Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Miri'r Ymherodraeth.

AD=ENNILL EI SAFLE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AD=ENNILL EI SAFLE. Ar ol hir hepian mae'r Llywodraeth wedi dihuno i'w chyfrifoldeb. Yn ystod y pythefaos diweddaf yr ydym wedi cael datganiadau pendant gan wahanol arwein- wyr, sydd yn profi eu bod o ddifrif ynglyn a gwelliantau cymdeithasol y deyrnas; a'r foment y gwel y wlad fod yr arweinwyr yn ddiogel yna, cant y gefnogaeth haeddianol ar bob achlysur y gofynir am dani. Dengys y ffaith fod y Mesurau ynglyn ag Addysg a'r Trwyddedau wedi cael ail-ddarlleniad gyda'r fath fwyafrif, fod y wlad yn barod i'w cefnogi, ac mae'r newydd fod tymor Hyd- refol wedi ei drefnu, yn ernes o ddidwylledd yr arweinwyr, ac yn brawf eu bod ar eu goreu yn ceisio gosod eu haddewidion mewn gweithrediad. Gwir fod yr anhawsterau ar ffordd diwyg- iadau gwerinol ynlliosog, ond mae'r egwydd- or o gydraddoldeb wedi ei chydnabod eisoes gan y Prif Weinidog, ac mae'r wlad yn teimlo yn awr y gall ymddiried yn hollol i onestrwydd y blaid sydd ag awenau y rheol- aeth yn ei dwylaw. Mae'r etholiadau di- weddaf wedi dangos fod barn y cyhoedd yn troi yn gefnogol tuag at y Rhyddfrydwyr, ac mae hynny i'w briodoli i'r datganiadau croyw sydd wedi eu gwneud gan wyr blaen- llaw y Weinyddiaeth hon. Os ca'r wlad ymddiriedaeth y rhai sy'n ei llywodraethu, byddant hwythau yn sicr ogaelymddiriedaeth y rhai sy'n eu hethol i leoedd o awdurdod, a thra y pery y bywiogrwydd presennol ni fydd eisieu pryderu am lwyddiant y blaid am y gweddill o'i hamser yn y Senedd.