinidogion 13 Pregethwyr 8 Blaenoriaid 113 Aelodau Cyflawn 4415 Plant 1199 Nifer yr holl Wrandawyr. 5881 'Prawf y ffigyrau hyn fod 18 o gynnydd wedi cymeryd lie yn nifer yr aelodau er 1906, a'r un modd ychwanegiad o 55 at y plant, ac mae hyn yn galonogol iawn pan ystyriom y lleihad a welir ynglyn a'r enwadau ereill. Nid yw'r Ysgol Sul wedi llwyddo mor dda am y flwyddyn. Mae nifer yr ysgolheigion wedi gostwng tua 250, tra mae cyfartaledd y presenolion wedi lleihau yn ddirfawr. Mae cyfrifon arianol y cyfundeb yn dra boddhaol ar y cyfan. Casglwyd yn ystod y flwyddyn y swm o Y,3,629 tuag at y Weini- dogaeth, ynghyd a £ 3,130 tuag at ddileu'r ddyled sy'n aros ar yr adeiladau. Yr oedd cyfanswm yr holl gasgliadau uwchlaw deng mil o bunnau, yr hyn a olygai tua 46/10 y pen ar gyfer pob aelod. Mae dyled presen- nol yr eglwysi yn 143,115, tra y cyfrifir fod eu gwerth ym mhell uwchlaw can mil o bunnoedd. Yn y seiat gyffredinol foreu Gwener y Groglith, tan lywyddiaeth y Parch. R. 0. Williams, caed sylwadau buddiol ar safle y cyfundeb yn Llundain gan y Parch. J. Gwynoro Davies. Tueddu i fod yn feirn- iadol oedd Mr. Davies, tra ar yr un pryd yn cydnabod anhawsterau eglwysi mewn trefydd Seisnig. Yr oedd yn flin ganddo weled fod 152 o aelodau wedi eu colli yn ystod y flwyddyn oddiar lyfrau yr aelodaeth. Dyna brofiad pob eglwys lle mae cymaint o fynd a dod ymhlith yr aelodau, a thueddai i feio yr arfer o dderbyn unrhyw aelod gan un eglwys heb fod tocyn aelodaeth yn cael ei gyflwyno hefyd. Gofidiai fod yr ysbryd cenhadolmor wan ym mysg yr Eglwysi, ac 'roedd an gen am welliant mawr yn y casgliadau cenhadol. Ar un olwg 'roedd y ddyled oedd ar yr eglwysi yn aruthrol, eto lie i gasglu arian oedd Llundain, ac hwyrach y gallent ddy- feisio rhyw gynllun i gael rhagor o arian oddiwrth bod aelod. Dylid dysgu llawer i gyfranu yn fwy rheolaidd a chyson, ac ond gwneud hynny hwyrach y deuai'r baich yn hawddach ei ddwyn. Gwyddai am an- hawster yr iaith ynglyn a'r to ieuanc oedd yn codi, a hyderai y gwnai teuluoedd Llun- dain wneud y Gymraeg yn iaith yr aelwyd mor bell ag oedd bosibl, fel ag i leihau gwaith a phryder yr Eglwysi. Yr oedd yn llawenhau wrth weled yr achosion newydd- ion yn myned ar gynnydd, ond yr oedd angen am ragor o gefnogaeth iddynt oddiar law yr hen eglwysi, a hyderai y gwelid llwyddiant mawr ar eu dyfodol. Mater yr ymdrafodaeth yn y Seiet eleni oedd Didwylledd Cymeriad," yn seiliedig ar loan i. 47, ac agorwyd yr ymdrafodaeth gan Dr. Cynddylan Jones, yr hwn a addefai fod yr adnod yn un na ddigwyddodd iddo erioed wneud pregeth arni, ac am hynny byddai ei sylwadau yn fyr. Wrth gyfeirio at Phylip a Nathanael dywedodd nad oedd yr un o honynt yn rhyw dalentog iawn, dim un o honynt wedi ysgrifennu dim, na gwneud yr un gwrhydri mawr. Eto Wele Israel- iad yn wir," oedd tystioliaeth Crist, ac enillodd hynny o garitor cyn iddo ddod yn Gristion. Dyn bach hawdd ei ddarllen oedd Nathanael, dim dyfnder lawer ynddo, yn ddidwyll a da, a dyna ddylai pob Cristion ymgyrraedd ato. Gwr unplyg a straightfor- ward iawn oedd hefyd, dim yn drwgdybio neb, ac un hawdd iawn i'w dwyllo pe yn Llundain yma dyn syml o garitor didwyll. Fe gredodd ar unwaith yn y Gwaredwr. Dyde'n ni ddim i gyd yr un fath yn hyn o beth. Rhai yn credu ar evidence bach iawn, ac ereill ar ol gorchfygu rhwystrau lawer. A dyna'r bobl sy'n mynd ym mhell, fel rheol, yw'r rhai sy'n rhaid iddynt ymladd dros eu credo. Ond dyn bach yn credu yn slio oedd Nathanael. Mor wahanol yr oedd Paul, y gwr a fu'n ymladd a'r fath rwystrau Y Parch. J. H. Williams, Llangefni, a addefodd nad oedd ganddo yntau yr un bregeth, ond yr oedd wedi cael gair newydd i draethu arno yn araith Dr. Jones, sef y gair slic," a chredai ef i Nathanael gredu yn slic am ei fod wedi bod yn chwilio am y goleuni i gredu. Fe gredodd Paul yn slic hefyd ar y ffordd i Damascus, ac 'roedd ef yn edmygydd mawr o'r bobl sydd yn credu yn hawdd. Mae yma rwystrau yn codi yn ami, ond nid yw dyn cryf byth yn ildio i ragfarn a gwrthwynebiadau. Dyfed oedd y nesaf, a gofynodd y Cadeirydd iddo am beidio bod yn faith, ac atebodd Dyfed trwy ddweyd nad oedd ganddo yntau bregeth ar y mater tan sylw, y gwnai orffen yn slic. Ond ar yr un pryd rhoddodd ychydig sylwadau amserol ar werth cymeriad pur a didwyll. Yr un modd hefyd y Parch. P. H. Jones, yr hwn a derfynodd y Seiat. I Yr aedd y cynulliad yn lied foddhaol, a phrofodd y tywydd yn ddymunol dros ben.

Advertising