Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CYFNOD NEWYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFNOD NEWYDD. Yr wythnos hon dechreuodd y blaid Ryddfrydig ar gyfnod newydd yn ei hanes. Pa un a'i cyfnod o adfywiad a gweithgarwch ynte gyfnod o ddirywiad ac anrhefn fydd, 'does ond amser yn unig a all benderfynu ond y mae'r rhagolygon yn hynod o obeith- iol. Er mai dechreu pruddaidd a gaed ddydd LInn yn y Senedd, pan fa arweinwyr y cadau gwleidyddol yn canu cnul ffarwel i goffa yr hen arweinydd a gludwyd i'r Alban i'w osod yn nhy ei hir gartref y dydd hwnnw, eto yr oedd yr ymwybyddiaeth fod nifer o wyr ieuainc ffyddiog wedi eu gosod wrth awenau y Llywodraeth yn galonogol i'r blaid ar ddechreu ei gwaith tan arweiniad Mr. Asquith. Mae'n eglur mai ar ysgwyddau ei hieuenctyd y gorwedd iachawdwriaeth y blaid yn awr, ac mai oddiwrth yr adran ieuanc yn y Weinyddiaeth y disgwylir am ei C3 llwyddiant yn y dyfodol. Addefir yn gyffredinol mai diffyg pennaf yr hen Wein-yddiaotli, tan reolaeth y di- weddar Syr H. Campbell-Bannerman, oedd ei gochelgarwch. Yr oedd yn or-awyddus am geisio boddloni pawb, a thrwy hynny llwyddai i wneud gelynion o bawb. Dedd- fai ar linellau cymodlawn yn hytrach nag ar yr egwyddor o iawnder a lies y mwyafrif a thueddai, drwy hynny, i wneud pawb i ameu gonestrwydd ei chredo a'i daliadau. Hwyrach gyda'r to ieuanc newydd sydd yn y Weinyddiaeth yn awr y ceir mwy o hyder yng ngallu y blaid a mwy o ysbrydiaetli i osod eu credo mewn gweithrediad ar bob achlysur dichonadwy. Yn ystod y ddwy flynedd sydd wedi myned heibio mae'r blaid Ryddfrydol wedi cael digon o brofion na fyn y wlad mo'r mesurau hanerog yma a gynygir yn awr ac eilwaith. Mae helynt addysg wedi ei andwyo tuhwnt i wellhad drwy yr awydd i foddloni pob adran, ac mae perygl i Fesur y Trwyddedau ddod i'r un diwedd os cym- henir ef i gyfarfod a chais y gwahanol glybiau a chymdeithasau a honnant fod yn barchus yn rhengoedd y gelyn ar hyn o bryd. Os gall y blaid ddangos tipyn o asgwrn-cefn yn awr, ac arweiniad Mr. Asquith brofi yn ddigon cadarn ar y gwa- hanol adrannau y mae gobaith y ceir tym- horau tra Ucwyrchus cyn y bydd raid gwynebu'r wlad i roddi hanes ei goruchwyl- iaeth i'r rhai a'i gosododd mewn awdurdod. Mae cyfleusterau lliosog a nodedig o fewn cyrraedd yr arweinwyr newydd yn awr a'r hoiiad cyffredinol yw, a gymerir mantais priodol o'r cyfleusterau hyn ?

Dyrnod i Winston.

Person yntc Cenedl ?