Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
FREETH & POCOCK, LTD., -SUPPLY PIE1 Wilt mil, DIRECT FROM THE FARMS. •#- GUARANTEED FREE FROM PRESERVATIVES. Head Depot :-ALBERT EMBANKMENT, S.E. West Central Depot':—REGENTS BUILDINGS. Telephone Nos.Head Depot: Hop 1249. West Central: Holborn 1676. WAKEFIELD ST., KING'S CROSS.
GWYL Y CYHOEDDI.
GWYL Y CYHOEDDI. Dydd Mercher nesaf cynhelir Gwyl y Cyhoeddi" ynglyn a'r Eisteddfod Genedl- aethol sydd i'w chynnal yn Llundain yn 1909. Dyma un o gynulliadau pwysicaf y flwyddyn ynglyn a'r wyl, a hyderwn y gwelir Cymry'r ddinas yn lluoedd yn cym- eryd rhan yn y gweithrediadau dyddorol hyn. Mae llwyddiant yr Eisteddfod yn 1909 yn dibynnu yn hollol ar y dyddordeb a'r set a gymer Cymry'r ddinas yn yr hen sefydliad a'i thraddodiadau. Gwyr pawb am yr anhawsterau ynglyn a'r Wyl, ond gellir yn hawdd osgoi y mwyafrif o honynt, trwy i ni fel pobl wneud ein rhan i roddi'r cyhoeddusrwydd priodol i'r gwaith, a'r cyfarwyddiadau priodol i ddieithriaid a ddigwyddant fod yn y ddinas ar adeg yr Wyl. Mae enw da ac anrhydedd Cymry'r ddinas yn glymedig wrth Iwyddiant yr anturiaeth, ac ond i ni weithio yn unol a chyson, y mae'r cyfan yn sicr o droi allan yn Ilawer gwell na'r disgwyliad. Hyd yn hyn mae'r gwaith o drefnu'r rhaglen, a gofalu am y testynau priodol, wedi ei ddwyn allan gyda chryn fesur o Iwyddiant. Dywed y cantorion fod eu hadran hwy yn un o'r rhai goreu a gaed ynglyn ag unrhyw wyl yn y blynyddoedd diweddaf hyn, tra mae'r beirdd wedi llwyddo i ddewis pynciau canadwy o'r dechreu i'r diwedd. Dengys yr adran len- yddol fod y pwyllgor wedi cadw llygad ymarferol ar yr holl bynciau,, ac mae pob traethawd wedi ei fwriadu i fod o nodwedd ymarferol. Pynciau hanesyddol a buddiol yw'r cyfan, a dylai pob ua o'r gweithiau buddugol gael eu cyhceddi ar fyrder, oherwydd mae llenyddiaeth y genedl yn gofyn am y fath weithiau. Er clod i adran y celfwyr hefyd, maent hwythau wedi dewis cystadleuthau a fyddant o les arbennig i efrydwyr yn yr adran gelfyddydol. Yr amcan mawr yn y golwg gan yr holl bwyll- gorau ydyw, gwneud yr Eisteddfod yn feith- rinfa i'n bywyd Cymreig, ac yn fagwrfa i ieuenctyd talentog ein cenedl. Nid oes yn adran yr unawdau le i'r ymgeisydd proffesedig, na chyfle i'r canwr sydd wedi ennill droion yn yr hen wyl, i ddangos ei allu cerddorol eto ar draul cadw allan y talentau diweddaraf. Na, mae i bob adran ei thelerau arbennig, a dylai hyn apelio yn neillduol at y rhai a gredant yng ngwerth gwerinol yr Eisteddfod. Rhaid i'r dinas- yddion uno yn eu pybyrwch drosti, a'r unig ffordd i wneud hyn ydyw, trwy ddod yn lluoedd i'r Temple Gardens ddydd Mercher nesaf, ac yna, drefnu i fod yn yr wyl fawr a gynhelir yng ngwesty Nant Henyr unnoson. Boed i'r diwrnod fod yn ddydd gwyl gennym, oherwydd fe haedda yr hen Eisteddfod ein goreu fel cenedl, am y gwaith da a wnaeth ar ein rhan yn yr oesau sydd wedi myned heibio.
Cadw'r Iaith.
Cadw'r Iaith. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn addaw i ehangu ei therfynau. Mewn cyfarfod a gafwyd yr wythnos hon, yng Nghaerdydd, penderfynodd y Pwyllgor gychwyn adran newydd i gefnogi darllen ac astudio yr iaith ar yr aelwydydd gartref. Perygl y mudiad ynglyn a chadwraeth y Gymraeg ydyw, iddo farw drwy ddifaterwch y rhai sy'n gofalu am y Gymdeithas, a difrawder y cyhoedd. Erbyn hyn, mae pawb yn cydnabod y doeth- ineb o ddysgu Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg. 'Does neb yn wrthwynebol i astudio'r Gymraeg yn ein hysgolion gwledig ychwaith; a chan nad oes yr un gwrth- wynebiad, mae lie i ofni fod y mudiad yn dechreu colli tir, a da y gwna'r Pwyllgor i dorri gwaith newydd o'u blaen erbyn y gauaf nesaf. Gall llawer o Gymry'r Ddinas gynorthwyo y dosbarthiadau darllen hyn, a phe cawsid undeb priodol o'r gwahanol gym- deithasau llenyddol, ar hyd a lied Cymru, gallasai fod o les dirfawr i ehangu'r brwd- frydedd iaith-garol, a chadw'r bywyd cened- laethol yn fwy effro. Gyda'r manteision addysgiadol sydd gennym yng Nghymru heday-w, ni ddylai fod un anhawster i ychwan- egu at rif y rhai sydd yn ei haddysgu yn y sefydliadau hyn; ond cyn y gellir disgwyl i'r plant gymeryd o ddifrif at yr iaith, rhaid i ddynion a merched ieuainc ein csnedl, yn ogystal a'n penau-teuluoedd, ddangos eu sel dros yr hen iaith a'r ffordd effeithiolaf i wneud hynny fyddai drwy ddarllen ei llen- yddiaeth yn ein oriau hamddenol, yn ol y cvnllun a gynnygir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Cleber o'r CIwb.
