Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

I 'Eisteddfod Caerludd, 1909.…

MARWOLAETH MR. DAVID JONES

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

oedd Mr. Chapman a'i deulu, a diau i sel enwadol y teulu hwnnw ddylanwadu i wneud y dyn ieuanc, David Jones, yn Anibynwr selog a goleuedig. Daeth yn amlwg a gweith- gar yn fuan yn eglwys yr Anibynwyr Cym- reig yn y lie. Tra yno, ffurfiodd adnabydd- iaeth agos a'r cerddor, John Ambrose Lloyd, yr hyn a wnaeth les iddo i'w ddadblygu fel .9 cerddor a llenor o allu a chwaeth bur. Symudodd o'r Drefnewydd i fasaachdy yn Croesoswallt, a daeth yn wir ddefnyddiol yn eglwys yr Anibynwyr Cymreig yn y dref honno. Cymerai gryn ddyddordeb yng nghaniadaeth y cysegr ac yn llenyddiaeth ei wlad. Rhagfyr 28, 1865, priododd a Miss Jane Evans, merch Mr. a Mrs. Edward Evans, o'r Brithdir, yr hon oedd yn aros gyda'i hewythr yng Nghroesoswallt,a daethant i gario ym mlaen fasnach yn 44, Church Street, Whitechapel, E. [Hanbury Street yn awr]. Aeth oddiyno, yn 1866, i 552, Com- mercial Road, E ac yno y treuliodd weddill ei oes, gan gario ym mlaen fasnach helaeth yno ac yn Brick Lane ac Union Street, Shore- ditch. Ymaelododd ef a'i briod yn yr •eglwys Anibynol G-ymreigyn Aldersgate St., lie yr oedd dwy o'i chwiorydd yn aelodau eisoes. Ei chwaer, Miss Jane Jones, oedd un o'r rhai aethant allan o'r Boro' i gychwyn yr achos yn Aldergate Street. Daliodd Mr. Jones a'i deula yn ffyddlon wrth yr eglwys yn Aldersgate Street, yn Cymry Hall, Hackney Road, yn Ware Street, Kingsland Road, ac yn Barrett's Grove, Stoke Newington. Drwy ei lafur ef yn bennaf yr adeiladwyd addoldy Barrett's Grove ac ymdrechodd yn ddi-ildio nes talu pob ceiniog o'r ddyled oedd arno. Cododd Mr. Jones chwech o blant, sef Nellie, Annie, John, David, Edward, a William, ac y mae yr hynaf, Mrs. Nellie Jones, yn adnabyddus drwy holl gylchoedd cerddorol Cymru a phrif drefi Lloegr, ar gyfrif ei medr a'i gallu cerddorol. Rhagorai Mr. Jones, nid fel siaradwr cyhoeddus-medrai wneud hynny yn gryno, galluog, miniog, ac i bwrpas-ond fel ysgrifennydd, trefnydd, a gweithiwr difefl. Ysgrifennodd lawer i'r newyddiaduron, dan yr enw Meirionfab, ac yr oedd ei ysgrifau bob amser yn gryno, eglur, a chwaethus. Rhydd- f rydwr selog oedd mewn gwleidiadaeth, ac yr oedd yn edmygydd dirfawr o'r arwein- wyr mewn gwleidiadaeth a chrefydd: yr oedd yn arwr-addolydd mawr. John Ambrose Lloyd oedd ei hoff gerddor, alliraethog oedd ei hoft fardd. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth ei hunan o bryd i bryd. ,Cenir ei benillion yn ami yn ein cyng- herddaii Cymreig. Yr oedd yn eisteddfodwr gwresog drwy ei oes, ac enillodd yn agos i £ 300 o wobrau gyda'i gor o Barrett's Grove, y rhai a gyflwynodd i drysorfa y capel. Edrychai yn ddyn cydnerth, llyfndew, hyd y gydmarol ddiweddar, pan afaelodd y diabetes ynddo, yr hyn a wanhiiodd ei galon yn fawr. Ni chyfyngwyd ef i'w wely ond pum niwrnod, ac o herwydd methiant y galon, hunodd yn esmwyth cyn machludiad haul. Cafodd farw yn yr haf ac aeth i fyw i wlad lie y mae yn haf o hyd. Dydd Gwener, Mehefin 5, claddwyd ef yn Abney Park. Daeth tori fawr i'w arwyl. Gwasanaethwyd yn y tv gan y Parchn. J. Machreth Rees, a D. C. Jones. Yng nghapel Barrett's Grove, gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Machreth Rees, Llewelyn Bowyer, J. Wilson Roberts, Edward Owen, B.A., S. R. Jenkins, B.A., D. Adams, B.A., J. M. Prytherch, ac E. T. Owain, a Mr. David Richards wrth yr organ. Ar lan y bedd, .gweinyddwyd gan y Parchn. W. Rees, D. C. Jones, D. Oliver, a J. Machreth Rees. Cafodd gladdedigaeth urddasol, teilwng o wr Duw. Cafodd ddiwrnod hafaidd, hyfryd, i'w daith olaf ar y ddaear, ac ymlifa cydymdeimlad ffiawr cylch helaeth o gyfeillion i ddiddanu {jJ; weddw, ei blant, ei wyrion, ei unig chwaer oedranus, a'i holl berthynasaii yn eu hiraeth dwfn. Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd Yn Salem fry oddeutu'r bwrdd." OLAF.