Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD SHIRLAND ROAD.

[No title]

Cleber y Clwb.

Y GWANWYN.

IEUENCTYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

IEUENCTYD. Henffych well, ieuenctyd siriol, Llona'm calon weld dy wedd Ennyn ynwyf fflam angerddol 0 lawenydd, dwyfol hedd. Yn y boreu, gyda'r wawrddydd, Telynorion man y llwyn, A gydbynciant fwyn garolau Am ogoniant gwanwyn mwyn. Gweld yr wyn ar balmant blodeu, Dawnsio wnant i swynion cerdd, Anian ieuanc wedi deffro, Foreu blydd, mewn gweirglodd werdd. Coed y maes a gurant ddwylaw Mewn encore i'r felus gan, Cluda'r awel beraidd fiwsig Yn fy nghalon fach ar dan. O ieuenctyd, anwyl ydwyt, Cyfnod dedwydd, deffry serch, Egyr lygaid, ar ledneisrwydd A phrydferthwch, mwynaidd merch. Tymor adeiladu cestyll A ymddyrchant hyd y nen Tlws ddarluniau o'r dyfodol, A ymrithiant ar y lien. Ond arafa paid a gwylltio, Rhaid wrth brofiad, taith sy bell, Yr hen wyr a'r ieuanc dybia," Sydd arwyddair llawer gwell. Ami lane, yn nwyf ieuenctyd, Rwyfa'i gwch i'r trobwll certh, Gan anghofio'r Hwn sy'n llywio, Ac yn cadw o nerth i nerth. EDWARD HUMPHREYS.

Gohebiaethau.

Advertising