Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD 1909.

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

aeth effeithiol y cor o 60 o leisiau, tan arweiniad Mr. Vincent Davies. Gwnaeth hwn ei waith yn rhagorol, a phrofodd nad yw canu corawl ymhlith y Cymry yn myned ar i lawr. Dylai Mr. Davies drefnu cyn- ulliadau o'r fath yn fwy ami yn ein plith. PLAISTOW. Yng nghapel Anibynwyr Seisnig Upton Manor, ar y 5ed cyfisol, unwyd mewn glan briodas Mr. Evan Pughe, Step- ney, a Miss Elizabeth May Roberts, Cefn- camberth Hall, Towyn. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei brawd, Mr. J. Owen Roberts, chemist, Plaistow. Y gwas a'r "forwyn" oeddent Mr. Thomas Evan Pugh, Aberarth (nai y priodfab), a Miss Massie Roberts, chwaer y briodasferch. Helena fach, merchMr. J. 0. Roberts, ydoedd y page-girl. Yr oeddent wedi eu gwisgo yn hardd a dymunol. Gwasanaethwyd gan y Parch. Llewelyn Bowyer, East Ham, a Mr. Humphreys, City Road. Wedi y gwasan- aeth yn y capel, aethpwyd i dy Mr. and Mrs. J. Owen Roberts i fwynhau y wledd oedd wedi ei darparu yn helaeth ar gyfer y parti. Eisteddodd nifer helaeth wrth y bwrdd, a gwasanaethpwyd gan Miss Pugh (chwaer y priodfab), Mrs. Roberts, a Miss Martin. Yn ystod yr amser y buwyd wrth y bwrdd der- byniodd Mr. a Mrs. Pugh nifer fawr o frys- negesau yn dymuno iddynt bob hapusrwydd a dedwyddwch ar eu gyrfa briodasol. Yr oedd yr anrhegion oddiwrth gyfeillion a pherthynasau yn lliosog iawn yn eu mysg degell arian," yn rhoddedig gan eglwys Nazareth, o'r cylch lie yr oedd y briodasferch yn aelod. Yr oedd yr arysgrifen fel y can- lyn :-Anrheg i E. M. Roberts, rhoddedig gan eglwys Nazareth a'r cylch, Mai 6, 1908." Gadawodd y cwpl ieuanc yn y prydnawn am Isle of Wight i dreulio eu mis mel. Pob llwydd a chysur iddynt ar hyd eu hoes.— Cyfaill. DEWIS BLAENORIAID.—Y Saboth diweddaf bu dwy o'r eglwysi Methodistaidd wrth y gorchwyl o ddewis blaenoriaid ychwanegol, a da gennym ddeall fod yr etholiadau wedi proh yn rhai hynod o foddhaol i'r gwahanol gynulliadau. Yn Falmouth Road dewiswyd y brodyr a ganlyn :—Mr. John Jones, Daw- lish Street; Mr. Harry Lewis, Windmill Street; a Mr. W. Williams, Balham. Yn Wilton Square dewiswyd pump o frodyr, sef Mri. William Jones, Edward Jones, 0. M. Owen, J. Herbert, a J. M. Davies. FALMOUTH ROAD.-Mae'r Cymry yn ardal Falmouth Road yn trefnu i gynnal cyfarfod mawr o blaid Mesur y Trwyddedau, sydd ar hyn o bryd o flaen y Senedd. Llywyddir y cwrdd mawr hwn gan Captain Cecil Norton, yr aelod Seneddol tros y rhanbarth, a siaredir gan Mri. J. Herbert Roberts, A.S., Ellis J. Griffith, A.S., Canon Jephson, M.A., Parchn. S. E. Prytherch a J. Hugh Edwards. BATTERSEA RISE. Cynhaliwyd Swper Goffi a chyngerdd mawreddog yn y lie uchod nos Fercher, y 6ed o Fai. Gwasanaethwyd yn y cyngerdd gan y rhai canlynol:—Miss Kolb, Blackheath Miss Hagger, Clapton Mr. W. H. Jones, Stoke Newington; Mr. Stanley Davies, King's Cross; Mr. Tom Jenkins, King's Road; a Mr. Henniker, Balham. Clorianwyd y cantorion gan Mr. Arthian Davies, Chelsea. Cadeiriwyd yn ddeheuig dros ben gan M. D. Williams, Ysw., Westminister. Trefnwyd y cyfan gan y ddwy chwaer garedig, Mrs. Richards, Sutherland Terrace, South Belgravia, a Mrs. Evans, Abbeville Road, Clapham Park. Gweithiodd y ddwy yn egniol iawn, a prawf o'i gweithgarwch diflino ydoedd yr elw o £ 40 a wnawd drwy yr ymdrech hon. Haeddant ganmoliaeth mawr am eu llafur diflino hefyd dymunwn ddiolch i bawb arall fu yn gwneud unrhyw gyfran tuag at wneud y cyfarfod yn llwyddiant. EALING.—Cynhaliwyd cyfarfod olaf tymor y Gymdeithas Lenyddol ynglyn a'r Eglwys uchod yn y Swift Assembly Room yr wythnos ddiweddaf, a chaed noson hynod o lwydd- ianus. