Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. YR ESGOB.- Ynglyn a'r uchel wyliau Eglwysig pregethir yn Eglwys St. Benet nos yfory gan Esgob Llandaff. Y GYNGRES FAWR.—Mae Llundain yn llawn yr wythnos hon o gynrychiolwyr i'r Gyngres Oll-Eglwysig. 0 bob talaeth a threfedigaeth drwy y byd yn gyfan, lie y siaredir Saesneg ceir fod rhai cynrychiolwyr wedi eu danfon i'r uchel wyliau hyn. ADSAIN YR WYL.—Ni chlywir dim ond canmoliaeth uchel i'r trefniadau ynglyn a gwyl y cyhoeddi a gaed yma ynglyn a'r Eis- teddfod yr wythnos ddiweddaf. Rhoddir hanes y wledd yn y rhifyn hwn, a thystia'r beirdd fuont yma ar ymweliad a ni, fod y croesaw iddynt yn un digymar. URDDAU'R ORSEDD.—Y rheswm paham yr urddwyd y pum' person a enwyd gennym yn y rhifyn diweddaf oedd eu cysylltiad swydd- ogol a'r Eisteddfod. Mae'r pump yn dal swyddi pwysig ar y pwyllgor, ac felly yn hawlio cael eu cydnabod fel trefnwyr y wledd. A phwy wyr nas gellir gwneud bardd o un neu ddau o honynt ryw ddydd ? Dywedir y bydd ereill i gael yr un breintiau pan ddaw yr Eisteddfod ei hun i'n plith COFFA MEIRIONFAB.—Nos lau yr wythnos ddiweddaf, caed cyfarfod coffa ar ol y di- weddar Mr. David Jones, Commercial Road, yn nghapel y Gohebydd," Barrett's Grove. Pregethwyd yn effeithiol gan y Parch. J. Machreth Rees, a chaed ychydig sylwadau gan y Parch. H. Elfet Lewis, M.A. Daeth cynulliad mawr ynghyd, ac yn ystod y gwasanaeth caed datganiad gan y cor o'r anthem "Dyddiau dyn sydd fel glas- welltyn." CLADDEDIGAETH MRS. JONES, CLAREMONT.— Yn Abney Park y daearwyd gweddillion Mrs. Jones, Claremont. Cymerodd y gladdedig- aeth le ddydd lau, Mehefin lleg, a daeth tyrfa liosog ynghyd i dalu'r gymwynas olaf o barch iddi. Gweinyddwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y Parchn. D. C. Jones, Boro'; J. Machreth Rees; a H. Elfet Lewis, M.A. Yr oedd y trefoiadau ynglyn a'r gladdedig- aeth yng ngofal y Mri. Cooksey & Son. HEN AELOD.—Yr oedd Mrs. Jones yn un