Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
FREETH & POCOCK, LTD., -SUPPLY p Witt COOLED MltK, A DIRECT FROM THE FARMS. + CD GUARANTEED FREE FROM PRESERVATIVES. Head Depot ALBERT EMBANKMENT, S.E. West Central Depot :-REGENTS BUILDINGS. Telephone Nos.—Head Depot: Hop 1249- West Cental: Holborn 1676. WAKEFIELD ST., KING'S CROSS. WELSH PRESBYTERIAN CHURCH, EALING GREEN, W. r- A Grand.. Welsh Concert (In aid of the Chapel Building Fund) WILL BE HELD AT THE TOWN HALL, EALING, W., On Wedijesday Evening, Ray 20th, 1908. /r'f" ehairman W. PRleE, Esq. Soprano Madame Laura Evans, R.A.M. Contralto Miss Gwladys Roberts, R.A.M. Tenor Mr. Gwynne Davies Baritone Mr. David Evans, R.A.M. Violinist Mr. Tom Morgan (Bronze and Silver Medallist, R.A.M.) Elocutionist Miss Jennie Davies Accompanist-Mr. David Richards, A.R.C.O. Doors open 7.30. Concert to commence at 8 o'clock promptly. Admission by Tickets, 3/ 2/- and 1/- each, to be obtained of Members of the Church, or the Hon. Sees Mr. EVAN HUGHES, 3, Retina Terrace, West Ealing Mr. J. FERRY LEWIS, 17, Drayton Green, West Ealing 3 minutes from Ealing Broadway Stations (G.W.R. and District); also Electric Trams from Shepherd's Bush, Hammersmith, Acton, Hanwell, Southall, and Uxbridge, pass the Hall. ALORIDGE9S HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDGE'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE. LONDON W.C. Horses of every class sold by Auction each Wednesday and Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau gwrthodedig.
BLWYDD=DAL I'R HEN.
BLWYDD=DAL I'R HEN. Dyma gyfnod newydd wedi dechreu yn hanes y llafurwr. Mae breuddwydion a gobaith dwy genhedlaeth o wleidyddwyr Rhyddfrydig wedi eu sylweddoli bellach, ac mae'r hen a'r methedig i gael blwydd-dal gyda gwawr blwyddyn newydd. Hen syniad y diwygwyr cymdeithasol yw'r cynllun o roddi blwydd-dal i bobl ar derfyn einioes, pan wedi myned yn rhy fethedig i ennill eu bywoliaeth. Y mae llawerjo ddadleu wedi bod ynglyn a'r egwyddor, ac mae llu o anhawsterau wedi eu codi gan y rhai oeddent yn wrthwynebol i'r syniad. Un o rwystrau pennaf y cynllun yw'r trefniadau sydd gennym ar hyn o bryd gogyfer a'r tylawd a'r hen. Honnir fod y Poor Law System ym Mhrydain ar y blaen i bob gwlad arall, ac fod trefniadau digonol gennym i gadw pawb rhag eisieu, ac mai anheg ac anoeth fyddai gosod beichiau ereill ar y Wladwriaeth er sicrhau math o flwydd-dal i afradlonwyr ar derfyn eu dyddiau. Hawdd deall mai nid o rengoedd y gweith- wyr a'r llafurwyr cyffredin y codai'r gwrth- wynebiad mwyaf i gynllun o flwydd-dal. Y mawrion a'r awdurdodau swyddogol yn unig oeddent ar y blaen bob amser i ddatgan mai breuddwyd ffol oedd y fath syniad chwyl- droadol, ac nas gellid byth ei wneud yn ymarferol. Fel bu'r hap, darfu i rai o'r trefedigaethau roddi prawf ar y syniad; ac mae wedi profi yn beth hynod o foddhaol. Cedwir yr hen rhag pryder a newyn, a rhodd- ir cyfleusterau iddynt gadw eu hunanbarch. Nid oes dim diraddiol yn y syniad o gael blwydd-dal; a chan fod yn amhosibl i'r llafurwr cyffredin i gynilo o'i enillion yn y blynyddoedd teneu hyn, mae'r wlad tan ddyled drom i'r Rhyddfrydwyr am osod seiliau cyfnod newydd yn hanes y gweithiwr, yn yr addewid a wnaed yr wythnos ddiweddaf am sicrhau blwydd-dal i bob gwr haeddianol ar ddechreu 1909.
Pwy gaiff Flwydd-dal ?
