Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD SHIRLAND ROAD.

[No title]

Cleber y Clwb.

Y GWANWYN.

IEUENCTYD.

Gohebiaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohebiaethau. YR IAITH NEWYDD. At Olygydd CYMRO LLUNDAIN. ANWYL SYR,—Ar ol darllen llythyr Mr. S. Trefor Jones yn eich argraff am yr wythnos hon II Ar yr Iaith Gymraeg," meddyliais na fyddai gair neu ddau fel canlyniad i'w ysgrif ef ddim yn anyddorol i rai o'ch darllenwyr. Pan ar ymweliad a Mynwent Tooting, ddydd Lluti y Pasc diweddaf, ac wrth fyned heibio cofadail hardd a drudfawr o ithfaen caboledig ac argraff Gymraeg arni, meddyliais imi glywed rhai oedd o amgylch y be id yn siarad Cymraeg a'u gilydd, ac er fy syndod, felly yr oeddent, o'r mwyaf hyd y lleiaf. Merch fechan tua phedair mlwydd oed oedd yr ieuangaf, ac yn gallu siarad yr hen iaith yn rhydd a rhwydd. Cymraeg i gyd yr ydym ni yn siarad gartref yn y teulu," ebe'r foneddiges, ac y mae y rhai henaf yn gallu darllen ac ysgrifenu yr iaith hefyd. Mae ein merch henaf yn ysgrifennu yn Gymraeg at ei mamgu yng Nghymru bob amser. Mae i ni naw o blant yn fyw, ar maent oil wedi eu geni a'u magu yn Llundain. Mae un, ein Edwin bach, wedi ein rhagflaenu ni, a dyma ei fedd ef- beddgell y teulu ydyw, ac y mae lie i gladdu unar- bumtheg ynddi, felly dim ond efe weithian sydd yn ymwneyd a'n Iaith Newlidd-I Iaith newydd sydd yng ngwlad y dydd'—ond yr ydym ni yn bwriadu glynnu wrth yr hen iaith tra yn y fuchedd hon, a'i dysgu hefyd ar ein haelwyd gartref i'r to sydd yn codi." Yr wyf yn gwybod am deuluoedd ereill, hefyd, sydd yn dwyn cyffelyb sel dros eu hen iaith, felly nid oes argoelion marw arni.—Yr eiddoch, &c., Mai 2, 1908. ADSAIN.

Advertising