Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
BUGAIL NEWYDD CLAPHAM JUNCTION.
BUGAIL NEWYDD CLAPHAM JUNCTION. Cyfarfod Sefydlu. Mae'n amlwg fod cryn lawer o fywiogrwydd yn yr Eglwysi Methodistaidd yn Llundain y misoedd hyn. Ychydig wythnosau yn ol, yr oedd eglwys Shirland Road yn rhoddi croesaw i fugail enwog o'r Deheubarth i ofalu am y praidd, a chyn i swn yr areithiau edmygol, a draddodwyd y noson honno, gilio o'r glust, wele'r brodyr yn Clapham Junction yn ein gwahodd i gyd-lawenhau a hwy yng nghroesawiad a sefydliad y PARCH. D. TYLER DAVIES i'w plith fel gweinidog. Mae clod a hanes Mr. Davies yn wybyddus drwy'r Cyfundeb i .gyd, ac mae'r gwaith y mae wedi ei wneud am flynyddau yn ardal y Bwlch, Sir Frycheiniog, wedi ennill edmygedd pawb sy'n caru gweled -eynnydd yr enwad yng Nghymru. Ond er -eymaint ei waith, ac er mor eang ei glodydd, nid yw Mr. Davies eto ond ieuanc. Daw i Lundain yn anterth ei ddydd, ac ar adeg pan y gall roddi gwasanaeth lawer i'w Feistr. Mae wedi cymeryd gofal o'r eglwys ers rhai Suliau bellach, a threfnwyd y cyfarfod croesawu ar adeg hwylus, wedi iddo gael amser i sefydlu ymhlith ei ddeadell. Daeth torf fawr ynghyd i'r cwrdd croesawu, a a-hoddodd Mrs. Lloyd-George ei phresenoldeb am ychydig amser i dderbyn y gwahodded- igion, ac i wneud pawb i deimlo yn gartrefol. Yn y cynulliad hwyrol daeth MR. J. HERBERT LEWIS, A.S., i lanw'r gadair, a chan fod Mr. Lewis wedi bod, ar un adeg, yn un o fynychwyr cyson y lie, yr oedd yn teimlo yn bur gartrefol i lywio gwaith y noson. Darllenodd yr Ysgrifennydd lythyrau oddiwrth nifer o gyfeillion yr Achos oeddent yn analluog i fod yn bresennol, yn datgan eu llawenydd am ddyfodiad Mr. Davies i Lundain. Ym mysg y llythyrau, darllenwyd yr un canlynol oddiwrth Mr. Lloyd- George, a thoddai ein calon gan gydymdeimlad wrth glywed ei frawddegau toddedig :— ANWYL MR. TYLER DAVIES, Y mae'n wir ddrwg gan y wraig a minnau fod hen ymrwymiad yn atalfa ar ein ffordd i ddyfod i'ch cwrdd croesawiad heno. Buasem ein dau yn gwneuthyr ymdrech arbennig i ddod yna. Y mae cysegredigrwydd neillduol i ni ynglyn a'r adgofion .am gapel Clapham Junction. Bu yn ysgol dda i'n geneth fach hoff i barai oi ar gyfer y Nefoedd. Yr oedd hi yn wastad yn Dawn dyddordeb a sSl .m gapel Clapham junction-pobl y capel, a phethaa y capel. Bu pawb yna yn dirion iawn wrthi, ac yr ydwyf yn teimlo yn gynnes iawn -tuag attynt yn herwydd hynny. Yr oedd hi yn edrych ym mlaen gydag awydd tnawr at ddyfodiad y bugail newydd, a theimlai yn falch ei bod wedi pleidleisio trosto. Ond, cyn iddo ddod yr oedd hi 11 dan ofal y Bugail ei bun." Wel, Duw a'ch bendithio chwi, a'r Eglwys yr ydych wedi eich galw i fugeilio trosti, yng nghy- flawniad y gwaith goreu y gall dyn ymroddi iddo.—Fyth yn gywir, D. LLOYD-GEORGE. 