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. Davies, Praed Street, yr hwn yn ei anerchiad a anogodd y bobl ieuainc i ymdaflu i waith a manteisio ar y cyfarfodydd hyn i wneud gwaith mawr dros y Meistr, a bod o ddefnydd yn eu cylchoedd. Sicrhawyd gwasanaeth Miss Aberdeen Jones, Miss Maggie Purvis, Miss M. E. Williams, Meistri T. Lewis, W. Richards, a Clifford Evans fel cantorion. Cyfeiliwyd ar y ber- doneg gan Mrs. T. Lewis, Ashburton Villa," ac adroddwyd darnau addysgiadol iawn gan Miss Laura Evans a Mr. John Samuel. Marwolaeth.-Gyda gofid y cofnodwn far- wolaeth ein hanwyl gyfaill, Mr. Enoch Hughes, yr hyn gymerodd le ddydd Gwener, Ebrill 24ain, ar ol byr gystudd. Bu yn aelod ffyddlawn yn eglwys Ealing, ac efe ydoedd ysgrifennydd yr Ysgol Sul y flwydd- yn ddiweddaf. Cawsom golled fawr fel Eglwys o'i golli, a chwith yw gorfod credu ei fod wedi ei symud oddiwrthym, ond erys ei gymeriad da a'i zel dros achos ei Feistr yn etifeddiaeth werthfawr i ni fel eglwys. Yr oedd yn hoff gan bob un a'i hadwaenai yn wr hynaws, caredig, a thawel, yn un parod iawn i wneud unryw orchwyl a ofynid iddo, ac yn haelionus at bob achos. Gadawa weddw ac un plentyn i alaru ar ei ol. Cymerwyd ei weddillion marwol gyda'r tren i Golwyn Bay boreu Sadwrn, a chladdwyd ef yng nghladdfa newydd y dref. Yr oedd yn bresennol yn Euston, yn talu y gymwynas olaf, y Parch. Francis Knoyle, Mr. a Mrs. Roberts, Thornton Heath Mr. Evans, West- field Road, Ealing; Mri. Clifford Evans, a H. Parker Rees. Anfonwyd bleth-dorchau heirdd gyda'r corph, un oddiwrth aelodau yr eglwys, a'r Hall oddiwrth Mr. a Mrs. Evans, West Ealing. FALMOUTH ROAD EISTEDDFOD Y PLANT.— Cynhaliwyd Eisteddfod Flynyddol y Plant nos Fawrth, Mai 12fed, Mr. R. H. Jones (Arolygwr yr Ysgol Sul) yn y gadair, a Mr. Idris Jones yn arwain. Daeth cynulleidfa dda ynghyd, a chafwyd cystadleuthau rhag- orol. Beirniadwyd y gerddoriaeth gap. Miss Marguerite Evans, R.A.M., a Mr. R. L. Davies, Clapham Junction. Yr adroddiadau gan Miss Jennie Davies a Mr. J. Esmond Evans. Y Needlework gan Miss Bessie Davies Freehand Drawing gan y Mri. G. E. Mitchell a J. Richards, o Ysgol Dul- wich. Enillwyd y gwobrwyon ar y gwahanol destynau gan y rhai canlynol :-Unawd ar y berdoneg dan 12 oed 1, Nellie Follows; 2, John Thomas. Adrodd dan 8 oed 1, Howell Jones. Unawd dan 8 oed 1, Marie Davies; 2, Gwen Davies ac Enid Davids. Adrodd dan 11 oed 1, Mary Thomas 2, Blodwen Hughes; 3, Myfanwy James. Unawd ar y berdoneg: Catherine Davies (Dulwich), a Sarah Jones (Brixton), yn gyd-fuddugol. Adrodd dan 14 oed 1, Llew Jones 2, Jennie Evans. Unawd dan 11 oed 1, Mary Thomas 2, Rosina Davies 3, Mary Williams 4, C. Ll. Davies. Adrodd dan 16 oed Maggie Evans. Needlework, dan 12 oed: 1, Mary Williams; 2, Katie Evans 3, Blodwen Hughes. Dan 16 oed 1, Gracie Roberts 2, Hannah Lewis 3, Cissy Davies (Dulwich). Unawd dan 14 oed 1, Gracie Roberts 2, Jennie Evans; 3, Blodwen Roberts. Pencil Drawing (Conway Castle): 1, J. Williams; 2, J. Evans. Freehand Drawing dan 12 oed 1, Willie James 2, Llew Jones. Dan 16 oed 1, Annie Evans; 2, J. Williams; 3, John Evans. Unawd dan 16 oed Rachel Jones a Maggie Roberts yn gyd-fuddugol. Deuawd dan 16 oed: 1, Mary Williams a Jennie Evans Maggie a Gracie Roberts. Parti o 12 dan 16 oed Rhanwyd y wobr rhwng Parti Miss Annie Evans a Parti Miss Maggie Roberts. Gwnaeth y beirniaid eu gwaith yn rhagorol, ac yn rhoddi boddhad cyffredinol. Dylid sylwi fod Miss Annie Evans, un o. blant Falmouth Road, wedi gwneud ei gwaith yn rhagorol wrth y berdoneg. Credwn fod dyfodol disglaer i'r chwaer ieuanc hon, ac y bydd yn addurn i ni fel Eglwys ac i Gymry Llundain. J.D. NI DDAW GAIR O'R BEDD YN OL. Yn nistawrwydd prudd y fynwent Gwelais lawer twmpath hy', Blodau arnynt a amlygent Olion dwylaw angau du Mewn eigionau yn gloedig, A gwywedig yn eu col, Mud yw'r bodau anweledig :— Ni ddaw gair o'r bedd yn ol. Daeth y Gwanwyn gyda'i dlysni- Daw yr Haf a'i wenau mwyn, Daw yr Hydref gydi'i oerni Gauaf ddaw i ddifa swyn. Er fod angau i mi'n elyn I Gwena'r meillion ar y ddol, Ond sibryda hiraeth wedyn,— Ni ddaw gair o'r bedd yn ol. Harrow. LLINOS WYRE.