Pwy gaiff Flwydd-dal ? Gan fod y Llywodraeth yn trefnu gogyfer a blwydd-dal i'r hen, ac fod y cynllun i ddechreu yn lonawr, 1909, y mae'n ddyddorol ymholi pwy sydd i dderbyn budd oddiwrth y mudiad chwyldroadol hwn. Gwaith anhawdd, ar y dechreu, meddai Mr. Asquith, yw pen- derfynu, i sicrwydd, beth fydd y gost ynglyn a'r fath gynllun. Er mwyn bod ar yr ochr sicraf, y mae wedi trefnu fod pob person uwchlaw 70 oed i gael pum swllt yr wythnos, a phob cwpl priod i dderbyn saith-a-chwech yr wythnos, os bydd eu henillion, neu eu derbyniadau wythnosol ddim dros ddeg swllt. Gwneir trefniadau i dalu'r arian drwy'r llythyrdai lleol, fel na fydd eisieu ychwanegu yn ddirfawr at y traul o ddosbarthu'r arian, fel ag y mae'n rhaid gyda Deddf y Tylodion. Yn ol yr amcangyfrif a wneir, fe ddaw rhyw 500,000 (hanner miliwn) o ber- sonau yn dderbynwyr rheolaidd o'r blwydd- dal, a bydd y draul yn rhywle oddeutu chwe miliwn y flwyddyn. Mae'r ffigyrau yn edrych yn fawr ar yr olwg gyntaf, ond pan ddeallir i ni fel gwlad wario dros dri-chan-miliwn yn Neheudir Affrica, yn ystod y rhyfel di- weddaf-sef digon i sicrhau blwydd-dal am hanner-can-mlynedd—nid yw'r gost yn rhyw lethol iawn. Dygir Mesur drwy Dy'r Cyffredin ar fyrder er rhoddi'r cynllun newydd ar seiliau diogel cyn dechreu'r flwyddyn nesaf. Cadw Dundee. Llwyddodd Mr. Winston Churchill gadw sedd Dundee yn ddiogel i'r Rhyddfrydwyr, er gyda mwyafrif llai nag ar adeg yr Ethol- iad Cyffredinol. Ond nid yw'r gymhariaeth ffigyrol yr un fath yn awr ag ydoedd yn 1906. Yr oedd dau ymgeisydd i'w hethol y pryd hwnnw, tra nad oedd ond un i'w ethol yn awr, a chan fod dwy bleidlais gan bob etholwr y pryd hynny, y mae yn amhosibl disgwyl yr ua mwyaf rif. Eto i gyd, y mae mwyafrif o 2709 o blaid Mr. Churchill yn galonogol dros ben, ac yn arwydd ei fod wedi cael cefnogaeth unol y Rhyddfrydwyr yn yr Alban, ar ol ei wrthodiad gan fasnacli- wyr Manchester. Bellach, y mae'n ddiogel yn y Ty, a hyderwn y bydd yr un mor llwyddianus fel Pennaeth ar y Bwrdd Mas- nach ag ydoedd ei ragflaenydd disglair, Mr. Lloyd-George. Lleihau'r Doll. Cri mawr y Diffyndollwyr y dyddiau hyn yw fod eisieu rhoddi ychwaneg o doll ar y nwyddau a'r bwydydd a ddygir i'r wlad hon, ond mae'r Weinyddiaeth Ryddfrydig bresen- nol wedi newid y cynllun, gan dynnu i lawr dreth y siwgr o 4s. 2d. i Is. 10d. y can pwys. Golyga hyn y gellir cael siwgr am tua ffyrling y pwys yn rhatach o hyn allan, a bydd yn ddyddorol gwylied beth fydd cri y Diffyndollwyr am weithred o'r fath. Amcan pennaf pleidwyr Masnach Rydd yw gwneud pob nwydd angenrheidiol i gynhaliaeth bywyd yn ddi-doll, ond myn canlynwyr Mr. Chamberlain fod hynny o athrawiaeth yn gyfeiliornus, ac mae'r ffordd oreu i sicrhau ltwyddiant y wlad yw gosod toll ar wenith ar chig, ac angenrheidiau ereill, fel ag i sicrhau prisoedd uchel yn ein marchnadoedd ein hunain. Pa un a dderbynir cynnyg Plaid y Diffyndollwyr ai peidio, 'does ond amser a ddengys; er hynny, y mae'n amlwg fod y weithred ddiweddaf hon o eiddo'r Rhydd- frydwyr wedi rhoddi boddhad i'r cyhoedd, a phery peth digalondid yn rhengoedd pleid- wyr masnach ddrud. YR wythnos hon agorwyd arddangosfa fawr Shepherd's Bush. Mae cynyrchion goreu Prydain a Ffrainc i'w cael yn yr arddangosfa hon. TALODD Mr. Asquith dros 10 miliwn o'r ddyled wladol yn ystod y flwyddynddiweddaf- A YDYW'R wlad yn dyfod yn fwy sobr ? Y llynedd yr oedd y derbyniadau oddiwrth y doll ar wirodydd yn llai o Y,151,000 na'r flwyddyn flaenorol. AR ol cael y car modur i berffeithrwydd mae'r dyfeiswyr yn awr yn prysur gynllunio peiriannau i hedeg. Dywedir fod rhai Americaniaid eisoes wedi llwyddo i hedeg 30 milltir mewn peiriant yr wythnos ddi- weddaf. DYDD Gwener diweddaf bu farw'r Anrhyd. J. A. Campbell, brawd y diweddar Syr H. Cambell-Bannerman. Yr oedd wedi bod yn wael ers misoedd.