Cleber o'r CIwb. Nos FERCHER. Yr oedd amryw o honom yn dadleu sef- yllfa bresenol y Ddirprwyaeth Eglwysig pan ddaeth Mr. Vincent Evans i mewn am ychydig seibiant. 'Roedd yn chwys dyferoi, ac ar oi sychu ei dalcen a chael ei anadl, wele ef yn egluro ei brysurdeb gyda gwen o foddhad. 'Roedd John Hinds yna," meddai, wedi gyrru'r Cymmrodorion i gryn benbleth. Un o gyfarfodydd mawr, urddasol, bynheddig, ac exclusive gyda ni'r Oymry yn Llundain, oedd ymgomwest y Cymmrodorion, ond wele Hinds yn awr, welwch chi, wedi codi Undeb y Cymdeithasau i'r un lefel a'r Cymmrodorion. Too bad, wir, ac 'rwyf it wedi bod ar fy eitha, er nos Sadwrn hyd yn awr yn ceisio dyfeisio sut i guro ei Ym- gomwest ef." Wei, a ydych wedi Ilwyddo," holai Norick. Os ydych, fe fydd yn gredit i chi. Waeth 'roedd croesaw John Hinds y nos o'r blaen yn un o'r cyfarfodydd goreu y bu'm i ynddo erioed." 0, rhaid addef," ebe Vincent, ei fod ef a Mrs. Hinds wedi gwneud y cyfan yn rhag- orol; mewn gwirionedd, yn rhy dda i gym- deithas fel yr Undeb. Ond 'rwyf yredi llwyddo i gael y goreu arno eto. Heddyw cefais addewid gan bobl y pysgod y caf fenthyg eu neuadd eang at wasanaeth y Cymmrodorion o hyn i ddiwedd Mehefin, ac yna os gallaf gael Arglwydd Tredegar i dderbyn y gwahoddedigion bydd urddas yr Hen Gymmrodorion mor uchel ag erioed." A thra 'roeddem yn cydlawenhau ag ysgrifennydd poblogaidd yr hen gymdeithas urddasol, pwy ddaeth i fewn, gan dynnu mwg o'i sigaret, ond y Member for Treorky." Holo, Mr. Rowlands," ebwn wrtho, "sut y mae ers cantoedd." How are you, old chap," oedd ateb siriol y gwr sydd wedi ail-gychwyn i farnu'r blaid wleidyddol Gymreig. Beth yw'r llyfr yna ydych wedi gyhoeddi ar Fradychiad Cymru," meddwn. Yr ydych wedi dangos anwybodaeth mawr o helyntion y mudiadau gwleidyddol yng Nghymru yn ystod y deuddeng mlynedd diweddaf hyn." Sut hynny ? oedd ei ateb. Wel, dyma chi, fel uchel eglwyswr- nea Babydd, yn ol rhai-yn ceisio dangos eich sel ar ran yr Ymneillduwyr, ac yn beio yr aelodau am nad ydynt wedi llwyddo i gael Dadgysylltiad i ni ar unwaith. Pie 'roeddech yn ystod y deng mlynedd y bu'r Toriaid i fewn ? Beth wnaethoch ar ran Cymru ar ol i'ch tad parchus roddi heibio ei sedd dros wlad y Cardis ? a pham y rhaid i chwi greu anghydfod yn awr pan yr ydym ar fin ennill yr hyn a obeithiasom am dano mor hir ? Wrth glywed ein dadl wele ereill o'r cwmni yn ceisio am eglurhad. "At bwy lyfr y cyfeiriwch," ebai Norick, a bu raid i mi introdusio Mr. Rowlands iddynt fel yr awdwr. Mae'n wir mai fet The Member for Treorky yr adnabyddir ef yn gyffredin, ac ar un adeg yr oedd cryn ddarllen ar ei ysgrifau. Ond yr oedd y pryd hwnnw yn awyddu bod yn gryn glamp o Seneddwr. Yn awr y mae wedi cilio i neillduedd ac o'r neillduedd hwnnw y mae'n beiddio rhedeg pawb i lawr, ac am awgrymu fod Mr. Lloyd-George wedi troi yn fradwr i Gymru. Bu hyn yn ddigon i yrru'r cwmni yn ben-ben, a chaed dadl hir tan hanner nos ar sefyllfa pethau yn y blaid Gymreig heddyw. Ond y diwedd fu i bawb addef ei bod yn llawn cystal ag y bu erioed, ac mai'r hyn sy'n angenrheidiol yn awr yw ymarfer ychydig amynedd a chyd-weithrediad, ac fe ddaw ein holl ddymuniadau i ben. Ap SHON.