Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

[No title]

NODIADAU LLENYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

%echod Eglwys Loegr yn ymranu oddiwrth Eglwys Rufain ? Mae darlun arall o'r .Eglwys yn yr un rhifyn mewn ysgrif gan Wyneddig ar Cri y bobl yn erbyn yr Eglwys." Ymdrinir a phynciau dadleuol ereill yn y rhifyn. Rhydd Pan Jones ei farn ar Y ddaear i'r Bobl." Y Parch. J. L. Williams ar Sosialaeth Gristionogol," a Mr. W. Roberts ar Y Werin a'u cyflwr." Ceir ysgrif gref ar y pwysigrwydd o gael Hanes Cymru wedi ei ysgrifennu yn briodol, .gan Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., a rhydd Mr. T. E. Morris ei farn ymhellach ar lawer o Gyfenwau Cymreig, ac mae Machreth, fel bardd, yn cymharu y ddau Omar—eiddo Fitzgerald a J. Morris Jones —ac yn dweyd pa un sydd agosaf at y gwreiddiol. Am y llu man bethau afraid eu henwi, ond dylai pob Cymro sydd yn caru ei iaith a'i genedl fod yn hyddysg o honynt, a'r cinig ffordd i ddyfod felly yw sicrhau y rhifyn yn eiddo personol. Swllt y chwarter yw'r pris, a gellir ei gael o'r swyddfa yng Nghaernarfon.