Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

A ,BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. CANEUON GWERIN.-O dan y penawd Dadblygiad Caneuon Gwerin Gwyddelig," ceir erthygl gan Dr. Annie Patterson, yn y rhifyn o'r cyhoeddiad Celtia, am fi8 Mai. Gan fod dyddordeb adnewyddol yn cael ei gymeryd y dyddiau hyn yng nghalleuon y bobl, y mae yr erthygl yn un amserol, ac yn sicr o gael ystyriaeth. Fel y gwyr llawer o'm darllenwyr, y mae casgliad bychan o ganeuon gwerin y Cymry "I. 1 'T" wedi ymddangos yn daiweaaar. uyna Eisteddfod Genedlaethol Llangollen hefyd yn cynnyg gwobr am gasgliad o'r math hyn o ganeuon a gwahoddir cerddorion i anfon easgliadau hefyd i Eisteddfod fawr 1909. Fel° hyn gwelir fod "Caneuon Gwerin" yn dyddori cerdd-garwyr yr adeg bresennol. Beth ddeallir wrth Ganeuon Gwerin ? Atebir mai crynodeb ydynt, mewn ffurf gymesur seiniawl, o deimladai cryfaf cenedl. Dyna ddeffiniad Dr. Patterson o'r math hwn o gerddoriaeth. Dywed ymbellach fel hyn "In native minstrelsy we find, notably, the outlet of expression for that greatest of all emotions—love, whether it be love of the Highest, of one's country, of one's kindness, or of one's work." Dywed y foneddiges hon fod caneuon Gwerin y Gwyddelod i'w rhifo wrth y mil- oedd nad oes yr un gyffredin a gwael yn eu plith. Ymhellach, dywed eu bod o ran gwneuthuriad (structure) mor berffaith fel y byddant yn peri edmygedd tra bydd amser. El ymlaen i ofyn ar ba dir y siaredir am "ddadblygiad" y "Caneuon Gwerin" hyn-rhai ydynt mor berffaith, fel y cyfryw, ag y cydnebir hwynt gan gerddorion dysgedig "diweddar"? "Ought we not," meddai, rather to make it the basis of our great superstructures, the heart and soul of our noblest achievements ? should we have the courage and ability to form an Irish School of Composition, in what way can we reverently and consistently develop our native foik-soog, so as to make it the ground- work of home-born musical wealth to come ? Sir C. V. Stanford has shown how modern musical scholarship can weld native Irish folk-song to the requirements of the Cosmopolitan musical demands of the day." Os oes gan y darllennydd eisiau prawf pellach o'r ffordd ym mha un y gellid, ac y dylid, yn ol Dr. Patterson, "ddadblygu" y Caneuon Gwerin," dywed fel hyn: "Nor is history lacking in practical ex- amples of the utilisation of folk-S'">?i&- for the ground-work of extended compositions." Gyda llawer o sylwadau y foneddiges hon yr wyf yn cytuno. Y mae Caneuon Gwerin" i'w cymhell i sylw-nid yn gym- aint o herwydd eu "perffeithrwydd" ag am eu bod yn fynegiad naturiol, syml, o deim- ladau'r bobl yn yr hen amseroedd pan nad oeddynt yn ymboeni ynghylch, nac yn gwy- bod am, "ffurf" a "gwrthbwynt." Nis gwn am yr holl emau (gems) Gwyddelig y cyfeiria Dr. Patterson atynt; ond gwn nas gellir galw pob un o'r Alawon yng nghasg- liadau ein gwlad gerddorol ni yn "emau a buasai yn beth gwyrthiol pe buasent felly Goddefer imi ddweyd na chefais eto brawf fod Caneuon Gwerin cyhoeddedig Cymru agos mor hen ag y myn rhai ini gredu; a pharai syndod mawr imi pe gellid profi fod Morfa Rhuddlun," er engraifft, wedi ei chyfansoddi yn union ar oi y frwydr fyth- gofiadwy honno-am y rheswm nad ydyw hanesiaeth gerddorol eto wedi profi fod cynyrchion mor gywrain mewn bod yn y cyfnod hwnnw. Yr wyf yn hollol anghytuno a Dr. Patter- son pan y dadleua o blaid gwneud y Gan Werinol" yn destyn ar ba un i weithio allan gyfansoddiadau hirion. A'i dyma'r llinellau ar ba rai y dylid "dadblygu" y math hwn o gerddoriaeth ? Os ydyw y Gan Werinol" mor berffaith, oni fyddai yn ddoeth ar ran cerddorion yr oes oleu hon ei gadael fel y lluniwyd hi gan ei chyfan- soddwyr di-ddysg ond dawnus ? Nid wyf yn pleidio ceisio gwneud cwch fach yn ilong y mae y ddau beth nofiadwy hyn yn bur wasanaethgar fel y cyfryw ond din- ystrid y naill a'r Hall pe ymyrid gormod a hwynt. w Cyfeiria'r foneddiges hon at nodweddion Alawol Cerddoriaeth Werinol Wyddelig, sef (1) Gochel y pedwerydd a'r seithfed yn y Raddfa, oddeithr yn y rhannau di-acen (2) defnyddiad y seithfed "disgynol"; (3) ail-adroddiad y Tonydd mewn diweddeb (4) ymddatigosiad "pendant" (emphatic presence) chwechfed toil y Raddfa. 0 ran "ffurf," y mae iddi: (a) Y meddylddrych- neu y testyn; (b) y frawddeg ganol; (c) yr "ail-adroddiad" o'r testyn. Diau ddarfod i gerddorion ddadblygu y Sonata o'r "ffurf" syml a enwyd; ond ni chredaf y byddai cerddorion yn barod i gydnabod mai Alawon Gwerinol yr Iwerddon," wedi eu dadblygu, fyddai Sonatas gan, dyweder, Beethoven, pe buasai'r cyfansoddwr hwnnw wedi dwyn i mewn iddynt y nodweddion ydwyf newydd eu henwi! Os edrycher drwy Gasgliadau Argraffedig cyntaf ein gwlad ni, gan gydmaru yr un alaw yn yr "Argraffiadau" fel y dilynent eu gilydd, fe welir fod y rhai diweddaraf," yn fynnych, yn dangos cyfnewidiadau ac ol Haw gyfarwydd. Hwyrach na wnaeth ami i Olygydd welliant mewn hen alaw, ond lie y gwnaed, dengys hynny nad ydoedd y cyfryw yn berffaith fel y trowyd hwynt allan gan eu cyfansoddwyr. Fel arall y mae yn yr Iwerddon, mae'n debyg Os gellir i raddaii wella Alawon Gwerin, heb, ar yr un pryd, eu niweidio, gwneler hynny. Yn sicr y mae lie i wella cyfeiliant llawer o'r alawon hyn; ond dylid gofalu am beidio gorlwytho y cyfryw, a hefyd dylai helpu i yrru adre' neges yr alaw. Y mae lie hefyd i wella y geiriau yn fynnych. Yn y ffordd hon cedwid yr Alawon Gwerinol" o fewn eu terfynau eu hunain, a gwnelid hwy yn fwy gwasanaethgar. Da ydyw cymell pobl i gasglu alawon o'r fath, ac i geisio gan y wlad i gymeryd dyddordeb ynddynt. Y mae yn un ffordd i gadw cenedlgarwch yn fyw; ac y mae'r cyfryw alawon, yn fynnych, yn briod a geiriau sydd yn bur genedlgarol.

Advertising

CYMANF A'R PLANT.