Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol
Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol YMGOMWEST A CHROESAW GAN Y LLYWYDD. I MR. JOHN HINDS. p MRS. JOHN HINDS.
CYNULLIAD MAWR YN YR HOLBORN…
CYNULLIAD MAWR YN YR HOLBORN RESTAURANT. Un o'r mudiadau mwyaf llewyrchus a dylanwadol ymysg Cymry ieuainc y Ddinas yw Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol Cymreig; a nos Sadwrn diweddaf cafwyd engraifffc nodedig o'i phoblogrwydd yn y cynulliad mawr ddaeth ynghyd i'r Holborn Restaurant i gyfarfod a'r Llywydd, cyn ei ymddiswyddiad o'i awdurdod am y flwyddyn. Sefydlwyd yr Undeb rhyw ugain mlynedd yn ol, gyda'r amcan o ddwyn y gwahanol ,gymdeithasau-Ilenyddol a diwylliadol-i gydweithio yn fwy egniol ar ran materion Cymreig yn y Brif Ddinas. Erbyn hyn, mae nifer y gwahanol gymdeithasau a ffur- fiant yr Undeb yn bump-ar-hugain, a chyfrifir fod o leiaf dair mil o ieuenctyd Cymreig yn gynwysedig yn eu haelodaeth. Cynhaliant eu cyfarfodydd ym mhob rhan o'r ddinas; a thrwy gyfrwng yr Undeb trefnir nifer o wahanol gyfarfodydd rhwng-gymdeithasol er cadw'r ysbryd Cymreig yn fwy effro yn ein plith. 0 bryd i bryd, mae rhai o wyr blaenaf ein -cenedl wedi cael yr anrhydedd o fod yn lywyddion yr Undeb ac yn eu plith y di- weddar Tom Ellis a Syr Lewis Morris, yr hen batriarch Syr John Puleston, y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George, Mri. Ellis J. Griffith a Llewelyn Williams, ac Howell J. Williams (o'r Cynghor Sirol), a'r flwyddyn hon, cafwyd gan y boneddwr tirion Mr. John Hinds, Blackheath, i eistedd yng nghadair yr Undeb am dymor, a thymor hynod o lew- yrchus hefyd gaed tan ei arweiniad. Fel amlygiad o'i gariad tuag at yr Undeb, a'i werthfawrogiad o'r anrhydedd am y flwyddyn, darfu iddo ef a'i briod hygar wahodd rhyw saith gant o'r aelodau i ymgom- west fawreddus yng Ngwesty'r Holborn nos Sadwrn diweddaf, a chymaint oedd y nifer ddaeth ynghyd, fel y llanwyd Neuadd y Brenin hyd yr ymylon, a bu raid wrth wasanaeth dwy o'r neuaddau cylchynol i wneud cyfiawnder a'r llu ddaeth ynghyd. Yr oedd pob cymdeithas yn cael ei chyn- rychioli gan yr aelodau mwyaf ffyddlon a berthynai iddi, a thrwy hyn caed cynulliad o Gymry o bob cwr o'r ddinas. Yn cynrych- ioli'r pulpud yr oedd y Prif-fardd Elfed, Parchn. Herbert Morgan, Castle Street; John Humphreys, City Road J. Machreth Rees, D. Tyler Davies, F. Knoyle, Ll. Bowyer, Dr. Hartwell Jones, W. Richards, Paddington W. Thomas, Memorial Hall; Thomas Phillips, Bloomsbury a J. Hugh Edwards, Clapham. Ar ran Oymdeithas Castle Street, o't hon y mae Mr. a Mrs. Hinds yn aelodau, yr oedd yn bresennol Mr. a Mrs. B. T. Price, Mr. a Mrs. Lewis Lewis, Mr. a Mrs. B. Jones, Mr. a Miss D. Richards, Mr. a Mrs. Harry Jones, Dr. Ivor Thomas, Mr. Arthur Griffith, Mr. a Mrs. John Osven, ac ereill. 0 Jewin yr oedd Mr. D. Thomas, Mr. Will Jenkins, a tborf o ieuenctyd gweithgar. 