Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
YSTADEGAU YR HEN GORPH.
YSTADEGAU YR HEN GORPH. [Gan EYNON DDU]. Yr oedd yn llawen gennyf weled fod y cyfundeb Methodistaidd yn Llundain yn parhau i gynyddu, a deallaf oddiwrth eich adroddiad yn y rhifyn diweddaf, fod cryn fywiogrwydd i'w ganfod yn y gwahanol eglwysi ar hyn o bryd. Fel ymwelydd achlysurol bum innau yn gwrando ar areithiau y brodyr yng nghymanfa'r Pasc, a rhaid i mi gydnabod fod y Parch. J. Gwynoro Davies yn hynod o anffodus yn ei gyfeiriadau tuag at y gwahanol eglwysi, a'r ymdrechion a wnaed ynddynt tuag at y gwahanol genhadaethau a sonid gan y gwr parchedig. Yr oedd yr adroddiad ar ba un y gwnaed y sylwadau y boreu hwnnw wedi ei argraffu, ac ar ol tafhi ail gipdrem tros ei gynnwys y mae'n syndod i mi fod gwr mor graff a Mr. Davies wedi myned i'r drafferth o wneud man gyfrifon ar rhyw un gangea fechan o'r gwaith eglwysig tra'n anwybyddu rhai o brif anghysonderau yr ystadegau blynyddol hyn. Ers rhai misoedd, os nad yn wir, rai blynyddau, bellach, yr ydym wedi clywed llawer iawn o siarad ar eld iffy g cywirdeb yn ystadegau y gwahanol enwadau. Er pan y dechreuwyd holi tystion gerbron y Ddir- prwyaeth Eglwysig y mae'r mater o ffigyrau ynglyn a'r gwahanol sectau wedi bod yn destyn sylw gan ein holl arweinwyr cref- yddol, fel nad oes un esgus erbyn heddyw -V C, gan unrhyw blaid nac eglwys rhag gosod cyfrifon priodol o'r gwahanol ddeadelloedd a ddigwydd fod tan eu gofal. Pe byddai .galwad am ystadegaeth y Cyfundeb Llun- deinig o flaen y Comisiwn hwn credaf y gwnai'r Barnwr Vaughan Williams gryn hafoc o hono, ac y gallai brofi i bobi o'r tuallan fod y rhai sydd yn gyfrifol am yr adroddiad blynyddol hwn wedi cawl- eiddio y cyfan yn druenus o anghywir. Cymerer ystadegaeth yr aelodau fel eng- raifft. Mae cyfri'r bobl yn hen waith, a phriodol yn ddiau yw gwybod pa nifer o .grefyddwyr Cymreig sydd yn Llundain. Beth ddywed yr adroddiad hwn am danynt. Yng nghyntaf rhanna'r personau i bedwar dosbarth, sef (1) aelodau cyflawn, (2) aelod- au ar brawf, (3) plant, (4) gwrandawyr. Mae ffigyrau y tri dosbarth cyntaf yn cael eu D y cadarnhau gan yr enwau sydd, neu o leiaf a ddylasent fod, ar lyfrau y cyfun- deb, ond dywedant mai amcangyfrif yw'r "gwrandawyr." Ond pwy a feddylir wrth y gwrandawyr? Dywed Clapham Junction fod ganddynt 197 o aelodau, a 67 o blant, a golyga hynny gynulliad o 264. ond dywed yr adroddiad mai dim ond 250 o wrandawyr sydd yno. Pwy yw'r 14 sydd heb fod yn wrandawyr ? Ai ergyd sydd yma at gysgadrwydd y blaenoriaid ? neu ynte ai cymgymeriad yw'r cyfan ? Eto daw Falmouth Road gyda 591 o aelodau a phlant, tra nas gosodir y gwrandawyr ond 500. Ai ,500 yn ychwanegol at y 591 a feddylir, neu beth ? Mae'n sicr nas gellir cael 91 o fydd- ariaid yn Falmouth Road er mor lliosog ydyw'r gynulleidfa. Y ffaith eglur yw, nad yw'r Cyfundeb yn Llundain eto wedi penderfynu beth a phwy a olygir wrth gwrandawyr," a'r canlyniad yw fod pob eglwys yn gwneud y defnydd a fynont o'r gair, a hynny gyda'r canlyniad nad oes bosibl cael cywirdeb yn y ffigyrau a osodir i'r cyhoedd. Wele Jewin gyda'i llu o ddieithriaid achlysurol, gyda'i thynfa nod- weddiadol fel man canolog, a chyda'i thorf liosog o 890 o aelodau a phlant, nid oes yno ond DEG o wrandawyr yn cael eu hychwan- ?gu at y nifer. Y mae'r syniad yn gamar- weiniol, a goreu po gyntaf i'r Hen Gorff gymeryd at y pwnc er cael dealldwriaeth priodol pwy a olygir fel Gwrandawyr. Ar hyn o bryd nid yw'r ystadegau yn rhoddi gwybodaeth gywir o safle yr enwad yn Llun- dain, a thrueni yw cyhoeddi ffigyrau fel hyn cyn i ni ddeall pwy ddylid eu cyfrif a phwy i adael yn ddisylw. A
BYD Y GAN.
BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. CANU.—Dyma'r peth y mae ein cenedl yn cymeryd dyddordeb arbennig ynddo. 0 bob celfyddyd dyma yr un sydd yn apelio gryfaf ac yn dylanwadu fwyaf ami. Pe cleddid yr Eisteddfod Genedlaethol, ni ellid Iladd ysbryd y gan ym mynwes plant Gwlad y Gan Y mae y wlad mor gyfan- gwbl o dan swyn nad yw yn debyg y bydd i unrhyw allu daearol ei symud ymaith-pe dymunid Onid yw gwaed y Cymro yn cynhesu pan y clyw ei wlad yn cael ei mawrygu fel Gwlad y Gan ? Ac y mae ei bedyddio yn Gymru lan—gwlad y gan," yn ryw awgrymu fod gan y gan rywbeth i'w wneud a'r glendid" a berthyn iddi! Cred y Cerddor fod gan y gân" y gallu mwyaf, heblaw yr Efengyl, ar gymeriad y Cymro ac nis gwn am na lienor na bardd sydd, hyd yn hyn, wedi profi, na cheisio profi, fod Llenyddiaeth a Barddoniaeth wedi gwneud mwy na cherddoriaeth er gosod y cymeriad Cymreig ar y pinacl y mae arno ar hyn o bryd. Ond er nas gwelaf y gellir lladd ysbryd y gan yn ein cenedl, y mae yn bosibl ei niweidio-ei lygru. Fel y dywedais lawer gwaith, credaf mai un ffordd i wneud hyn ydyw drwy ymgadw at y gwobrau mawrion a gynygir mor fynych i gorau-a hynny am mai dyna'r rheol mewn Eisteddfodau blaen- orol. Pe ceid pwyllgor argyhoeddiadol o hyn, i dorri y rheol niweidiol hon am un- waith, diau y deilliau lies buan i ysbryd ein cantorion drwy hynny. Ond waeth siarad a cherryg na siarad ag aelodau Eisteddfod ar hyn Cred fi, ddarllenydd, ni ddaw cerdd- oriaeth Gymreig i'w hetifeddiaeth hyd nes y dysgir, nes yr argyhoeddir Cymru, mai yn y pleser o'r ymarferiad a chanu y ceir yr elw pennaf—y lies uwchaf. Wrth son am ganu, oddiar ba safon y dylai pwyllgorau weithredu pan yn trefnu darnau i fod yn gystadleuol yn yr Eistedd- fod ? Gellir gweithredu oddiar ddau(l) gellir dewis y darnau mwyaf clasurol perth- ynol i unrhyw genedl; neu (2) gellir dewis y darnau goreu y mae Cymry wedi eu cyfan- soddi hyd yn hyn. Y mae (1) yn golygu y rhaid anwybyddu darnau Cymreig, canys y dyb gyffredin ydyw nad ydyw Cymry wedi cynyrchu darnau mor uwchraddol a'r Saeson a thramorwyr. Felly, os am brif ddarnau y byd, rhaid i Eisteddfod Y CYMRY fyned i blith estroniaid am ddarnau i'w canu ar ei Ilwyfan. Y mae (2) yn golygu fod cynyrch- ion goreu plant Cymru i fod yn foddion i'w chodi o ran ei chwaeth a'i chyrraeddiadau cerddorol. Fel llawer Eisteddfod arall, y mae Eisteddfod 1909 yn trefnu ei rhaglen ] gerddorol yn ol (1), tra y credaf yn gryf mai 1 yn ol (2) y dylai hi a phob Eisteddfod arall weithredu. < Dichon yr atebir fod canu darnau goreu y ] byd y ddisgyblaeth oreu i gantorion. Ydyw. 1 Ond gan mai sefydliad Cymreig, i'r Cymry, < ydyw yr Eisteddfod, credaf fod gan Gyfan- < soddwyr Cymru yr hawl gyntaf i ystyriaeth ] pwyllgorau. Ac nid wyf yn sicr fod mwy o I les yn debyg o ddeilliaw i'n cantorion drwy ] ganu darnau dyrus, prif wyr y byd, nag a geir o ymwneud a darnau goreu a diwedd- araf meibion Cymru. Meddylier am hyn. LLEISIO.