Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

GWYL Y CYHOEDDI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWYL Y CYHOEDDI. Dydd Mercher nesaf cynhelir Gwyl y Cyhoeddi" ynglyn a'r Eisteddfod Genedl- aethol sydd i'w chynnal yn Llundain yn 1909. Dyma un o gynulliadau pwysicaf y flwyddyn ynglyn a'r wyl, a hyderwn y gwelir Cymry'r ddinas yn lluoedd yn cym- eryd rhan yn y gweithrediadau dyddorol hyn. Mae llwyddiant yr Eisteddfod yn 1909 yn dibynnu yn hollol ar y dyddordeb a'r set a gymer Cymry'r ddinas yn yr hen sefydliad a'i thraddodiadau. Gwyr pawb am yr anhawsterau ynglyn a'r Wyl, ond gellir yn hawdd osgoi y mwyafrif o honynt, trwy i ni fel pobl wneud ein rhan i roddi'r cyhoeddusrwydd priodol i'r gwaith, a'r cyfarwyddiadau priodol i ddieithriaid a ddigwyddant fod yn y ddinas ar adeg yr Wyl. Mae enw da ac anrhydedd Cymry'r ddinas yn glymedig wrth Iwyddiant yr anturiaeth, ac ond i ni weithio yn unol a chyson, y mae'r cyfan yn sicr o droi allan yn Ilawer gwell na'r disgwyliad. Hyd yn hyn mae'r gwaith o drefnu'r rhaglen, a gofalu am y testynau priodol, wedi ei ddwyn allan gyda chryn fesur o Iwyddiant. Dywed y cantorion fod eu hadran hwy yn un o'r rhai goreu a gaed ynglyn ag unrhyw wyl yn y blynyddoedd diweddaf hyn, tra mae'r beirdd wedi llwyddo i ddewis pynciau canadwy o'r dechreu i'r diwedd. Dengys yr adran len- yddol fod y pwyllgor wedi cadw llygad ymarferol ar yr holl bynciau,, ac mae pob traethawd wedi ei fwriadu i fod o nodwedd ymarferol. Pynciau hanesyddol a buddiol yw'r cyfan, a dylai pob ua o'r gweithiau buddugol gael eu cyhceddi ar fyrder, oherwydd mae llenyddiaeth y genedl yn gofyn am y fath weithiau. Er clod i adran y celfwyr hefyd, maent hwythau wedi dewis cystadleuthau a fyddant o les arbennig i efrydwyr yn yr adran gelfyddydol. Yr amcan mawr yn y golwg gan yr holl bwyll- gorau ydyw, gwneud yr Eisteddfod yn feith- rinfa i'n bywyd Cymreig, ac yn fagwrfa i ieuenctyd talentog ein cenedl. Nid oes yn adran yr unawdau le i'r ymgeisydd proffesedig, na chyfle i'r canwr sydd wedi ennill droion yn yr hen wyl, i ddangos ei allu cerddorol eto ar draul cadw allan y talentau diweddaraf. Na, mae i bob adran ei thelerau arbennig, a dylai hyn apelio yn neillduol at y rhai a gredant yng ngwerth gwerinol yr Eisteddfod. Rhaid i'r dinas- yddion uno yn eu pybyrwch drosti, a'r unig ffordd i wneud hyn ydyw, trwy ddod yn lluoedd i'r Temple Gardens ddydd Mercher nesaf, ac yna, drefnu i fod yn yr wyl fawr a gynhelir yng ngwesty Nant Henyr unnoson. Boed i'r diwrnod fod yn ddydd gwyl gennym, oherwydd fe haedda yr hen Eisteddfod ein goreu fel cenedl, am y gwaith da a wnaeth ar ein rhan yn yr oesau sydd wedi myned heibio.

Cadw'r Iaith.

Cleber o'r CIwb.