Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. YR HiN.-Os bu'r gauaf ar ymweliad a ni yr wythnos ddiweddaf, wele, cafwyd gwawr haf yr wythnos hon. CYFARFODYDD.—Yn ystod y Sul (yfory) cynhelir cyfarfodydd pregethu blynyddol Eglwys Moorfields," yn yr addoldy newydd yn Leonard Street, City Road. Gwasan- aethir eleni gan y Parch. E. W. Davies, Ton- Pentre. CYNGERDD.—Nos Iau nesaf, rhydd Mr. Vincent Davies. ei gyngerdd blynyddol yn y Queen'r Hall. Mae rhaglen gampus wedi ei threfnu gan Mr. Davies, a dylai'r torfeydd fyned yno yn llu. BATTERSEA RrsE.- Mae'r cyfeillion yn Battersea Rise yn trefnu i gynnal cyngerdd cystadleuol nos Fercher nesaf. Rhaid i enwau y rhai fwriadant gystadlu gael eu hanfon i'r Ysgrifennydd erbyn nos Fawrth CD nesaf. DEWI SANT.-Mae rhagolygon addawol am gyfarfodydd llwyddianus yma yn ystod y Sul (yfory). Gwasanaethir eleni gan y Parch. W. Headley, Llanfihangel Creuddyn. RADNOR STREET.—Mae'r eglwys hon wedi bod dan law yr adgyweirydd yn ddiweddar, ac mae golwg hardd arni yn awr. Aed i'r gost o tua dau gant o bunnau, ond disgwylir y gellir clirio y cyfan cyn diwedd y flwyddyn. YR EISTEDDFOD.-Hysbysir mai yn ystod yr ail wythnos o Febefin y cynhelir y cwrdd i gyhoeddi yr Eisteddfod yn 1909. Ym meusydd cyfreithiol y Temple, mae'n debyg, y bydd y cyhoeddi yn cymeryd lie, ac mewn cylch mor gyfreithiol, diau y bydd y cyfan yn unol a rheolau caeth yr Orsedd. BORO'Nos Iau, Ebrill 23, dadganodd Cor Gobeithlu yr eglwys uchod yr operetta, The Wishing Cap," gan W. Smyth Cooper. Medda yr awdwr uchod athrylith naturiol i ysgrifennu cerddoriaeth i leisiau plant. -The Enchanted Glen," a "The Wishing Cap o'i waith a ddadgenir gyda hwyl gan ieuenctyd ein hysgolion ledled Prydain. Rhoddodd plant y Boro' ddadganiad swynol ac effeithiol 0 "The Wishing Cap" i gyn- ulleidfa edmygol. Personolwyd preswylwyr amaethdy Durden gan Mr. Trevor Evans, Miss Maggie Jones, a Misses Rachel Thomas, Mabel Lewis, Gwladys Jenkins, Lizzie Jones, Jenny Morgan, Winnie Jenkins, Annie Morgan, Olwen Jones, Gwladys James, Blodwen Hodges, Mri. E. D. Evans, J. E. Evans, D. Rhys Jones, Evie Jenkins, H. Myrddin Lewis, Llywelyn Jones, a Talwyn Jones. Personolwyd y crwydriaid (gipsies) yn naturiol a byw gan Mr. D. Lewis Jones, Miss Mari Evans, a Mr. D. Cardigan Pritchard. Gwnaed gwaith y tylwyth teg yn brydferth, ryfeddol gan Misses Gwladys Edwards, Lizzie Evans, Kitty James, a Claudia Evans. Chwareuwyd y llyfr drwyddo ar v berdoneg gan Mr. J. Islwyn Lewis yn eiIeithiola medrus. Os parha y bachgenyn hwn i a studio ac ymarfer daw yn un o'r cyfeilwyr galluocaf yn fuan. Trefnwyd y Jlwyfan gan Miss Daisy John a Miss Mary Elizabeth Davies yn ol eu medr arferol. Arweiniwyd y plant gan y boneddwr ieuanc Mr. John Hughes, ac yr oedd y gwaith mor naturiol ac effeithiol, y plant wedi eu dis- gyblu yn dda, eu gwisgoedd mor swynol a destlus, a'r golygfeydd oil yn cael eu cyfleu gerbron mor eglur a grymus fel y dymuna y gynulleidfa ar Mr. Hughes, Miss John, a Miss Davies am drefnu i roi dadganiad o'r ( operetta hon eto ym Mai. Mae clod mawr yn ddyledus i'r tri uchod ac i'r plant am eu gwaith rhagorol. Ewch rhagoch. Cafwyd danteithion ar ddiwedd y dadganiad. GRYM ELFEN.—Wythnos y Pasc, yng nghanol y mellt, taranau, eira, cenllysg, eirwlaw, ac oerni, gwelais Mr. D. H. Evans, Abbeville Road, Clapham Park, fel cryr glas yn pysgotta yn afon Teify, islaw Tregaron a'r dyddiau hyn mae Mr. W. R. Evans, Brixton, yn baeddu gwair glannau afonydd Arfon o'r boreuddydd i'r dywyllnos i dwyllo pysg y dyfroedd i ddod i'w fasged. DEWI SANT, PADDINGTON.