Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

BENDITH Y BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BENDITH Y BEIRDD. Mae Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, yn ol braint a defawd, wedi rhoddi ei chymera- dwyaeth i Eisteddfod fawr Caerludd, a gynhelir yn 1909. Daeth yrArch-dderwydd gyda gosgorddlu o feirdd i'r brif ddinas ddydd Mercher gan gyflawni y gweithred- iadau yn ol gofynion yr Urdd, a bellach gall Cymry'r ddinas fyned ymlaen gyda'r gwaith yn hyderus oherwydd arnynt hwy y gor- wedd y cyfrifoldeb weithian. Caed y cwrdd cyhoeddus hwn o dan am- gylchiadau hynod o foddhaus. Yr oedd yr hin yn des)g, a'r cwmlli yn lliosog, a phawb yn cym9ryd dyddordeb yn y gweithrediadau. Nid yn unig caei y Cymry i deimlo dydd- ordeb yn yr Wyl, eithr torrwyd tir newyd gan y wasg Seisnig, yr lion a roddodd hys- bysiadau hynod o ffafriol i'r cyfan. Mae hyn yn arwydd er daioni, a dengys fod gobaith bywyd gweU hyd yn oed yng ngwasg felen y Sais. Yn y wledd a ddilynodd y "cyhoeddi" caed areithiau brwdfrydig, a chenedlgarol gan amryw o wyr urddasol, ac ond i ninnau, fel Oymry, gario allan y rhaglen a'r adde- widion a wnaed y nosin hon, ni raid pryderu am Iwyddiant yr wyl; nid yn gymaintosafle arianol, eithr fel addysgydd y werin, ac fel sefydliad a'n cynrychiola, fel pobl ar ein goreu, oherwydd dyna, wedi'r cyfan, yw cenhadaeth bennaf yr Eisteddfod Genedl- aethol i GymIu a'r byd.

A BYD Y GAN.

MARWOLAETH MR. DAVID JONES