Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
For a Supply of ABSOIrUTBIrY PURE mSSTAKDAXDISBD MELK, delivered to time, with m ^FUI_L WARRANTY, FREETH dc POCOCK, LTD., ALBERT EMBANKMENT, S.E. West Central and Northern Depot: REGENTS BUILDINGS. Telephone Nos. :-Head Depot: 1249 Hop. Northern: 1676 Holborn. WAKEFIELD ST., KING'S CROSS. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYST WYTH. One of the cotistitaeat Colleges of tb.3 CJaiversity of Wile PRESIDENT—The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). rrHE next Term begins on January 14th, 1908. A X number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, iClO, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar.
CHWAREU AG EGWYDDORION.
CHWAREU AG EGWYDDORION. Yr wythnos hon yr ydym wedi cael esiamplau nodedig o wagedd a rhagrith y bywyd gwleidyddol. Yn yr etholiad ym Manceinion, fel yr uu yn Peckham rai wythnosau yn ol, mae'r naill blaid fel y Hall wedi bod ar eu heithaf yn rhoddi pob math o addewidion, gan anwybyddu pob egwyddor o onestrwydd, gyda'r unig amcan o hudo'r etholwyr i'w gyrru i'r Senedd. Mae'r prif ymgeiswyr ym Manceinion wedi enwogi eu hunain am eu anghysonderau. Er engraifft, wele arweinydd ieuanc y cadau Rhyddfrydol yn dylifo allan ei raglen, gan addaw popeth a ofynasid iddo gan Wyddel neu Iddew, a hynny megys cyn i adsain ei areithiau gwrth-Ryddfrydig gilio o glustiau y rhai a'i canlynent fel Tori penboetli rai blynyddau yn ol. Mae'r egwyddorion a'r hawliau a roddai fel sylfaen ei gredo gynt wedi eu gyrru o'r neillda erbyn heddyw, ac mae'n llyncu'r gredo Radicalaidd gyda'r fath rwyddineb nes synnu hyd yn oed ei gefnog- wyr mwyaf selog. Cadw y sedd yw'r gamp, a rhaid addaw popetb er gwneud hynny Yr un modd 'roedd ei wrtbwynebydd Toriaidd. Ycbydig amser yn ol honnai ei fod yn bleidiol iawn tros ddirwest. Gosodai ei hun i fyny fel awdurdod ar faterion sob- rwydd. Pan oedd Dirprwyaeth arbennig yn chwilio i hawliau y fasnach feddwol a'r trwyddedau rai blynyddau yn ol, efe oedd y cadarnaf o'r boll dystion o blaid lleihau nifer y tafarndai. Dywedai yn ddifloesgni mai dyna'r unig ffordd i sicrbau sobrwydd. Ym mhellach, dadleuai tros gyfyngu yr hawl o iawn i dafarnwyr i bum' mlynedd, a llawer o welliantau cyffelyb. Ond gan fod y blaid Ryddfrydig wedi dwyn Mesur i mewn ar y llinellau a gymeradwywyd y pryd hwnnw, weJe ef ar ei eitbaf yn ei gondemnio gan gyboeddi ei fod yn eitbafol, yn anonest, yn bopetb ond yn gymortb i sobrwydd, a hynny pan mae cynnygion y Mesur yn llawer llai eitbafol na'r hyn a hawliai o flaen y Ddirprwyaeth honno. Ond gwr heb sedd Seneddol yn y golwg oedd ef pryd bynny! Nis gallai neb syrthio yn is mewn egwyddor ac anonestrwydd na hyn. Mae hawl gan bawb i newid eu barn a gwella ar eu gwy- bodaeth, ond pan welir y daliadau yn cael eu newid gyda'r unig amcan o gydymffurfio a daliadau plaid neillduol, yna does yr un gwertb yn y dyn. Nid goleuni ar egwyddor y maent wedi gael, ond goleuni ar y budd a'r llesiant personol; a thra y gosodir hyn ym mlaenaf gan gynrycbiolwyr Seneddol ein gwlad, ofer, yn wir, fydd ein disgwyliadau am lywodraetb lin a rhydd. 0 dipyn i beth fe ddaw y wlad i weled gwegi y cynllwynion hyn, a'r etbolwyr i brotestio yn erbyn cael eu gwneud yn cbwareubetbau dinod ar fwrdd ymgeiswyr gwleidyddol o'r fatb
NODIADAU LLENYDDOL.