0 Willesden Mr. a Mrs. Foulkes Jones, Mr. a Mrs. 0. Lloyd Owen ac ereill o East Ham, Falmouth Road, Olapham Junction, Chelsea, Charing Cross, a Wilton Square. Derbyniwyd y gwahoddedigion gan Mr. a Mrs. John Hinds, a Master Hinds ac ef byn hanner awr wedi wyth 'roedd y neuadd enfawr yn llawn. I ddyddori y dorf trefnodd y Llywydd i gael rhaglen ddyddorol o gerddoriaeth Gymreig, a gwasanaethwyd gan Miss Gwladys Roberts, Miss Nancy Jenkins, Mr. G. Wigley, Mri. Stanley Davies, W. Rees, a J. Pugh, ynghyd a Chor Undebol Castle Street, tan arweiniad Mr. J. Nicholas Lewis, a Mrs. Lloyd Williams a Mr. D. Richards fel offerynwyr am y noson. Rhoddodd y Cor ddarnau chwaethus, mewn modd celfgar, ac 'roedd "mynd" ar rai o'r hen alawon Cymreig. 'Doedd ryfedd i Mr. Hinds ei hun sylwi fod mwy o swyn, wedi'r cwbl, yn yr hen alawon nac oedd yn y caneuon clasurol a glywir weithiau oddiar Iwyfanau ein cyfarfodydd cyhoeddus. Caf- wyd molawd gan y Cor ei hun, yn glod i'r Llywydd am y flwyddyn, yn y geiriau a ganlyn, y rhai a gfyansoddwyd yn arbennig i'r amgylchiad gan y Prif-fardd Elfed. 'Does eisieu dweyd i'r datganiad gael derbyniad cymeradwyol iawn gan y dorf. Wele'r geiriau Ienctyd Llundain, unwn innau Dros ein iaith a gwlad ein tadau, Cadwn Walia'n ein calonau— Cymru fo am byth Cerdded drwy ein Cymdeithasau, Yspryd iach ein hen fynyddau, Seiniau can ein mwyn delynau- Cymru fo am byth Heno i'n hoff Lywydd, Llwyddiant a llawenydd; Taena'i fri o Myrddin fro- Ac uwch yr elo beunydd! Gyda'n gilydd o un galon, 0 bob sir yn unfryd unfron, Pawb i'r faner wen yn ffyddlon- Cymry fo am byth! ELFED. Am yr unawdwyr, afraid yw nodi eu rhagoriaethau; ond haedda Miss Gwladys Roberts a Mr. Stanley Davies sylw arbeanig am y modd rhagorol y canasant. A beth am stori Gwilym Hinds ei hun ? Addefa pawb fod Gwilym yn bencampwr am adrodd stori, a chafwyd engraifft o'i ddoniol- deb y noson hon, er mawr hwyl y gwran- dawyr. Mr. John Owen oedd a gofal y rhan gerddorol, a haedda glod am ei fedr a'i chwaeth yn dewis y fath ddarnau i'w cyflwyno i gynulliad o Gymry ieuainc. Wedi cael arlwy o gan, gwahoddodd y Llywydd y dorf i gael byr-bryd yn yr ystafelloedd cyfagos, a chafwyd awr ddiddan a buddiol ym mwynhad y gwahanol foethau oedd Mr. a Mrs. Hinds wedi eu trefnu ar gyfer y dorf. Rhoddwyd cyfiawnder o bob math o fwyd a diod ger bron, ac nid rhyfedd i'r dorf wneud cyfiawnder a'r oil. Yr oedd awr hanner nos yn dynesu pan ddechreuodd y dorf ymwahanu, ond cyn ffarwelio bu raid talu diolch i'r Llywydd a'i briod siriol, yr hyn a wnaed ar ran aelodau yr Undeb gan Mri. Goronwy Owen, cadeir- ydd; T. J. Evans, trysorydd; ac A. E. Rowlands, yr ysgrifennydd. Cydnabyddodd Mr. Hinds y diolch mewn dull hapus, a dywedodd nad oedd dim yn rhoddi mwy o foddhad iddo ef a Mrs. Hinds na gwneud rhywbeth er lloni a dyrchafu Cymry ieuainc tra yn preswylio yn y Babylon fawr hon. Pob llwyddiant i'r Undeb yn ei chenhad- aeth, a boed iddi gael olynydd teilwng o Mr. Hinds i fod yn ben ar ei gwaith yn ystod tymor y gauaf nesaf.