11, Downing Street, S.W. Mai 15, 1908. Y mae yna ryw frwdfrydedd yn nodweddu -eglwys Clapham Junction na cheir ef ond yn ;alifynych yn ein capeli Cymreig; a brwd- frydedd a than Cymreig yw hefyd. Nis gwn beth sydd yn cyfrif am hyn, ond y mae yn wir. Felly yr oedd eu cyfarfod i groesawu a sefydlu eu gweinidog, y Parch. D. Tyler Davies, a'i deulu nos Wener diweddaf. Pan gyrhaeddais yno, yr oedd yr holl le yn drydaniaeth drwyddo. Yr oedd y capel yn orlawn, ac yr oedd pawb yn canmol y croesaw ar te oeddid wedi gael y prydnawn. Bron na chredwyf fod holl weinidogion a phregeth- wyr ein capeli Cymreig, o bob enwad, yno yr Hen Gorff, wrth gwrs, yn cael ei gynrych- ioli yn gryf-y Parchn. J. E. Davies, M.A., R. 0. Williams, D. Oliver, T. F. Jones, Peter Hughes Griffiths, M.A., S. E. Prytherch; ac yr oedd Elfed yn ddigon ynddo ei hun i gynrychioli yr Anibynwyr, a'r Parch. J. Humphreys y Wesleyaid. Teimlai y Bed- yddwyr y buasai y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George yn ddigon yw cynrychioli hwy, gan y disgwylid ef i fod yn bresennol. A llawenydd gan ein calon oedd gweled dau o'n hoffeiriaid ieuainc Cymreig yno, mor lion a chartrefol a neb, sef y Parchn. D. Richards (Dewi Sant) a Lewis Roderick (Camberwell); ac yr oedd ymhlith y dyrfa fawr wynebau lawer o'r holl gapeli Cymreig yn Llundain. Yr oedd, hefyd, amryw o weinidogion eglwysi Saesneg y gymydogaeth wedi derbyn gwahoddiad yr Eglwys y Parch. E. Stowell Brown, Stormont Road- a chynrychiolid y Presbyteriaid gan y Parch. E. Souper, M.A., a chan y Parch. E. W. Roase, M.A. Y llywydd oedd J. Herbert Lewis, Ysw., A.S.—hen Fethodist a berchir yn fawr gan y Corff, yn ogystal a chan ei genedl. Yr oedd ef wedi bod yn aelod o'r Eglwys am dymor, ac yn ffyddlawn iawn yn ei holl gynulliadau, ac felly yn gymwys iawn i lywyddu y cyfarfod. Yr oedd yn llawen iawn ganddo fod yno ar yr achlysur o'r briodas hon rhwng eglwys Clapham Junction a'r Parch. D. Tyler Davies, yr hon oedd yn argoeli gobeith- ion gWJch iawn am y dyfodol. Dygodd Mr. PARCH. D. TYLER DAVIES (Clapham Junction). Lewis dystiolaeth uchel iawn i lafur diflino ei hen weinidog, y Parch. Ll. Edwards, M.A. Yr oedd yr Eglwys wedi cael braint fawr iawn o gael gwr o safle a phrofiad Mr. Edwards i'w harwain a'i harolygu yn ei maboed, ac i'w lafur ef, yn ddiau, y mae priodoli cynnydd mawr yr Eglwys mor gyflym. Yr oedd yn llawenydd mawr ganddo glywed am weinidog o ddawn a thalent yn hunan-ymwadu ychydig er mwyn ei bobl a'i genedl ei hun, pan y mae cymaint o demtio ar ein gweinidogion i'r pulpudau Seisnig. Auogai i'r Eglwys beidio dirprwyo pob gwaith i'w gweinidog, ond fod i'r swyddog- ion fod yn ffyddlon iddo, ac i beidio gor- feirniadu, ond cofio mae dyn oedd yntau, fel yr offeiriaid gynt, wedi ei amgylchu a gwendid, ond dyn Duw, ac yn hawlio fel y cyfryw eu parch a'u gweddi ar ei ran. Yna galwodd y Llywydd ar Mr. James Evans, ysgrifennydd yr eglwys, i roi hanes yr alwad. Yr oedd Mr. Evans wedi dyfod ar ei union o Gymru i'r cyfarfod ar ol bod yng nghladdedigaeth ei dad (one of the Baron's) yn Nhredegar. Am hynny nis gallai wneuthur cyfiawnder ag ef ei hun yn gosod gerbron, hanes, y garwriaeth fer ond frwd iawn rhwng yr Eglwys a Mr. Davies. Pan ddaeth Mr. Davies i fynu i bregethu am dri Saboth, fe aeth rhyw sibrwd drwy yr holl eglwys Mai dyna y dyn i ni, ac er fod llawer o enwau ar y pryd gerbron Pwyllgor y Bugail, dropiwyd pob un pan y caed awgrym fod Mr. Davies yn agored i alwad. ac yn yr ohebiaeth ag ef yr oedd pob llythyr