Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Dylai'r Methodistiaid fod yn ddiolchgar i'w cynrychiolwyr yn y Gymanfa Gyffred- inol am yr apel daer wnaethant ar ran yr Eglwysi yn Llundain. Ar ol dadl frwd a llawer o siarad, penderfynodd y Gymanfa (I gyda mwyafrif mawr roddi grant o £100 i Lundain eleni eto.
Advertising
TO DAIRYMEN.—An Adjourned Meeting will be held at the Mission Hall,. Union Street, near Shoreditch Church, on WEDNESDAY NEXT, at 8 p.m. Very important. Gampwaith DANIEL OWEN, Y NOVELYDD ENWOG. 8888888888DDDDDDDDDDDDDO PRYDNAWN DYDD SADWRN, GORFFENNAF 4. RHODDIR PERFFORMIAD O'R DDRAlJIA GYMRAEG ENWOG, RHYS LEWIS, Fel y chwareuwyd hi, gyda llwyddiant mawr, yn y Rhyl, Caer, Wyddgrug, &c., 0 dan arolygiaeth MR. J. MORGAN EDWARDS, M.A., Oxon., GAN EI GWMNI TALENTOG, YN Y = Coiart Theatre, « SLOANE SQUARE, LLUNDAIN. Manylion Pellach yn Fuan. Cadwch y Dydd yn Rhydd. Bydd y Perfformiad yn un o gyfres, o dan nawdd yr* Irish Stage Society, a Cliymdeithas Geltaidd Lluiidain- AIDA O'CONNOK, Ysg. Myg. yr Irish Stage Society, 20, Hanover Square, W. S. R. JOHN, Ysg. Myg. Cymdeitbas GeltaiddLlundain. 129, Alexandra Road, Wimbledon, S.W. THE LONDON WELSHMAN AND KELT is a high-class Family Paper, and counts among its contributors the most prominent Welsh Scholars and Writers. It is a unique Advertising medium, as an its columns are READ. The only Welsh Paper Published in LondoTIi EVERY SATURDAY. ONE PENNY. NOTE.-Advertisements must reach the Office by Wednesday morning for insertion in the current week's number. Advertise- ments for insertion in THE LONDON WELSHMAN AND KELT will be trans- lated into Welsh free of charge.
I 'Eisteddfod Caerludd, 1909.…
Ar ol derbyn yr Aberthged caed anerchiad byr gan yr Archdderwydd. Datganodd ei lawenydd o gael cynnal Gorsedd ar Alban Hefin yn Llundain, ynglyn a'r hen sefydliad, yr Eisteddfod. Yr oedd yn hen iawn, ac fel pobpeth hen arall, yn parhau i fyned yn fwy gwerthfawr. Goreu trysor, trysor hen," meddai, a gwnai hynny arwyddair priodol i'w osod ar amgueddfa newydd Cymru. Yr Eisteddfod yw'r sefydliad addysgol cyntaf sydd mewn bod gennym- dyma hen goleg y werin gynt, a'n dyled- swydd ninnau yw parchu a chadw traddod- iadau y genedl, oherwydd byddai colli bias at bethau goreu y genedl yn arwydd o wendid a dirywiad. Yna galwodd ar Elfed a'i felfed fin i roi araith i'r werin. Araith fer gaed gan Elfed i roddi croesaw i'r Orsedd i Lundain, ac i ddymuno gweled y torfeydd yn dod eto i'r wyl ym mhen blwyddyn. Ar ol hyn caed cyfres o benillion gan Eos Dar, ac yna anerchiadau gan y Beirdd:- Machreth, Dewi Fychan, Ben Davies, Gwynedd, a Pedrog; Pedrog awenog anian," ebe'r Archdderwydd, "main