NODIADAU LLENYDDOL. Yr Hen Ficer. Mae Mr. 0. M. Edwards yn parhau t wneud darganfyddiadau llenyddol, a hys- bysir yn awr ei fod wedi dod o byd i lawer o waith anghyoeddedig Ficer Pritchard. Bwr- iada ddwyn cyfrol o waith yr Hen Ficer yn nghyfres y Fil a gesyd ynddi amryw o'r petbau newydd y mae wedi ddarganfod. Cymru." Rhifyn tra barddoDol yw rhifyn Ebrill o'r cyhoeddiad cenedlaethol hwn. Mae'r Gol- ygydd megys wedi ei ddal gan swyn can y gwanwyn, ac wedi caniatau i amryw ddarnau barddonol i ymddangos. A 'does le i gwyno am hyn, oherwydd y maent oil yn hapus, ac yn meddu ar neillduolion addas i'r rhifyn. Rhaglen wreiddiol. Y dydd o'r blaen daeth i'm llaw raglen Gymreig yn rhoddi trefniadau cyngerdd a gynhaliwyd ar adeg Gwyl Dewi gan blant ysgol Llancrwys, Sir Gaerfyrddin. Rhoddir lie arbennig i'r Gymraeg yn yr ysgol hon, ac mae'r athraw, Dan Jenkins, yn trefnu cyngerdd cenedlaethol o'r nodwedd yma yn flynyddol yno. Eleni llwyddodd i gael Drama Gymraeg i'w hactio gan fechgyn ysgol ganolradd Tregaron, ac fel y gweddai i blant o'r dref bonno, drama ar hanes a bywyd "rrwm Shon Catti" a gaed. Yn ycbwanegol at hyn caed caneuon ac adrodd- iadau Cymreig, a'r oil yn ddarnau newydd, y rhai a argreffir am y waith gyntaf yn y rhaglen hon Dyma'r ffordd i godi plant yn wir genedlgarwyr Hen wroniaid. Yn ychwanegol at greu cariad at eu hiaith, dysgir y plant yn yr ysgol hon i goffhau am Hen arwyr ac enwogion lleol. Ceir darlun- iau ar y muriau o bob gwr glew a fagwyd yn yr ardal, ac mae llu o gewri wedi dod o'r gymydogaeth. Ar y rhaglen eleni rhoddir darlun o'r hen ysgolor a'r pregethwr enwogi William Da vies, Ph.D., athraw yn hen ysgol Ffrwdfal yr hanner cyntaf y ganrif o'r blaen. Dyma fel y cenir coffa yr hen ddoeth- awr gan Elfed Ffrwd y fâl! deffroad fu-i addysg, Ddyddiau gynt yn Nghymru Cai'r to ifanc, er tyfu, Gysgod teg y coleg cu. Athraw da, gweithiwr diwyd,—ni lecha Ei glod dan lwch gweryd A Dafis gaiff glod hefyd Ymhlith hauwyr bendith byd. E Ife d. Comic Historic of Cardyffe. Arlunydd doniol yw Mr. Lloyd Roberts, Caerdydd, ac mae wedi llwyddo i wneud llyfryn dyddan tan y penawd uchod. Rhydd gyfres hapus o wawd-ddarluniau yn ymdrin a phrif gyfnodau hanes y dref honno, a sicr y caiif y gwaith werthiant helaeth fel yr haedda. Nid yw'r pris ond tair ceiniog, ac fe geir rhagor na gwerth y pres o chwerthin wrth fyned dros y gwaith. Celtia. A barnu oddiwrth erthyglau'r rhifyn presenol o'r Celtia mae'r Wyddelaeg yn cael cryn lawer o sylw y dyddiau hyn ym myd addysg. Ceir dosbarthiadau lliosog yn Llundain yn ei hastudio, ac mae'r gwlad- garwyr Gwyddelig ar eu heithaf yn ei meithrin yng ngwahanol rannau o'r Ynya Werdd. Dylai hyn fod yn symbyliad i ninau yng Nghymru, lie yr esgeulusir cym- aint ar y Gymraeg heddyw. Os na wneir rhagor o ymdrech gan ein cyngorau addysg bydd yr iaith wedi eu gyrru allan o'r gwahanol ysgolion drwy ddifrawder cyn bo hir. Mae'r rhifyn drwyddo yn llawn dydd- ordeb i efrydwyr hanes y cenhedloedd Celtaidd, a dylai gael cefnogaeth barod gan ddysgedigion y gwahanol wledydd hyn. Y Genin en. Dyma rifyn llawn ar ddechreu gwanwyn, mor amrywiol a'r blodau lliosog a welir ar ymylon y ffordd. Dechreuir gydag ysgrif gref o waith Canon Williams, Ty Ddewi, ar A ddylai yr Hen Fam alw ei phlant adref," ac fel eglwyswr selog cred y Canon mai ar Iron yr Hen Fam mae'n bosibl i Gymro gael llaetb iachawdwriaeth. Beia yr ymraniadau sectyddol, a dywed ein bod ni yn yr oes hon yn euog o barhau'r pechod a ddech- reuwyd gan ein cyndadau. Ond beth am