Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

YR YSGOL A'R DAFARN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR YSGOL A'R DAFARN. Gwaith pennaf y Llywodraeth yn ystod y misoedd nesaf yma fydd rhoddi terfyn ar yr helyntion ynglyn a'r ddau sefydliad hyn. Mae'r dafarn yn hen sefydliad; ac ar ol y Ddeddf a gaed trwy diriondeb y Llywodraeth Doriaidd ddiweddaf, y mae wedi ei sefydlu ar seiliau hollol sicr. Ar un adeg credid mai am flwyddyn yn unig oedd hawl gan y tafarnwr i gael ei drwydded, ond erbyn hyn mae'r fraint honno wedi dod yn hawl arosol. Nis gellir gwrthod ei drwydded i geidwad y dafarn, ond am dor-cyfraith yn unig, a mwy na hyn, nis gellir ei amddifadu o'i hawl parhaol ynddi, ond trwy dalu iawn iddo am ei golled. Y canlyniad yw fod pob perchen tafarn yn freeholder o'r drwydded, ac er mai'r wlad roddodd iddo'r fraint honno yn rhad, eto rhaid i'r wlad dalu yn ddrud am yr hawl yn ol, os am ddileu y drwydded! Un o amcanion y Mesur Trwyddedau, sydd ger bron y Ty ar hyn o bryd, yw ceisio rhoddi terfyn ar barhad y Drwydded ac i leihau y nifer trwy dalu am danynt eu gwir werth marsiandiol yn hytrach na'u gwerth dychmygol yn ol barn y tafarnwr. Mae'r aelodau yn Nhy'r Cyffredin eisoes wedi datgan eu barn o blaid y Mesur, a diau y llwyddir cyn hir i'w yrru drwy ei drydydd darlleniad; a bydd yn ddyddorol gwylio eu gamrau drwy Dy'r Arglwyddi. Yno mae'r Esgobion o'i blaid, ond pwnc arall yw a all dylanwad yr esgobion wrthweithio dylanwad y darllawyr yno ? Ofnwn mai ei ddarnio a wneir a'i lurgunio tuhwnt i adnabyddiaeth, a bydd yn werth gweled a lwyddir i guro gwaith a dylanwad y Cyffredin y tro hwn, fel ag a wnaed ynglyn a mesurau ereill. Am helynt yr Ysgol, mae'n eglur na cheir diwedd ar y cweryl ynglyn ag addysg y plentyn yn ystod y Weinyddiaeth bresennol. Beth bynnag a wneir, rhaid i un neu arall o'r pleidiau deimlo eu bod wedi cael anhegwch. Mae'r cwestiwn mor gymysglyd ar hyn o bryd, fel mae'n amhosibl deddfu i gyfarfod a phob plaid mewn un Mesur cyffredinol. Mae hawliau'r Eglwyswyr, hawliau'r Pab- yddion, a bawliau'r Ymneillduwyr, heb son am ysgolion arbennig yr Iddewon ac ereill, mor wahanol i'w gilydd, fel nad oes obaith y cytunir ar gynllun cyffredin i gyfateb yr oil. Pan eir i ymyraeth a phwnc crefydd neu enwadaeth, mae'r cyfan yn myned tuhwnt i iawnder ac egwyddor, a chredwn mai'r unig gynllun yw, i'r Llywodraeth gymeryd at addysg fydol yn unig, a gadael pob sect a phlaid i ddysgu ei phlant yn ol ei chredo neu ei daliadau arbennig ei hun. Deogys y Mesur sydd yn awr o flaen y Ty, mor an- hawdd yw cael cytundeb. Mae yn anheg i'r Eglwyswyr ac yn anheg i'r Ymneillduwyr, ac mae'r goddefiadau a ganiateir drwyddo yn bethau gwrthun i bawb a gar iawnder a rhyddid. Cyn y ceir terfyn ar yr helynt, rhaid myned ym mhellach na'r hyn a gynygir yn awr. Nid yw Mesur Mr. M'Kenna ond clytwaith dros amser; ac er mai gwell yw cael rhan i ddechreu, rhaid addef mai rhan tra anfoddhaol fydd i Ymneillduwyr Prydain.

Coffa " C.B."

[No title]