ei gorff ond mwyn ei gan." Yn ei araith o ben y Maen Llog, dywedodd Ben Davies fod yr Orsedd megys o dir ei gwlad, eto yn edrych yn bur gartrefol. Paham lai ? Bu yn Llydaw ar un adeg, ac yna bu yn torri llwybr i fyd newydd drwy ymweled a'r Unol Daleithau rai blynyddau yn ol. Dywed yr Orsedd wrthym am fod yn deyrngar i'n hiaith a'n defion. Rhaid i'r Cymro ddal yn dyn wrth ei hen bethau da, a pheidio eu hanghofio yn nhir yr estron. Os yw Cymry yn dod i Lundain, dylid cofio hefyd fod Llundain a'i dylanwadau yn treiddio i Gymru. Mae galwad arnom ni, sy'n cynrychioli y genedl o'r tuallan, i fod yn ffyddlon i ddefion ein gwlad a'n cenedl. Caed cainc ar y delyn eto gyda rhagor o benillion gan Eos Dar. Cyflwynodd y Vinsent restr testynau 1909, y rhai a argreffir i'r cyhoedd cyn diwedd y mis hwn, a chaed sylwadau arnynt gan y beirdd Machreth, Elfed, ac Ap yr Hen Wyliedydd. Teimlai Pedrog yn gynhyrfus, meddai, wrth annerch y dorf enfawr. Ddoe yr oedd wedi bod yn Siamber y Dychryniadau yn Madame Tussaud, heddyw yng ngwyl hedd yr Orsedd. Yr oedd y cyfnewidiad mor fawr fel nas gwyddai beth i siarad. Ysbryd y creulon a'r marw gaed yn y naill, ond ysbryd bywyd oedd yn hon, set ysbryd cenedl yn dod i'w hawliau, a dyna geid ymysg Cymry Llundain. Yr oeddent yn barod i weithio ac aberthu tros eu hiaith a'u lien. Dyna oedd eu hanes ar hyd yr oesau, ac yn nech- reu y ganrif o'r blaen, doedd neb mor gef- nogol i'r Eisteddfod a gwyr cenedlgarol Llundain. Hysbysodd Arglwydd Aberdar fod y B renin a'r Frenhines, yn ogystal a Thywysog Cymru a'r Dywysoges wedi rhoddi eu nawddogaeth urddasol i'r Eisteddfod a gyn- helir yn Llundain yn 1909, ac ar ol areithiau byr gan Gwynedd, Gwynfe, ac Arlunydd Penygarn, ar werth yr Eisteddfod a'i hen- afiaeth, daeth cynrychiolydd o Langollen i wahodd pawb i'r wyl a geir yno ym mis Medi nesaf. Ar derfyn y siarad dacw'r Archdderwydd yn cymeryd y cledd, ac yn gofyn a oes heddwch, ac atebodd y miloedd Heddwch Wedi cael y sicrwydd hyn dair gwaith, gosodwyd y cledd yn y wain, lie y gorwedd yn dawel hyd adeg gwyl Llangollen. Gwahoddwyd cannoedd o'r ymwelwyr ac aelodau y pwyllgor i de gan Mr. a Mrs. Llewelyn 'Williams, A.S., yn neuadd eang y Temple, ac yr oedd bias arno ar ol poethder yr hin yn y gerddi agored. Profiad llu o hen eisteddfodwyr oedd fod Gwyl y Cyhoeddiad yn Llundain yn un o'r rhai mwyaf hwyliog a difyr a gaed ers hir amser, ac os ceidw yr Eisteddfod at yr un safon uchel ni fydd raid i ni ofni am ei lies a'i llwyddiant. URDDAU YR ORSEDD. Cyflwynwyd urddau anrhydeddus yr Or- sedd ar y boneddigion a ganlyn, ddydd Mercher :—Mr. J. Prichard Jones, Y.H., i'w adnabod, o hyn allan, fel "loan Ceinwen"; Mr. John