oddiwrtho yn ei ddyrchafu yn ein barn am dano. Fe anfonodd yr Eglwys Mr. Isaac Jones a minnau i lawr i'r Bwlch, a rhaid i ni addef na ddaethom yn ol yn yspryd Caleb a Joshua. Ond wedi gweled y lie cysurus oedd gan Mr. Davies a'i anwyldeb, a'i barch gan bobl ei ofal, a llawer yn gwawdio am i ni feddwl y gallem ei ddenu i Lundain am y gydnabyddiaeth a fedrem ni fel Eglwys sicrhau iddo. Bu i ni bron a llwfrhau a cholli ein ffydd; ond chware teg i Mr. Davies, ail beth yn hollol y gwnaeth ef y mater o gyflog. Y cwbl ofynodd ini oedd cael ei osod mewn amgylchiadau i beidio peri pryder iddo, ac fe wyddoch chwi drwy brofiad yn well na ii, faint sydd ddigonol i hyn. Credai Mr. Evans mai cyfleustra i weithio dros lesu Grist oedd wedi bod yr atyniad mwyaf i Mr. Davies i ddyfod atom. Ar ol hyn galwodd y Llywydd ar Mr. Davies i ddweyd gair. A dywedodd fod yn am- hosibl iddo ef fod yn fwy cysurus nag yr oedd yn y Bwlch, na chael mwy o garedig- rwydd. Ond teimlai fod yn Llundain faes ardderchog i weithio dros lesu Grist. Ac yr oedd y fath wresogrwydd ac unfrydedd yn yr alwad fel y teimlodd fod galwad ac awdurdod Duw y tu cefn i alwad yr Eglwys, ac mae rhaid oedd ufuddhau. Yr oedd yn teimlo yn wir ddiolchgar am y cydymdeimlad a'r caredigrwydd mawr a ddangoswyd tuag ato yn nyfodiad ynghyd gynifer o'i frodyr o bob enwad, a chyfeillion o'r holl eglwysi. Yr oedd hyn yn galondid mawr iddo ar gychwyn ei waith, ac yn lleddfu tipyn ar ei hiraeth ef a Mrs. Davies.
IOLO AR 14 RHUDDWAWR."
IOLO AR 14 RHUDDWAWR." Nid yn ami y ceir un bardd yn canmol gwaith bardd arall, ac mae'r gras o edmyg- edd yn beth prin, hefyd, medd rhai, yn y pregethwr. Hoff gan bob aderyn ei lais, ac nid yw yn gallu canfod swyn yn llais rhywun arall. Mae cael eithriad i'r rheol hon, felly, yn beth swynol, ac mae engraifft nodedig o hyn yn yr Ymwelydd misol am Mai. Yno ceir ysgrif edmygol o'r Parch. J. E. Davies, M.A., Jewin, o dan law athrylithgar y bardd-bregethwr Iolo Caernarfon. Haedda yr oil o'r ysgrif ddarlleniad trwyadl gan bawb, a themtir ni i ddyfynu rhan o honi er peri awch yn y darllennydd am weled y gweddill. Dyma ddywed Iolo:- Tueddir fi i gofnodi yn y fan hon un neu ddwy o nodweddion amlycaf Mr. Davies. Un ydyw ymroddiad mawr a chyson i waith. gyda gallu neillduol i wneuthur llawer o waith mewn ychydig o amser, a medr gredd- fol i droi allan waith glan, graenus, a chan- moladwy. Dywedir yn uchel yn y dyddiau hyn nad yw graddau athrofaol yn profi llawer mwy na chof cryf a gwybodaeth eang,—nad ydynt o gwbl yn gwarantu meddylgarwch grymus na diwylliad dwfn. Gan nad pa un am hynny, gwn fod Mr. Davies, yn ychwan- egol at fod yn ysgolhaig gwych, ac yn efryd- ydd caled, yn feddyliwr rhagorol, ac yn wr diwylliedig a choeth dros ben. I grybwyll dwy nodwedd arall,—doethineb a bonedd- igeiddrwydd. Prin yr adwaen i ddyn mwy doeth a chall, mwy diogel ei farn, neu un yn gweld ymhellach ymlaen, nag ef. Ni fyddai yn hawdd gan lawer, wrth ei gael mor syml a eiriol, gredu ei fod yn feddianol ar y fath ystor o synwyi ac o fedr i drafod a gorchfygu amgylchiadau dyrus. Am ei foneddigeidd- rwydd, cydnabyddir yn gyffredinol ei fod yn