FFOI RHAG BLEIDDIAID.
FFOI RHAG BLEIDDIAID. Yn niwedd mis Tachwedd, 18C8, yr oeddym yn campio bron ar lan yr afon St. Louis, yng ngogledd-ddwyreinbarth Minnes- ota, yn chwilio am lechau o dan y N.P.R.R. Co. Ar y 29ain cawsom orchymyn i ddyfod o'r coed, ac yn fore y 30ain, yr oeddym wrthi yn brysur yn pacio yr ychydig bethau oedd gennym i'w cludo ar ein cefnau i Superior City, Wis., pellder o gylch deng milldir ar hugain. Yr oedd yn foreu braf, yr awyr yn glir, ond yr awel yn llym. 0 gylch 11 o'r gloch gadawsom y camp, tri o bersonau, a'r tri yn Gymry, gan ddilyn Indian trail, yr hwn oedd yn wyrgam dros fryniau, afonydd a chorsydd. Yr oeddym hyd at ein penliniau yn ami yn y swamps. Y modd y croesem yr afonydd oedd trwy ganlyn yr Indian Trail, yr hwn a'n harwein- iai lie y ceid un o'r pines talfrig wedi cwympo ar draws yr afon, ac felly yn gwneud pont droed dda. Erbyn tri o'r gloch y prydnawn cyrraedd- asom bentref Indiaidd Fon-du-Lac, ar lan yr afon. St. Louis. Wedi cael rhywbeth yw fwyta gan un o'r Indian Traders, aethom o gwmpas, ond ychydig o ddyddordeb oedd yno, heblaw yr Indiaid. Yr oedd amryw o'r dynion gwynion wedi priodi merched Indi- aidd, ac yn eu plith fab i gyn-Lywodraeth- wr Rhode Island, ac ymddangosai yr oil yn foddlon ar eu sefyllfa. Gan fod y lie mor anifer penderfynasom fyned yn ein blaenau, ond rhybuddiai amryw o'r Traders a'r Indiaid ni i beidio, gan fod ystorm o eira yn ymyl; ond ymddangosai yr awyr yn hynod glir i ni, a ninnau yn gryf a heinyf. Gwrth- odasom eu cyngor ac ymaith a ni. Cerdd- asom filldiroedd ar y rhew yn ein mocassins (o herwydd fod yr afon wedi rhewi er's dyddiau), yr hyn oedd yn waith blinedig ofaadwy. O'r diwedd gadawsom yr afon gan unioni trwy'r coed hyd Indian Trail pur droellog, ond cyn i ni fyned ymhell i'r goedwig dechreuodd dywyllu a'r gwynt chwythu a'r eira ddisgyn yn hynod drwchus, fel mai gwaith pur anhawdd oedd cadw'r Ilwybr. Weithiau byddem ar ben boneyff rhyw hen goeden; yna y cam nesaf at ein hanner mewn ffrwd o ddwfr a guddid gan haen deneu o rew, ac fel hyn yr oeddem yn araf dramwy hyd nes i'r nos ein dal. Eisteddasom i lawr yn yr eira i orphwys ychydig, ond torrwyd ar ddistawrwydd y nos