Hinds fel Glan Towy," Mr. J. T. Lewis fel "loan Glan Llethi," Dr. D. L. Thomas fel Trefhedyn," a Mr. Richard Roberts, Y.H., fel Risiant Ystwyth." MANION EISTEDDFODOL. Ar ol gwyl y cyhoeddi yn y prydnawn caed gwledd y beirdd yn yr hwyr, pryd yr areithiwyd gan amryw o honynt. Ceir y manylion yn ein nesaf. Ym mis Tachwedd, 1886, y caed y cwrdd "cyhoeddi" ddiweddaf yn Llundain, ond ychydig o'r beirdd oedd yn y cyfarfod hwnnw welwyd yn y cyhoeddi ddydd ool Mercher. Dyma rai o arwyr 1886. ClwydJ fardd (Archdderwydd), Gwalchmai, Hwfa Mon, Cadfan, Llew Llwyfo, Nathan Dyfed, Llyfrbryf, Dewi Mon, Tafolog, ac Idris Fychan. Yng nghylch yr Orsedd, gwelsom, ym mysg ereill, yr Archdderwydd Dyfed, Gwyn- edd, Eifionydd, Ben Davies, Gwynfe, Eos Dar, Arlunydd Penygarn, Machreth, Elfed, Pedrog, Mr. a Mrs. Llewelyn Williams, Mr. a Mrs. Timothy Davies, Arglwydd Aberdar, Syr John Williams, Dr. Hartwell Jones, Syr Alma Tadema, Syr Norman Lockyer, Mr. M. T. Morris, Caernarvon Mr. E. D. Jones, Llangollen Pencerdd Gwalia, Mrs. Alicia Needham, a Syr D. Brynmor Jones. Faint oedd nifer y dorf ddaeth i weled y cyhoeddi ? Mae'n anhawdd dweyd; ond gellir yn hawdd anturio ar bum mil. Yr oedd y gerddi yn llawn o bob llecyn lie y ceid golwg ar gylch yr Orsedd. 0 blith aelodau y Ddirprwyaeth Eglwysig yr oedd Syr Brynmor Jones, Syr John Williams, a Mr. J. H. Davies yn yr Orsedd. Yr oedd ffrae. fawr wedi bod yn gynnarach yn y prydnawn yn eisteddiad y Ddirprwy- aeth, a doeth y gwnaeth yr aelodau ddod i gylch hedd am dro. 'Dyw Marchant ddim yn fardd, yn ol ei dystiolaeth ei hun, yng ngwledd y beirdd- dim ond critic beirdd ydyw. Rhy hir oedd seremoni'r Orsedd, ddydd Mercher, yn ol rhai beirniaid. Wel, gallesid yn hawdd gwtogi rai o'r areithiau tua'r diwedd; ond, ar y cyfan, aeth popeth ym- laen yn lied hapus. Ni fu erioed y fath nifer o cameras tu fewn i gylch yr Orsedd ag a gaed yn hon. Gwelid ugeiniau o'r offerynau diweddar hyn yn pwyntio eu pigau at yr Archdderwydd, a phawb o'r hil a gymerent ran ar y Maen Llog. Addefir fod Eos Dar ar ei oreu yn yr wyl hon. Dyma rai o'i gyfeiriadau at Gymry Llundain:— Er fod bechgyn digon cymwys Yn y Ty ar lan y Tafwys, Y maent yno wedi methu Myn'd ymlaen heb fechgyn Cymru. # I dd'all cyfraith gwlad yn amlwg Rhaid oedd myned i Forganwg, Ac i drefnu pres y goron Rhaid oedd myned i Gaernarfon. Ein Vinsent brysur yma sydd Cadeirydd mil pwyllgorau; Ac Elfed fwyn a Machreth Rees, Gwyr dilys gar y diliau; Ac er rhoi trefn ar wyr Gaerludd, Eifionydd ddaeth a minnau. Fe gar awenau heddwch llawn, A difyr iawn eu defod, Ac ni ddaw cloch un suffragette I garpet yr Eisteddfod; Eisteddai merched yn ein mysg A'u terfysg wedi darfod.