- Cawso 'm Eis- teddfod lewyrchus yma ddydd Llun y Page. Cyn dechreu ar y cystadleuthau, cafwyd gwledd o de, rhoddedig gan y gwyr priod. Cadeiriwyd am y noson gan Mr. David Roberts, Acton, yr hwn a wnaeth ei waith yn rhagorol. Dyma'r buddugwyr ar y gwa- hanol destynau :-Penillion coffa i Mr. John Pierce, Miss Maggie Williams traethawd, "Hunanaberth," Mr. D. Evans; Parti, "Y Nant a'r Blodeuyn," East End Mission; pedwarawd, Parti y Parch. W. Richards, caplan; deuawd, Mr. John Humphreys a'i gyfaill; soprano, Miss Davies, Dalston contralto, Miss Davies, Holloway; prif- adroddiad, Mri. T. R. Evans a W. J. Williams. Gwobrwywyd hefyd y rhai can- lynol Miss Humphreys a'i chwaer. Willie Davies, L. Hughes, Ll. Richards, G. 0. E. Williams, W. H. Thomas, Miss Evans, B. Edwards, ac E. Williams. ANERCHIAD I EisteddfodjDewi Sant, LIun y Pasc. Hawddamor i Eisteddfod Gwyr hyglod Dewi Sant, Fe'i molir gan bob tafod A llonod ar ei thant Llenorion gwlad Ceridwen A meib yr awen wir, A welir yma'n llawen Yn addien wyl ein tir. Cerddorion yn eu hwyliau A cherddoresau lion, •» A wenant megys blodaa Ar fronau dedwydd hon Mae clod yn wir ddyledus I roddwyr hael y Te, Mwynhau'r danteithion blasus Oedd felus yn y lie. Nid gwiw anghofio'r gwragedd Fu mewn brwdfrydedd cun, Yri rhannu mewn anrhydedd Drugaredd Duw i ddyn Fe delir i bob geneth Gan brydferth nice young man, Daw cwlwm tyn carwriaeth Yn berffaith yn y Llan. Edmygaf ein Cadeirydd- Cymreigydd o'r iawn ryw, Dihafal wir hwylusydd Ein cyfarfodydd yw; Sirioldeb ar ei ruddiau- Brawddegau byw o dês A wnant yr Eisteddfodau I ninnau'n llawn o les. LLINOS WYRE. WILLESDEN GREEN.—Prydnawn Llun y Pasc, yr 20fed cyfisol, cymerodd priodas le rhwng Mr. William Prichard, 189, Chapter Road, Cricklewood, a Miss Annie Humphreys, 62, Mill Lane, West Hampstead, yng nghapel Cymreig Willesden Green, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan weinidog yr Eglwys, y Parch. John Thickens, yn cael ei gynorth- wyo gan Dyfed, tra y gofalai Mr. Robert Jones, yr arweinydd canu, am y rhan gerdd- orol o'r gwasanaeth. Cymaint ydoedd y dyddordeb a gymerid yn y briodas bryd- ferth hon fel y gorlanwyd y capel gan berthynasau a llu mawr o gyfeillion o bob cwr o Lundain, y rhai a ddaethant ynghyd fel arwydd o barch tuagat y par ieuainc, ac i ddymuno yn dda iddynt ar gychwyniad eu gyrfa briodasol. Cysylltiadau teuluaidd ac eglwysig y par dedwydd oedd yn cyfrif am hyn, gan mai merch hynnaf Mr. a Mrs. Richard Humphreys ydyw y briodierch- teuiu ag sydd yn ddiarhebol am eu caredig- rwydd, eu sirioldeb, a'u cefnogaeth i bob achos da. Fe adnabyddir Mr. Humphreys fel un o swyddogion cyntaf eglwys Willesden Green, a chan mai ef oedd un o'r rhai gych- wynodd yr Achos yma rhyw ddeng mlynedd yn ol, priodol iawn ydyw mai ei ferch ef ydyw y gyntaf o had yr eglwys i ymbriodi. Er yn blentyn meddai le cynnes yn serch pawb a'i hadwaenai, ac ymroddai gyda deheurwydd i hyrwyddo buddianau yr Eglwys a'r Ysgol Sul. Mab i Mr. Prichard, Porthmadog, ydyw y gwr ieuanc, ac y mae yntau, hefyd, wedi proli ei hunan yn ddef- nyddiol a gweithgar iawn yn y cylch Cymreig. Ers rhai blynyddau efe ydyw ysgrifennydd arianol yr Eglwys. Y mor- wynion priodas ydoedd Misses Myfanwy, Maud, a Mabel Humphreys (chwiorydd y briodasferch), Nellie Prichard (chwaer y priodfab), Annie Ceinwen Price, Myfanwy Prys, Lily Jones, Eleanor Ann Davies (cyf- nitherod y briodferch), Eleanor Elias, a Bessie Woodward, tra y gweithredai Mr. Fred. Burrell fel cyfaill y priodfab. Ar ol y gwasanaeth yn y capel, aeth rhyw gant a banner o wahoddedigion i neuadd yr Athenaeum yn High Road, Kilburn, ym,mha le yr oedd gwledd briodasol wedi ei darparu,, a threuliwyd yno brydnawn hynod o hapus Ymadawodd y par ieuainc am eu mis meL yng nghanol dymuniadau goreu eu cyfeillion. Bwriadant ymgartrefu am dymor yn West- cliffe on Sea, ond hyderwn mai byr fydd eu harosiad yno, gan fod angen am danynt gan eglwys Willesden Green yn y gymydogaeth hon.

CYFARFOD MISOL LLUNDAIN.