-Y mae Curwen yn ddiweddar wedi cyhoeddi llyfr ar y testyn hwn sydd eisoes wedi ennill edmygedd llawer o gerdd- orion. Yr awdwr ydyw Wesley Mills, M.A.; M.D. Proffeswr ydyw ym Mhrifysgol McGill, Montreal, Canada. Llyfr cynhwys- fawr ydyw hwn, a cheir ynddo lawer o addysg. Anhawdd fyddai cael sylwadau callach nag a geir gan yr Adwdwr ar y "Registers," a da fyddai i lawer eu cofio. Wele ei eiriau :— "Some have looked on registers as almost an invention of the Evil One, and forbidden the use of the term to their students; but such ostrich-like treatment of the subject—such burying of the head in the sand-does not do away with a difficulty; much less can such a plain fact as the existence of registers be ignored without the most detrimental results. Some, feeling that the break was an artistic abomination, have proceeded to teach the student to reduce all tones to the same quality, which is about as rational as asking a painter to give us pictures, by the use of but one pigment. To attempt to abolish registers would be like leaving but one string to the violin which in- strument, in its present form, has a register for each string and the player endeavours to avoid the breaks that naturally occur in passing from string to string, and to get a smooth series of tones, just as the intelligent vocalist does. The wise instructor recognises registers they are a fact in nature, and are to be valued. The more colours, the greater the range of the artist's powers, other things being equal, whether the artist paint with pigments or tones; but just as the painter uses intermediate tones of colour to prevent rude transitions or breaks, so must the singer modify or cover' the tones between the registers-i.e., use tQ some extent the mechanism of both neigh- bouring registers." MELODEG (Melody).—Yn ei ddarlith ddi- weddar ar "DdadblygiadMelodeg," dywedodd Mr. T. F. Dunhill, yn ddigon gwir, mai i'r mwyafrif o bobl dyma'r peth sydd yn cyfrif mewn cerddoriaeth. Os bydd y Felodeg yn aneglur neu anyddorol, nid ydyw y gerdd- oriaeth honno yn dyddori; ond os bydd yn brydferth a swynol, y mae y gerddoriaeth yn gorfodi sylw ac edmygedd. Y Felodeg, fel y gwyddis, ydyw yr Alaw "—yr hon a roddir, y dyddiau hyn, i'r soprano, mewn cerddoriaeth leisiol. Bu cerddoriaeth am gyfnod maith yn un "Alawol," ac yn araf iawn y daeth i'r ystad honno. Wedi ei dadblygiad i bwynt a ystyrid yn un celfgar, amcenid rhoddi i'r gwahanol leisiau arbenigrwydd Melodeg, yr hyn a barai fod dyddordeb ym mhob rhan. Yr oedd (ac y mae) hyn yn ennill mawr i gerddoriaeth. Gwyr pob darllenwr beth ydyw melodeg a gwyr hefyd mat dyma un o'r pethau an- hawddaf i'w chynyrchu !—melodeg naturiol, wreiddiol, brydferth. Er amser Handel, Beethoven, Mozart, Haydn, &c., y mae synyrch cerddorol y byd yn fawr iawn, ac nid ydyw wedi ymgadw mor ffyddlawn at brydferthwch melodawl megis ag y ceir ef yn 3u gweithiau hwy; ac yn sicr y mae eu cerddoriaeth hwy, drwy ei phrydferthweh melodawl, yn dal i apelio at y byd, er mor 3yml ydoedd adnoddau y gerddorfa yn eu hamser hwy.